Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

34.

Cofnodion: pdf eicon PDF 223 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

35.

Caffael a'r Agenda Sero Carbon Net. pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Chris Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol, gyda chefnogaeth gan Jeremy Davies, Arweinydd Grŵp - Parciau a Glanhau a James Beynon, Rheolwr Categori - Gwasanaethau Masnachol, a oedd yn darparu trosolwg o gaffael a'i weithgarwch datblygu mewn perthynas â’r agenda Carbon Sero Net.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r wybodaeth gefndir mewn perthynas â chaffael, rheolau a rheoliadau caffael a swyddogaethau caffael.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gynaliadwyedd a'r agenda Carbon Sero Net yng nghontractau'r cyngor. Ychwanegwyd bod y cyngor wedi ymrwymo i gyrraedd Carbon Sero Net, ac roedd eisoes amryfal enghreifftiau o faterion o'r fath ac effaith amgylcheddol y cyngor yn cael eu hystyried o ran eu gweithgarwch masnachol, a ddarparwyd. Roedd dwy ffordd allweddol y gellid lleihau effaith y cyngor ar yr amgylchedd: -

 

1)    Ar y cam manyleb, e.e. nodi’r angen am gerbyd trydan yn hytrach na cherbyd diesel.

 

2)    Neu fel arall, drwy ychwanegu marciau ansawdd sy'n gwobrwyo gweithgareddau lleihau carbon cwmni. Roedd yr ail elfen yn newydd ac yn cael ei harchwilio gan Lywodraeth Cymru a CLlLC i ddeall y ffordd orau o gyflawni hyn.

 

Dywedwyd bod nifer o ffyrdd y gallai'r cyngor ehangu ei ffocws ar leihau effaith y cyngor ar yr amgylchedd ac roedd y ffyrdd hyn yn cael eu hystyried yn unol ag amcanion canlynol y Cabinet y cytunwyd arnynt:

 

·       Integreiddio ymagwedd y cyngor at werth cymdeithasol, bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol ymhellach yn unol â'u hegwyddorion allweddol a chyda rhaglen beilot y cyngor yn adolygu'r mater hwn

 

·       Ymchwilio i sut y gellid mesur ôl troed carbon contract, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu offeryn o'r fath.

 

·       Cynyddu'r defnydd o atebion sy'n seiliedig ar natur lle bo'n briodol.

 

Ychwanegwyd bod y cyngor wedi dechrau ar raglen beilot ei hun i adolygu sut y gellid ehangu’r gwaith mae'n ei wneud yn y maes pwysig hwn ymhellach ac felly gyfrannu at agenda newid yn yr hinsawdd y cyngor. Roedd Atodiad 2 yn darparu 'Offeryn Cofnodi Gwerth Cymdeithasol' drafft ac roedd yn seiliedig ar drafodaethau â chydweithwyr ar draws y cyngor. Bwriedid iddo hwyluso a gwella'r ffocws ar werth cymdeithasol mewn contractau a darparu fformat ar gyfer dal a chofnodi arfer da a chyflawni ymrwymiadau a wnaed yng nghynllun Carbon Sero Net y cyngor.

 

Roedd tri phrosiect peilot yn profi'r offeryn gwerth cymdeithasol ar hyn o bryd. –

 

·       Fframwaith y Gwasanaethau Parciau ar gyfer cyfarpar iard chwarae.

·       Prosiect y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol ar gyfer Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe - prosiect adnewyddu a chodi adeilad newydd ar gyfer yr ysgol.

·       Adnewyddu rhaglen/fframwaith cymorth tai’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Darparwyd rhagor o fanylion ynghylch y rhaglen beilot gan swyddogion a gyfeiriodd at Atodiad 3 - Datganiadau Dull.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Amodau tywydd eithafol a microblastigion sy'n gollwng o arwynebau "arllwys gwlyb" yn effeithio ar ddatblygiadau lleoedd chwarae.

·       Datblygu manylebau caffael i fod yn llai cymhleth sy'n caniatáu i gontractwr lleol llai gyflwyno cais am gontractau a sut roedd swyddogion wedi bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn trwy ddarparu rhagor o gydbwysedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd D H Hopkins, Dirprwy Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad  Corfforaethol fod y cyngor yn awyddus i ddatblygu cadwyn gyflenwi agored, a fyddai'n cynnwys cwmnïau lleol, gan roi hwb i'r economi leol, sy'n destun cyfyngiadau caffael.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Cymeradwyo'r cyfeiriad teithio a wnaed

2)    Darparu adroddiad ysgrifenedig mewn perthynas â’r ffaith bod amodau tywydd eithafol a microblastigion sy'n gollwng o arwynebau "arllwys gwlyb" yn effeithio ar ddatblygiadau lleoedd chwarae.

3)    Dosbarthu pecyn cymorth CLlLC i'r pwyllgor.

36.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 123 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Is-Gadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig ar gyfer 2022-23 'er gwybodaeth'.