Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:- Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 12 – Rhaglen Waith y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd 2022-23. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â Chofnod 12 - Rhaglen waith Pwyllgor
Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd 2022-23. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Cyflawni
Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022 a'u llofnodi
fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd 2022-23. PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Geoff Bacon, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, adroddiad a oedd yn rhoi
amlinelliad drafft i'r Pwyllgor o'r rhaglen waith ar gyfer 2022-23 a'r hyn yr
oedd yn ceisio ei gyflawni o ran amcanion polisi. Amlinellwyd, yn dilyn trafodaeth rhwng y Cyfarwyddwr ac Aelodau'r Cabinet,
fod y blaenoriaethau a ddarparwyd yn yr adroddiad wedi'u nodi fel eitemau
drafft ar gyfer rhaglen waith 2022-23, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau a wnaed
gan y Pwyllgor. Roedd y tabl hefyd yn
rhoi’r allbynnau a’r canlyniad a ragwelir ar gyfer pob eitem yn y cynllun
gwaith, yr ymrwymiad polisi y mae pob cynllun gwaith yn helpu i’w gyflawni a’r
flaenoriaeth gorfforaethol yr oedd pob eitem o’r cynllun gwaith yn cyd-fynd â
hi. Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at feysydd gwaith ychwanegol i'w
hystyried gan y Pwyllgor. Pwysleisiwyd
bod y rhaglen waith yn ‘ddogfen fyw’ a fyddai’n cael ei diwygio drwy gydol y
flwyddyn ddinesig a fyddai’n caniatáu i’r Pwyllgor ddatblygu polisïau. Dywedodd y Cadeirydd mai'r Cynllun Adfer Natur fyddai'r eitem gyntaf i'w
thrafod yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd a nodwyd y byddai angen mwy nag un
cyfarfod o bosib i drafod rhai pynciau.
Trafododd y Pwyllgor nifer o faterion fel a ganlyn: - · Dod yn sero-net erbyn 2030 · Y Strategaeth Gwastraff bresennol, gan gynnwys cyfleoedd gwastraff bwyd a'r
defnydd o garthffosiaeth. · Cyflwyno cwestiynau cyn cyfarfodydd yn y dyfodol i roi cyfle i swyddogion
ymateb. · Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy, yn enwedig enghreifftiau o
ddinasoedd/ardaloedd eraill. · Polisi Cynhyrchu Ynni, gan gynnwys enghreifftiau o arferion mewn
ardaloedd/gwledydd eraill yn Ewrop. · Polisi Bwyd Cynaliadwy – datblygu Strategaeth 2050, gan gynnwys
arlwyo/caffael mewn ysgolion, mannau gwyrdd i ysgolion, tyfu rhandiroedd,
cymorth i ffermwyr, prosiect 'O'r Pridd i'r Plât'. · Gweithio mewn partneriaeth â chymunedau/sefydliadau partner eraill. Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaethau Eiddo hefyd fod y rhaglen waith yn heriol iawn gyda nifer o
bynciau mawr dan sylw. Penderfynwyd: - 1)
cymeradwyo Rhaglen Waith
2022-2023 ym mharagraff 2 yr adroddiad. 2)
Drafftio adroddiad Rhaglen
Waith 2022-2023 ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. |
|
Dyddiad ac Amser y Cyfarfodydd Dyddiad Trafodaeth. Penderfyniad: Penderfynwyd cynnal cyfarfodydd yn y dyfodol ar y trydydd dydd Llun o'r mis am 5.30 p.m. Cofnodion: Penderfynwyd cynnal cyfarfodydd yn y dyfodol ar y
trydydd dydd Llun o'r mis am 5.30pm. |