Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Addysg a Sgiliau a
gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Adolygiad Llywodraethu Ysgolion - Gwanwyn 2023. PDF 159 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyfeiriodd Helen Morgan-Rees at
bwysigrwydd arweinyddiaeth lwyddiannus mewn ysgolion, a bod llywodraethwyr
ysgolion yn chwarae rôl flaenllaw. Nododd fod system dda ar waith yn Abertawe,
ac mai'r nod fyddai adeiladu ar hyn a’i ddatblygu wrth symud ymlaen. Mae
effaith arweinyddiaeth ar ein dysgwyr yw rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio
arno o hyd, a sut mae hyn yn effeithio ar ddatblygiad, sgiliau a chynnydd
dysgwyr. Mae’r adroddiad craffu y cyfeiriwyd ato yn
yr adroddiad yn amlinellu'r ffocws hwn ac mae nifer o'r argymhellion yn parhau
ac yn berthnasol o hyd er gwaethaf yr heriau mawr yn lleol ac yn genedlaethol
mewn perthynas ag addysg ers ei gyhoeddi. Yna, rhoddodd
Jeff Fish gyflwyniad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau'r Pwyllgor ynghylch
cynnydd a wnaed yn erbyn Panel Ymchwiliad Craffu Llywodraethu Ysgolion 2016 ac
yn ceisio ystyriaeth ynghylch sut i gefnogi llywodraethu ysgolion orau yn y
dyfodol, ac i wireddu blaenoriaethau'r cyngor er mwyn
sicrhau bod arweinyddiaeth yn cefnogi cynnydd dysgwyr. Amlinellwyd
cefndir yr adolygiad craffu gwreiddiol, yn ogystal ag ymatebion Aelodau’r
Cabinet i'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad. Mae mwyafrif yr argymhellion
a phrif syniadau'r adroddiad yn gywir ac yn berthnasol o hyd heddiw ac maent
bellach wedi'u gwreiddio yn arferion gwaith yr Adran Addysg. Amlinellwyd y
safbwynt presennol diweddaredig mewn perthynas â
chefndir newidiol cenedlaethol addysg, yn enwedig o ran cyflwyno'r Cwricwlwm i
Gymru, cychwyniad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg a
chael gwared ar gategoreiddio ysgolion, ynghyd â'r materion lleol mewn
perthynas â phartneriaeth addysg ranbarthol ERW, sydd bellach wedi dod i ben ac
wedi'i ddisodli gan Partneriaeth. Amlinellwyd y
cynnydd sylweddol a wnaed wrth ddatblygu hyfforddiant ychwanegol a mwy amrywiol
a hygyrch ar gyfer llywodraethwyr ysgolion, yn ogystal â rhoi’r matrics
recriwtio a sgiliau effeithiol ar waith. Mae presenoldeb
mewn sesiynau hyfforddi llywodraethwyr wedi cynyddu ac wedi gwella o ganlyniad,
ond efallai y bydd angen ymagwedd fwy cyfunol ar-lein/wyneb yn wyneb wrth symud
ymlaen er mwyn cefnogi rhai llywodraethwyr yn well. Amlinellodd a
disgrifiodd ei gefndir personol mewn Llywodraeth Leol a'r tu hwnt iddi o ran
Addysg a llywodraethu a chyfeiriodd at gefndir creu ei swydd, a ddechreuodd fis
Hydref diwethaf. Un prif ffocws a oedd ganddo oedd datblygu gweledigaeth newydd
ar gyfer llywodraethu ysgolion, sy'n cyd-fynd â blaenoriaeth y cyngor wrth
sicrhau bod arweinyddiaeth yn cefnogi cynnydd dysgwyr. Cydnabu fod rôl
llywodraethwyr ysgolion wedi datblygu ac ehangu dros y blynyddoedd ac mae'n rôl
sy’n heriol ac yn werth chweil. Nodwyd argaeledd cymorth a chefnogaeth gan
lywodraethwyr profiadol a gweithwyr proffesiynol perthnasol sydd ar gael i bobl
sy'n newydd i'r swydd ac mae'n bwynt rydym wedi'i sefydlu dros y blynyddoedd a
dylid ei ddefnyddio pan fydd angen. Dyma faes y mae angen i ni ei ddatblygu a'i
ehangu, gan ddatblygu rhaglen 'hunangymorth' a mentora i ryw raddau. Cyfeiriodd at y
canlyniadau posib a amlinellwyd yn yr adroddiad y gallai fod aelodau am eu
hystyried. Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau
niferus a gwnaethant sylwadau ynghylch yr wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad
a'r cyflwyniad, yn enwedig mewn perthynas â'r meysydd canlynol: ·
y
gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r help sydd eisoes ar gael i lywodraethwyr, ·
adnabod
yr angen i gynyddu a chefnogi llywodraethwyr ymhellach yn eu rolau, sy'n hollol
wirfoddol, ·
cydnabod
faint o amser, gwaith ac ymrwymiad y mae llywodraethwyr yn eu rhoi i'r rôl, ·
yr
angen i hysbysebu a hyrwyddo'r swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd mewn
cyrff llywodraethu'n well ar gyfryngau cymdeithasol, ·
mae'r
broses benodi ddiwygiedig ar gyfer llywodraethwyr yr ALl
wedi helpu ac wedi gwella'r sefyllfa gyffredinol, Ymatebodd y
swyddog, y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet yn briodol i'r materion a'r pwyntiau
a godwyd uchod a nodwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i
gyfarfod nesaf y pwyllgor sy'n ychwanegu at y trafodaethau a'r materion a
godwyd heddiw, er mwyn diweddaru a mireinio'r gweithdrefnau presennol wrth
symud ymlaen. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Siaradodd y
Cadeirydd ymhellach am y cynllun gwaith drafft a ddosbarthwyd ac am yr
adroddiad a drafodwyd yn ystod yr eitem flaenorol ac amlinellodd y byddai
cyfarfod mis Chwefror yn canolbwyntio eto ar Lywodraethu Ysgol Cryfach a Mwy
Effeithiol. |