Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol
Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 a'u llofnodi fel
cofnod cywir. |
|
Cylch Gorchwyl. (Er Gwybodaeth) PDF 200 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd Gylch Gorchwyl ar gyfer y
pwyllgor, 'er gwybodaeth’. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol
adroddiad "er gwybodaeth" i roi trosolwg i'r Pwyllgor Cyflawni
Corfforaethol Diogelu Pobl a Threchu Tlodi newydd o'r cynnydd a wnaed hyd
heddiw gan y Pwyllgor Datblygu Pobl, mewn perthynas â'r rhaglen waith ar gyfer
2021-2022, unrhyw waith sydd heb ei wneud o hyd ac i nodi argymhellion i
Aelodau perthnasol y Cabinet ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol yn y
Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol newydd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Joanne
Portwood, Swyddog Strategaeth a Pholisi adroddiad "er gwybodaeth" i
roi trosolwg i'r Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Diogelu Pobl a Threchu Tlodi
newydd o'r cynnydd a wnaed hyd heddiw gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau
Tlodi, mewn perthynas â'r rhaglen waith ar gyfer 2021-2022, unrhyw waith sydd
heb ei wneud o hyd ac i nodi argymhellion i Aelodau perthnasol y Cabinet ar
gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol yn y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol newydd.
|
|
Trafordaeth Cynllun Gwaith Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Esboniodd y
Cadeirydd y disgwylir i'r strwythur newydd i gefnogi'r Pwyllgorau Cyflawni
Corfforaethol a fyddai'n cysylltu â'r Blaenoriaethau Corfforaethol gael ei
ystyried gan y cyngor ar 7 Gorffennaf 2022. Unwaith y cytunwyd arnynt, gallai’r Pwyllgor gytuno ar ei gynllun
gwaith. Yn dilyn
trafodaethau gyda'r Cadeirydd, awgrymodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol y dylai'r Pwyllgor ddewis 3 phwnc - un yr un o'r Gwasanaethau i
Oedolion, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Threchu Tlodi. Dywedodd y Pwyllgor yr hoffent hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y PDP Pobl a'r PDP Trechu Tlodi blaenorol sydd heb ei gyflawni. |
|
Dyddiad ac Amser y Cyfarfodydd Dyddiad Trafodaeth. Penderfyniad: Cyfarfodydd yn y dyfodol I gychwyn am 4 pm. Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddyddiad ac amser cyfarfodydd y dyfodol: Penderfynwyd y bydd yr holl gyfarfodydd yn y dyfodol yn dechrau am 4pm (yn hytrach na 3.30pm). |