Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:- Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 32 – Bwyd Cynaliadwy. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â chofnod rhif 32 - Bwyd Cynaliadwy. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflawni
Corfforedig Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2023 a'u llofnodi
fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Rhoddodd Geoff
Bacon, Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo a Jane Richmond, Rheolwr Prosiect
Strategol Newid yn yr Hinsawdd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn ceisio barn a
syniadau am ymagweddau arfaethedig tuag at: 1.Ddatblygu
Polisi Bwyd Cynaliadwy ar gyfer Cyngor Abertawe 2.Cefnogi sir
Abertawe ehangach o ran Bwyd Cynaliadwy. Amlinellwyd, fel
rhan o ddyhead Cyngor Abertawe i gyflawni sero net erbyn 2030 ac er mwyn
cyd-fynd ag agenda sero net Cymru erbyn 2050, fod yr adroddiad yn bwriadu
dangos uchelgais i hyrwyddo system fwyd iach a chynaliadwy ar lefel sefydliadol
ac ar draws y sir, â'r bwriad o wella bywydau pobl a lleihau ein heffaith ar y
blaned drwy fwyd. Darparwyd
ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fil Bwyd Cymru yn Atodiad 1. Diben hwn yw
sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Roedd Atodiad 2 yn darparu Prif
Benawdau Strategaeth Bwyd Cynaliadwy Cyngor Abertawe ac Atodiad 3 yn darparu
Datganiad Sefyllfa Gweithgarwch Bwyd Cynaliadwy Abertawe. Amlinellwyd mai'r
cynnig oedd y dylai polisi newydd gyd-fynd â nodau bwyd sylfaenol ac eilaidd
Bil Bwyd Cymru sy'n ddisgwyliedig, gyda rhywfaint o fanylion pellach wedi'u
hychwanegu fel yr awgrymwyd gan swyddogion a'i ddrafftio ar gyfer
trafodaeth. Ar ôl cytuno ar y themâu
allweddol, byddai polisi drafft yn cael ei ddatblygu a'i gylchredeg, gyda'r
bwriad o'i gyflwyno i'r Cabinet yn unol â chymeradwyo Bil Bwyd Cymru. Cyfeiriwyd at y
gweithgarwch sylweddol a'r gwaith da sy'n digwydd ar draws y sir yn barod. Ychwanegwyd bod Bwyd Abertawe yn arbennig yn
hybu ymgyrch fawr wedi'i chefnogi gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Rhagwelwyd y byddent yn arwain ar yr agenda ar gyfer Abertawe gyfan. Crynhowyd y byddai datblygu Polisi Bwyd
Cynaliadwy Cyngor Abertawe a chefnogi'r
gymuned ehangach gan ddefnyddio nodau Bil Bwyd Cymru fel seiliau, yn sicrhau
bod gan bob parti negeseuon cyson ac uchelgeisiol ar yr agenda hon sy'n symud
yn gyflym. Mae Bil Bwyd
Cymru ar gam un proses pedwar cam ar hyn o bryd, felly byddai datblygu polisi
ar gyfer Cyngor Abertawe gyda'r Pwyllgor, yn barod ar gyfer yr adeg y disgwylir
iddo gael ei gymeradwyo, yn fanteisiol. Amlygodd y
Cadeirydd yr angen am drafodaethau a gweithdai pellach i ddatblygu'r
polisi. Cyfeiriodd y Cynghorydd D H
Hopkins, Dirprwy Arweinydd y Cyngor at yr angen i ddefnyddio cynnyrch lleol i
ddarparu bwyd maethlon, i ddatblygu polisi a defnyddio'r arbenigedd sydd gan y
cyngor yn y maes hwn. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Tyfu cymunedol,
defnyddio rhandiroedd/mannau gwyrdd a biwrocratiaeth yn llesteirio'r broses. ·
Nodi
tir addas a'r anawsterau y deuir ar eu traws, yr angen i gytuno ar bolisi a
defnyddio'r economi gymysg ehangach i symud materion yn eu blaen. ·
Defnyddio
gwastraff bwyd fel gwrtaith ar gyfer cynhyrchu bwyd/ynni yn y dyfodol. ·
Sicrhau
bod y rhan fwyaf o'r bwyd a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ac nid yn cael ei
wastraffu, yn enwedig darparu bwyd ffres i fanciau bwyd. ·
Yr
angen i gadw milltiroedd bwyd i lawr wrth iddo gael ei gynhyrchu/ddosbarthu,
defnyddio cynhyrchwyr bwyd lleol a sut gallai gweithdrefnau caffael gynorthwyo
yn hyn o beth. ·
Llunio
taflen ffeithiau data i fusnesau lleol yn enwedig o ran hylendid/ailgylchu a
chompostio gwastraff bwyd. ·
Sut
roedd gwastraff bwyd yn cael ei gludo ar hyn o bryd i Gasnewydd
a'i droi'n ynni. ·
Dylanwadu
ar arferion siopa pobl drwy eu hannog i brynu'r hyn y mae ei angen arnynt yn
unig, effaith y diffyg sgiliau coginio ar gyllidebau pobl a sut mae'r argyfwng
ynni wedi golygu bod rhai unigolion yn methu fforddio coginio. Penderfynwyd cymeradwyo'r ymagweddau arfaethedig ar
gyfer y canlynol: 1) Datblygu Polisi Bwyd Cynaliadwy Cyngor
Abertawe. 2) Cefnogi Sir Abertawe ehangach o ran
Bwyd Cynaliadwy. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig ar gyfer
2022-23 'er gwybodaeth'. |