Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr
2022 fel cofnod cywir. |
|
Presenoldeb a Chynhwysiant. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd Helen
Howells gyflwyniad Powerpoint a oedd yn amlinellu cefndir datblygu'r cynllun
gweithredu ar gyfer presenoldeb. Roedd y meysydd
canlynol wedi’u cynnwys a’u hamlinellu yn y cyflwyniad: ·
Mae cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu gan fod lefelau
presenoldeb wedi bod yn gostwng dros y pedair blynedd ddiwethaf, a'r nod yw
creu cynllun clir a chryno ar y cyd â rhanddeiliaid er mwyn i'r Gwasanaeth Lles
Addysg allu cyflwyno ffyrdd gwell o weithio a gwella prosesau a fydd yn arwain
at ganlyniadau gwell i ddysgwyr yn Abertawe; ·
Mae'r cynllun gweithredu wedi'i rannu'n wahanol adrannau
ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu isod, yn ogystal â'r canlyniadau a ragwelir
a'r cynnydd a wnaed hyd yma; ·
Y cam cyntaf yw sicrhau bod gan bob ysgol bolisi
presenoldeb sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd, ond sydd hefyd yn adlewyrchu'r
ymagwedd gyfannol at ymddygiad, presenoldeb a lles; ·
Y nodau yw y bydd ein canlyniadau'n cael eu gwella gyda
gwell cysondeb ar draws ein holl leoliadau ac rydym am gael polisi sydd wedi'i
gydgynhyrchu gyda disgwyliadau clir mewn perthynas â phresenoldeb a monitro ar
gyfer yr holl randdeiliaid a ddylai gynnwys rhieni, athrawon a staff awdurdodau
lleol; ·
Mae cynllun drafft wedi'i lunio ac mae yn ei ddrafft
terfynol a dylai gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, a’r gobaith yw y bydd
y pwyllgor hwn yn ei gymeradwyo ym mis Ebrill. ·
Mae siart llif ymateb wedi'i chreu a’i rhoi ar waith
eisoes, ond mae angen iddi gael ei hymgorffori'n llawn ar draws ysgolion; ·
Mae llythyrau sy'n gysylltiedig â'r broses, gan gynnwys y
rheini sy'n cyd-fynd â'r hysbysiadau cosb benodedig, wrthi’n cael eu diweddaru.
Mae gweithdy tasg a gorffen gyda'n GLlA wedi'i drefnu ac rydym yn gobeithio y
bydd gennym y canlyniadau hynny a'r wybodaeth sy’n ymwneud â hynny’n fuan; ·
Mae gweithdy tasg a gorffen hefyd wedi'i drefnu ar gyfer
penaethiaid yn y cyfarfod trawsgyfnod y bwriedir ei gynnal ar 9 Chwefror ac
mae'r drafodaeth arfaethedig hefyd yn cynnwys y ffordd orau o ymgysylltu â
llais ein dysgwyr a sut i fesur llais ein dysgwyr, rhywbeth y gwyddom sy'n
fater pwysig iawn. Bydd y cyfarfod hwn hefyd yn cynnwys trafodaeth am yr
adolygiad o'r GLlA; ·
Cysylltwyd â’r Fforwm Rhieni a Gofalwyr hefyd i gefnogi
llais ein rhieni a’n gofalwyr, gan ein bod am wneud yn siŵr bod ein holl
randdeiliaid yn cael eu cynnwys yn ein polisïau a’n prosesau; ·
Cam arall fyddai llunio canllaw clir a chryno i waith y
GLlA a gwreiddio argymhellion proses ymgynghori 2019-2020. Nod/canlyniad hyn
fyddai sicrhau mewnbwn rhanddeiliaid i sicrhau cysondeb arfer ac ymateb wedi’i
dargedu gan ein GLlA, ac iddynt fabwysiadu ffyrdd gwell o weithio i weddu i'r
hinsawdd addysgol sydd ohoni; ·
Mae presenoldeb cynyddol yn yr ysgol a deilliannau gwell
i'n dysgwyr i gyd yn rhan o nodau'r cynllun, felly ein cynnydd hyd yma yw bod y
strategaeth cynhwysiad wedi'i chwblhau sy'n darparu'r cyfeiriad strategol ar
gyfer gwella presenoldeb wrth symud ymlaen; ·
Mae'r tîm cefnogi disgyblion wedi cael eu hadolygu ac mae
swydd newydd wedi'i sefydlu a fydd yn darparu arweiniad strategol ar
bresenoldeb a gwaharddiadau yn y dyfodol. Bydd y swyddog yn dechrau yn ei swydd
ddiwedd mis Chwefror a'r gobaith yw y bydd swydd newydd yn cynyddu gallu o fewn
y tîm ac yn caniatáu ar gyfer mwy o oruchwyliaeth strategol; ·
Cam gweithredu pellach fyddai ystyried y cynnydd mewn
osgoi'r ysgol am resymau emosiynol a sicrhau bod hyn yn llywio datblygiadau i
gefnogi'r grŵp iechyd emosiynol a lles seicolegol (EBSA). Byddai'r adran
yn anelu at gefnogi ysgolion i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ar strategaethau
presenoldeb; ·
Mae hyfforddiant wedi'i drefnu ar gyfer y tîm EBSA cyfan
ac rydym yn falch bod hwn yn cael ei roi ar waith o fis Mai 2023 a bod
hyfforddiant yn mynd i gael ei gynnal gan un o’n seicolegwyr addysg; ·
Adolygiad o’r ymagwedd ysgol gyfan at ariannu iechyd a
lles emosiynol ac ymgysylltu agosach â’r grŵp strategol i sicrhau ymateb
wedi’i dargedu i gynnydd mewn presenoldeb ac ymgysylltiad, gyda ffocws penodol
ar EBSA; ·
Y pwynt gweithredu nesaf fyddai dadansoddi data presenoldeb
yn well a defnyddio hwn yn rhagweithiol i nodi angen a phennu targedau
realistig ar gyfer y dyfodol. Canlyniadau posib y cam gweithredu hwn yw
dadansoddiad data rheolaidd i lywio’n harfer. Gofynnwyd i’r GLlA weithio’n
wahanol i wella a darparu cymorth dwys wedi’i dargedu i’r ysgolion hynny sydd â
phresenoldeb dan 90%; ·
Mae Hysbysiadau Cosb Benodedig bellach wedi'u
hailgyflwyno ond mae angen dadansoddiad pellach o'u heffeithiolrwydd wrth symud
ymlaen. Mae 147 wedi'u cyhoeddi hyd yma ers mis Medi, ond mae effeithiolrwydd
cyffredinol yr Hysbysiadau Cosb Benodedig yn ansicr ar hyn o bryd a bydd angen
ymchwilio ymhellach i’r rhesymau a’r ffactorau pam y mae rhieni’n parhau i
beidio ag anfon eu plant i'r ysgol; ·
Cynnydd
hyd yn hyn - rydym wedi gweld rhai gwelliannau mewn presenoldeb yn ystod tymor
yr hydref, gyda phresenoldeb cyfartalog ar gyfer pob ysgol uwchradd 2% yn uwch
na’r flwyddyn flaenorol. Roedd ysgolion cynradd hefyd yn gwneud yn eithaf da yn
gyson yn ystod rhan gyntaf tymor yr hydref nes y salwch difrifol a effeithiodd
ar ysgolion cynradd yn agosach at gyfnod y Nadolig ac yn amlwg yr wybodaeth a
ddaeth gan y GIG am gadw plant gartref os oedd rhieni’n meddwl bod ganddynt y
dwymyn goch, strep neu unrhyw gyflyrau o’r fath. Mae hyn wedi effeithio’n aruthrol
ar y ffigurau presenoldeb ar gyfer y cyfnod hwnnw; ·
Y cam
nesaf fyddai sicrhau strategaethau ymyrryd yn gynnar ac atal sy’n gysylltiedig
â meysydd blaenoriaeth eraill i sicrhau bod ein plant wir eisiau mynychu’r
ysgol, y canlyniadau yr hoffem eu cyflawni o hyn fyddai cefnogi ein teuluoedd
ac ailintegreiddio ein plant sydd wedi bod yn derbyn addysg ddewisol yn y
cartref i ddychwelyd i'r ysgol; ·
Hoffem
hefyd ystyried presenoldeb yn gyfannol a sicrhau bod dulliau effeithiol ar
waith ar draws y Gyfarwyddiaeth a'r cyngor ehangach. Mae gennym bellach swyddog
sydd wedi’i benodi i gefnogi teuluoedd sy’n derbyn addysg ddewisol yn y
cartref, a gynyddodd ar ôl COVID. Mae’r swydd yn cael ei hariannu gan
Lywodraeth Cymru ac mae’r grant wedi’i dargedu’n benodol at y rheini sy’n
derbyn addysg ddewisol yn y cartref; ·
Y cam
olaf yw cyfleu disgwyliadau’n well i bartneriaid a rhanddeiliaid, yn enwedig
ein cyrff llywodraethu ac i ni ddysgu sut i gyfathrebu'n well ar bresenoldeb ar
draws yr awdurdod drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ein nod yw ceisio
ymgysylltu â'n teuluoedd nad ydym o bosib wedi ymgysylltu â nhw hyd yn hyn, gan
ein bod yn meddwl mai’r ffordd orau o wneud hyn o bosib yw drwy rhwydweithiau a
sianeli cyfryngau cymdeithasol Felly un o'n canlyniadau fyddai cysondeb
presenoldeb a disgwyliadau ein holl randdeiliaid a gwell deilliannau i'n
dysgwyr; ·
Mae
trafodaethau cychwynnol ynghylch ein cyfathrebiadau cyfryngau cymdeithasol
diwygiedig wedi'u cynnal ac rydym yn bwriadu cwblhau unrhyw strategaeth
gyfathrebu yn ein polisi presenoldeb. Gofynnodd
aelodau’r pwyllgor nifer o gwestiynau a gwnaethant sylwadau ynghylch yr
wybodaeth a amlygwyd yn y cyflwyniad, yn enwedig ynghylch cefnogaeth ar gyfer
cyrff llywodraethu a llywodraethwyr, ymgysylltu gwell â rhieni, gweithio ar
draws adrannau a dangosyddion perfformiad, ac ymatebodd y Swyddog, y
Cyfarwyddwr a’r Aelod Cabinet yn unol â hynny. Byddai gwybodaeth
am ffigyrau presenoldeb yr holl ysgolion ar gyfer tymor yr hydref yn cael ei
dosbarthu i aelodau'r pwyllgor ar ôl y cyfarfod. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Siaradodd y
Cadeirydd ymhellach ynghylch y cynllun gwaith drafft a gylchredwyd, gan
amlinellu y byddai'r ddau gyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar Lywodraethu Ysgol
Cryfach ac Effeithiol. |