Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiant a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 8 – Adroddiad Cyflawni ar Adfer Natur a Statws Newid Hinsawdd.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â Chofnod 8 - Adroddiad Statws Cyflawni Adferiad Natur a Newid yn yr Hinsawdd.

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 106 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod(ydd) blaenorol y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd fel cofnod cywir.

6.

Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 200 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparwyd cylch gorchwyl y Pwyllgorau Cyflawni Corfforaethol 'er gwybodaeth'.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr Cyswllt i'r Pwyllgor nodi'r gwahaniaeth rhwng y Pwyllgorau Datblygu Corfforaethol a Chraffu.

7.

Adroddiad Statws Cyflawni Adferiad Natur a Newid yn yr Hinsawdd. pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd Rachel Lewis, Swyddog Prosiect y Gwasanaethau Eiddo, adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor ynghylch cynnydd o ran yr amcan lles corfforaethol newydd a gynigiwyd - 'Cyflawni Adferiad Natur a Newid yn yr Hinsawdd', y disgwylir i'r cyngor ei ystyried ar 7 Gorffennaf 2022.

 

Amlinellwyd bod agenda Newid yn yr Hinsawdd ac Adferiad Natur wedi newid yn gyflym dros y 18 mis diwethaf, a bod dau adroddiad wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet a'r cyngor (mis Tachwedd 2020 a mis Tachwedd 2021). Cyflwynwyd hefyd adroddiad i Bwyllgor Datblygu Polisi yr Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd ym mis Mawrth 2022 gan ddarparu diweddariad o ran statws a chynnig prosiectau ar gyfer blaengynllun.

 

Darparodd Atodiad A dystiolaeth i ddangos sut byddai timau'n bodloni’r amcan arfaethedig a sut roedd yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Amlinellodd hefyd Lywodraethu Newid yn yr Hinsawdd ac Adferiad Natur, adrodd mewnol, adrodd allanol, Adferiad Natur - Cynllun Bioamrywiaeth/Adran 6/Cynllun Gweithredu Adferiad Natur a phrosiectau newydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Y cyngor yn gweithredu gyda cherbydau trydan/hydrogen, e.e. cerbydau casglu gwastraff.

·         Monitro/datblygu/cydlynu'r cynllun gweithredu a'r disgwyliadau i adrannau ddatblygu/fonitro strategaethau a'u cynlluniau gweithredu eu hunain.

·         Trefniadau llywodraethu wrth symud ymlaen.

·         Cyflwyno mannau gwefru/gorsafoedd pŵer i ddarparu'r trydan ychwanegol y mae ei angen ar gyfer cerbydau trydan.

·         Adferiad natur, opsiynau tir llwyd, enghreifftiau o arfer da, lleihau gwastraff bwyd, cyflwyno pwyntiau gweithredu ymarferol, cytundebau Adran 106 a helpu i liniaru bioamrywiaeth mewn datblygiadau newydd.

·         Cynyddu faint o ddeunyddiau y gellir eu casglu wrth ymyl y ffordd, ystyried y ffordd y mae awdurdodau lleol yn ailgylchu deunyddiau a cheisio gwella cerbydlu/gallu ailgylchu'r cyngor.

·         Annog y cyhoedd i gymryd rhan ac addysgu pawb yn y cyngor er mwyn symud pethau ymlaen.

·         Opsiynau tymor hwy i aelwydydd tlotach na allant fforddio cerbydau trydan.

·         Costau cynhyrchu/llygredd a achoswyd o ganlyniad i gynhyrchu cerbydau trydan.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y trafodaethau.

8.

Cynllun Gwaith

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod nesaf a drefnwyd.

9.

Dyddiad ac Amser y Cyfarfodydd Dyddiad Trafodaeth.

Penderfyniad:

Gohiriwyd hyd y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio trafodaethau pellach tan y cyfarfod nesaf.