Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:-

 

Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, M Jones ac F D O’Brien gysylltiadau personol â Chofnod 19 – Gwobrwyo a Chydnabod Gwaith.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, M Jones ac F D O'Brien gysylltiadau personol â Chofnod Rhif 19 - Gwobrwyo a Chydnabod.

18.

Cofnodion: pdf eicon PDF 304 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 fel cofnod cywir.

19.

Gwobr a Chydnabyddiaeth. pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rachael Davies, Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi gwybod i'r cyngor am Strategaeth Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth bresennol y cyngor.

 

Amlinellwyd bod ymagwedd y cyngor tuag at y Strategaeth Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth yn cael ei manylu yn Natganiad Polisi Tâl blynyddol 2022/23. Mae’n ofyniad statudol yn unol â Deddf Lleoliaeth (2011) lle mae’n rhaid i awdurdodau Cymru a Lloegr gyhoeddi Datganiad Polisi Tâl yn flynyddol, sy’n nodi eu hymagwedd at bob agwedd ar dâl a chydnabyddiaeth. Mabwysiadodd Cyngor Abertawe'r datganiad cyflog blynyddol ddiwethaf ym mis Mawrth 2022.

 

Esboniwyd bod y Datganiad Polisi Tâl yn ymdrin ag agwedd y cyngor at daliadau ariannol, ychwanegiad y farchnad, taliadau honoraria, y cysylltiad â chyflog a pherfformiad, taliadau ymadael, diswyddo gwirfoddol a chynlluniau pensiwn. Nid yw'n cynnwys unrhyw fuddion heb fod yn ariannol.

 

Nodwyd mai tâl oedd y cyfrannwr unigol mwyaf sy'n dylanwadu ar becynnau taliad cydnabyddiaeth cyffredinol. Mae'r cyngor yn mabwysiadu dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol pan gytunir arnynt rhwng cyflogwyr cenedlaethol ac undebau llafur. Darparwyd manylion colofnau/graddau cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol (CGC) yn Atodiad A.  Cyfeiriwyd hefyd at y broses Arfarnu Swyddi ac honoraria.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), amodau a thelerau cyflogaeth, buddion heb fod yn ariannol, cydnabod perfformiad, adborth staff, Strategaeth Gweithlu 2022-2027 ac ystyriaethau yn y dyfodol.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Effaith grymoedd y farchnad ar y Polisi Recriwtio a Chadw a sut yr oedd yn anodd llenwi rhai rolau heb rywfaint o dâl ychwanegol dros gyfnod o amser cyfyngedig.

·         Y gwahaniaethau rhwng cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol a chyflog uwch-swyddogion/swyddogion o wahanol gynlluniau.

·         Rôl Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr

·         Manylion y gweithlu o ran rhyw, anabledd a hil a'r wybodaeth ychwanegol a fyddai ar gael yn hyn o beth gyda chyflwyniad i Oracle Fusion.

·         Nifer y Seicolegwyr Addysg a gyflogir gan yr Awdurdod, a fyddai'n cael ei egluro gan Swyddogion.

·         Y Polisi Gweithio Hyblyg a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet ac adolygu’r system oriau hyblyg bresennol.

·         Y gwahanol ddulliau o weithio a ddefnyddir gan wahanol gyfarwyddiaethau.

·         Faint o weithwyr rhan-amser oedd yn gyffredinol yn fenywod ac ar gyflog isel.

·         Sut roedd yr Awdurdod wedi cytuno i gefnogi gweithwyr ar ben isaf y cynllun tâl ac effaith hyn ar yr economi leol.

·         Sicrhau bod nifer yr ymatebwyr yn cael ei adrodd yn ogystal â chanrannau o ran adborth staff ac ymgysylltu â'r staff hynny nad ydynt ar e-bost.

·         Y tri pherson a oedd yn trafod ac yn gwrando y cyfeiriwyd atynt yn ddiweddar mewn cyflwyniad ar y cyd gan y cyngor ag Archwilio Cymru.

·         Ffurfio grŵp cydraddoldeb staff a defnyddio'r grŵp i gynorthwyo gydag ymchwil.

·         Cydnabod perfformiad drwy amrywiol ddulliau fel sesiynau un-i-un a gwobrau.

·         Staff yn cael yr hyder a’r gefnogaeth i wneud sylwadau, gwrando ar sut mae staff yn teimlo ac ymgysylltu ystyrlon.

·         Pwysigrwydd diolch i staff am eu hymdrechion ac edrych ar ffyrdd eraill i'r Awdurdod ddangos ei werthfawrogiad.

·         Yr ymarfer ‘diwrnod yn ein hesgidiau ni’ lle mae rheolwyr yn gweithio o fewn timau i werthfawrogi’r gwaith sy’n cael ei wneud.

·         Y posibilrwydd o ailgyflwyno gwobrau gwasanaeth hir.

·         Canolbwyntio ar wobrau heb fod yn ariannol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau am ei hadroddiad.

20.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 124 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd ‘er gwybodaeth’ Gynllun Gwaith y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Trawsnewid Sefydliadol ar gyfer 2022-2023.

 

Nodwyd y byddai gweithio ystwyth yn cael ei drafod ar 22 Tachwedd 2022.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd fod gwrthdaro ar 22 Tachwedd 2022 ac y byddai'n rhaid symud y cyfarfod i'r bore.  Ychwanegodd y byddai'r amser yn cael ei gadarnhau o fewn y dyddiau nesaf.