Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023
fel cofnod cywir. |
|
Adolygiad Llywodraethu Ysgolion - Gwanwyn 2023. PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd Jeff
Fish adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau'r pwyllgor
ynghylch llunio cynllun gweithredu sy'n bwriadu rhoi'r gefnogaeth orau i
lywodraethu ysgolion yn y dyfodol a gwireddu blaenoriaethau'r cyngor i sicrhau
bod arweinyddiaeth yn cefnogi cynnydd dysgwyr. Mae'r adroddiad
hwn yn adeiladu ar yr adroddiad a'r trafodaethau yn y cyfarfod blaenorol a oedd
wedi adolygu a chyfeirio at yr adroddiad craffu blaenorol ynghylch y pwnc. Roedd y sylwadau
a'r trafodaethau yn y cyfarfod diwethaf yn sail ar gyfer y cynllun gweithredu
drafft a oedd yn ynghlwm wrth yr adroddiad. Esboniodd y swyddog y byddai
polisi'n cael ei ddatblygu ar gyfer recriwtio a chadw llywodraethwyr yn
effeithiol a bod y camau gweithredu yn y cynllun drafft wedi'u dylunio i
gefnogi'r bwriad polisi hwnnw. Roedd y prif
feysydd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu drafft yn cynnwys: ·
Recriwtio
a chadw llywodraethwyr; ·
Ffyrdd
newydd a gwell o rannu arfer gorau; ·
Problemau
ynghylch gwasanaeth e-bost Hwb; ·
Datblygu
cronfa 'rhagoriaeth' o lywodraethwyr profiadol i gefnogi llywodraethwyr newydd
a phresennol; ·
Datblygu
mwy o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio rhwng llywodraethwyr; ·
Mwy o
gyfathrebiadau wedi'u targedu ac wedi'u personoli ar gyfer llywodraethwyr; ·
Datblygu
cronfa ddata cefnogi llywodraethwyr newydd; ·
Gwella
Arweinwyr; ·
Gweithio
gyda rhanddeiliaid allweddol a grwpiau partner; Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a oedd wedi adeiladu ar yr un a
gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf ac a oedd wedi cynnwys meysydd a nodwyd yn
ystod y sylwadau a'r adborth a roddwyd gan aelodau'r pwyllgor yn ystod y
sesiwn. Nododd fod yr
adroddiad wedi datblygu a chynnwys y meysydd hynny a nodwyd ac a drafodwyd o
fewn cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynghylch yr wybodaeth
a nodwyd yn yr adroddiad, cyflwyniad y swyddog a'r cynllun gweithredu, yn
enwedig mewn perthynas â'r meysydd canlynol: ·
Cymorth/help/cefnogaeth
ar gyfer llywodraethwyr newydd pan fyddant yn dod yn llywodraethwyr; ·
Yr
angen i sicrhau bod llywodraethwyr newydd yn teimlo bod croeso iddynt a'u bod
yn rhan o 'deulu' o lywodraethwyr; ·
Cyflwyno
system 'cyfeillio' o bosib; ·
Problemau
ynghylch yr angen am negeseuon e-byst Hwb ar gyfer cynghorwyr a'r angen i
hwyluso'r broses o dderbyn gwybodaeth yn electronig, ·
Mae
cyfarfodydd ar-lein yn gweithio'n dda ond mae angen ehangu cyfarfodydd a
hyfforddiant wyneb yn wyneb; byddai hyn yn helpu gydag integreiddio
llywodraethwyr newydd yn well wrth symud ymlaen; ·
Yr
angen am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer Cadeiryddion llywodraethwyr; ·
Y
posibilrwydd o ddatblygu canllaw fideo byr ar gyfer llywodraethwyr newydd; Ymatebodd y
swyddog, y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet yn briodol i'r problemau a'r pwyntiau
a godwyd uchod. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd mai'r cyfarfod nesaf oedd y cyfarfod olaf ar gyfer y flwyddyn
ddinesig hon. Amlinellodd
gynnig i ymgysylltu â swyddogion o'r Adran ac adolygu'r cyfarfodydd a
gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn a llunio adroddiad sy'n cyfuno'r holl wybodaeth,
y dystiolaeth a’r adroddiadau a dderbyniwyd a'r gwaith a wnaed ar y tri phrif
faes, sef Cryfhau Arweinwyr Ysgolion, Presenoldeb a Chynhwysiad a Llywodraethu
Ysgol Cryfach a Mwy Effeithiol mewn un adroddiad. Gall y pwyllgor
drafod yr adroddiad yn ystod y cyfarfod nesaf. |