Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 fel cofnod
cywir. |
|
Arweinyddiaeth, Cynhwysiad a Llywodraethu: Datblygu Rhagoriaeth yn Ysgolion Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Sarah
Hughes adroddiad a oedd yn crynhoi ac yn amlinellu trosolwg o waith y Pwyllgor
Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau ar gyfer 2022-23. Cynhwyswyd a
thrafodwyd y tri phrif destun canlynol yn ystod y flwyddyn: · Cryfhau Arweinwyr Ysgolion · Presenoldeb a Chynhwysiad · Llywodraethu Ysgol Cryfach a Mwy Effeithiol Amlinellwyd a
manylwyd ar yr adroddiadau, cyflwyniadau a thystiolaeth amrywiol a ddarparwyd
yn ystod cyfarfodydd niferus y PCC yn yr adroddiad. Trafododd
aelodau'r pwyllgor yr adroddiad a gofynnwyd cwestiynau a gwnaed sylwadau
ynghylch y cynnwys. Ymatebodd y
Swyddog, y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet yn unol â'r materion a'r pwyntiau a
godwyd, ac atebwyd y cwestiynau a godwyd ynghylch rhoi'r polisïau newydd ar
waith. Cynigodd aelodau'r
ychwanegiadau canlynol at yr adroddiad: 2.11 - ychwanegu
dolen gyfeirio at wybodaeth gaffael a chyngor ar-lein; 4.5 - ychwanegu
sesiwn sefydlu 'yn yr ysgol' ar gyfer llywodraethwyr newydd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r holl swyddogion am eu cyfraniadau i'r pwyllgor dros y flwyddyn
ddiwethaf sydd wedi arwain at yr adroddiad sydd o flaen aelodau heddiw, a fydd
bellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet unwaith caiff yr holl ddogfennau
cysylltiedig eu cwblhau a phan fyddant ar gael. Penderfynwyd 1. Cymeradwyo'r
adroddiad drafft gyda'r 2 ychwanegiad a amlinellwyd uchod a'i gyfeirio at
gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol pan fydd y tair dogfen maes polisi'n barod. 2. Gofyn i'r
Cabinet gymeradwyo'r mentrau datblygu polisi a amlinellwyd yn adran 5 yr adroddiad
hwn. |