Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim.. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Cyflawni
Corfforedig Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022 a'u llofnodi
fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Geoff
Bacon, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, adroddiad diweddaru cynnydd i'r pwyllgor. Amlinellwyd bod y
prosiectau yr oedd swyddogion yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys y
canlynol:- ·
Ôl-osod
- ymchwilio i leihau allyriadau gyda thechnoleg well ac adnoddau adnewyddu ar y
safle. Cyfeiriwyd at hyn yn benodol yn y cynllun cyflawni Sero-Net gyda'r nod o
leihau allyriadau gwerth 4,438 tCO2 (2030). ·
Fferm
Solar - datblygu fferm solar 2.4MW yn Nhir John yn ogystal ag ymchwilio i
gyfleoedd datblygu posib eraill (2050). ·
Eden
Las - prosiect adnewyddu integredig sy'n cynnwys y morlyn llanw (2050). ·
Fferm
wynt - ymchwilio i botensial ar gyfer datblygiadau mawr o fewn cyfyngiadau'r
polisi perchnogaeth a chynllunio (2050). ·
Prosiect
ôl-osod peilot ar gyfer tai i ddatgarboneiddio cartrefi sy'n eiddo i'r cyngor
yn unol â gofynion tebygol Safon Ansawdd Tai Cymru diwygiedig Llywodraeth Cymru
trwy uwchraddio insiwleiddio a gosod technolegau adnewyddadwy. Ychwanegwyd, ac
eithrio'r morlyn llanw a'r cynllun peilot tai, bod yr holl brosiectau a
restrwyd yn cael eu cyflawni gyda chefnogaeth gan Wasanaethau Ynni Llywodraeth
Cymru, a oedd wedi helpu sefydliadau cymunedol a'r sector cyhoeddus yng Nghymru
i leihau’r defnydd o ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r ardal
leol a lleihau allyriadau carbon. Y cam mawr nesaf
ar gyfer y cyngor fyddai llunio Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL), sef cynllun strategol,
o fewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, ar gyfer sut byddai'r systemau ynni'n
cael eu datgarboneiddio. Byddai'n arwain at gynllun gofodol wedi'i ariannu'n
llawn sy'n nodi'r newid y mae ei angen i'r system ynni leol a'r amgylchedd
adeiledig, sy'n nodi 'beth, ble a phryd a chan bwy'. Darparwyd
manylion ynghylch y materion y byddai’r CYAL yn mynd i'r afael â nhw,
rhanddeiliaid rhanbarthol, gan gynnwys penodi cwmni arbenigol i gefnogi pob
rhanbarth. Penodwyd City Science i weithio gyda
rhanbarth de-orllewin Cymru a byddai'r pwyllgor yn rhan o’r gwaith o ymgysylltu
â rhanddeiliaid unwaith y byddant wedi dechrau. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Cyfleoedd
ar gyfer arweiniad cynllunio arbennig o ran ynni. ·
Cyfleoedd
ar gyfer ystyried microgynhyrchu mewn perthynas â
materion eiddo'r cyngor. ·
Edrych
ar dechnoleg fwy modern mewn perthynas â batris solar. ·
Ailosod
asedau'r cyngor, e.e. ysgolion, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd i'w gwneud
yn fwy ynni effeithlon. ·
Inswleiddio
cartrefi mewn modd mwy effeithiol yn ystod misoedd yr haf a'r gaeaf. ·
Mwyafu'r CYAL yn rhanbarthol, yr ymagwedd gadarnhaol tuag
at y mater o fewn rhanbarth y de-orllewin. ·
Llywodraethu'r
rhanbarth a'r amserlen wrth symud ymlaen, gan gynnwys cyfranogiad y pwyllgor
fel rhanddeiliad. ·
Manylion
penodol ynghylch pwy fydd yn cymryd rhan fel rhanddeiliaid a dod â nhw ynghyd
wrth symud ymlaen. ·
Gwaith
i wella tai’r cyngor yn y dyfodol hefyd yn cael eu cynnig i berchnogion hen dai'r cyngor a brynwyd, gan roi'r cyfle iddynt 'brynu i
mewn' i gynlluniau, yn enwedig yn yr un lleoliad â gwaith gwella arfaethedig. ·
Ymgynghori’n
effeithiol â chymunedau ynghylch microgynhyrchu, yn
enwedig o ran budd cymunedol, o gynigion
ac arian o gynigion o'r fath yn cael eu darparu i'r gymuned leol yr effeithier arni’n uniongyrchol. ·
Materion
a fydd yn cael eu nodi yn y CYAL a'r heriau i Abertawe yn ei chyfanrwydd. ·
Ymchwil
a gwblhawyd gan ffynonellau eraill am Abertawe, e.e. Prifysgol Warwig. ·
Effeithlonrwydd
ynni, gan ei gymell i annog pobl i newid a phwysigrwydd addysgu/hyfforddi pobl
ar y materion. Penderfynwyd bod y pwyllgor yn cefnogi cyfeiriad y
gwaith a gwblhawyd hyd yma. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig ar gyfer
2022-23 'er gwybodaeth'. |