Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir. |
|
Presenoldeb a Chynhwysiant. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd Helen
Howells a Kate Phillips gyflwyniad ar lafar/Powerpoint a oedd yn ymwneud â
Strategaeth Cynhwysiad ddrafft 2022-2027. Mae'r strategaeth
yn gysylltiedig â'r blaenoriaethau corfforaethol ar gyfer addysg. Mae gan y
strategaeth 5 maes blaenoriaeth allweddol: ·
Hybu
presenoldeb ·
Hybu
cynhwysiad ·
Gwreiddio
darpariaeth gyffredinol effeithiol wrth gefnogi digon o leoedd arbenigol ·
Gwreiddio
ethos o gynhwysiad a rennir ·
Iechyd
emosiynol a lles seicolegol (ymagwedd ysgol gyfan) Presenoldeb - yn
hanesyddol, mae presenoldeb Abertawe wedi bod yn dda iawn, a chyn y pandemig y presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd oedd 95%,
a 94.3% ar gyfer ysgolion uwchradd. Rhestrwyd Abertawe fel y nawfed orau yng
Nghymru o ran presenoldeb. Mae’r pandemig yn amlwg wedi effeithio ar y ffigurau hyn, ac ni
fesurodd Llywodraeth Cymru ysgolion ar eu presenoldeb yn ystod y cyfnod ac ni
chyhoeddwyd hysbysiadau cosb benodedig ychwaith a chynghorwyd plant i beidio â
mynychu os oeddent yn teimlo’n sâl. Ar ôl y pandemig 90.1% oedd y ffigurau presenoldeb ar gyfer cynradd
ac 86.6% ar gyfer uwchradd, er taw Abertawe oedd y chweched orau yng Nghymru.
Serch hynny, mae'r ffigurau hyn wedi gwella ymhellach yn ystod y tymor
academaidd diweddar ac mae hyn i'w groesawu, a gellir eu cadarnhau unwaith y
daw'r tymor i ben. Mae'r gostyngiad mewn ffigurau presenoldeb yn fater
cenedlaethol ac nid yw'n rhywbeth sy'n berthnasol i Abertawe yn unig. Mae hysbysiadau
cosb benodedig bellach wedi’u hailgyflwyno gan Lywodraeth Cymru hefyd. Mae’r problemau a
achosir gan y pandemig sy'n effeithio ar blant a
phobl ifanc fel colli trefn arferol, profedigaeth, mwy o bryder a phroblemau
iechyd meddwl, cynnydd mewn ymddygiadau heriol wedi effeithio ar bresenoldeb.
Mae'r cynnydd mewn tlodi a'r argyfwng costau byw hefyd yn effeithio ar ffigurau
presenoldeb. Yr hyn y gallwn
ei wneud yn y dyfodol: ·
Adolygu
proses y Gwasanaeth Lles Addysg ·
Cyfarfodydd
strategaeth presenoldeb misol ·
Newid
ein hymagwedd o strategaethau presenoldeb traddodiadol ·
Cynhyrchu
polisi presenoldeb wedi'i ddiweddaru ar y cyd Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynglŷn â'r
wybodaeth a amlygwyd yn y cyflwyniad ac ymatebodd y Swyddogion, y Cyfarwyddwr
ac Aelod y Cabinet yn briodol iddynt. Yn ystod y
drafodaeth, manylwyd ar y potensial a’r posibilrwydd i’r strategaeth newydd
gynnwys a bod yn seiliedig ar glystyrau presennol, cyfranogiad cyrff
llywodraethu a phobl ifanc er mwyn datblygu a hyrwyddo’r fenter, y defnydd
ehangach o arian cyllido allanol i gyflogi staff ychwanegol mewn rhai ysgolion,
enghreifftiau o arfer da sydd ar waith ar hyn o bryd mewn ysgolion y gellir eu
rhannu. Gyda'r pwysau
cyllidebol presennol y mae pob awdurdod lleol yn eu hwynebu, mae cynnydd mawr
mewn cyllid yn annhebygol a gallai ffyrdd diwygiedig/gwahanol/callach o weithio o fewn cyllidebau presennol fod yr ateb
wrth symud ymlaen. Dywedodd
swyddogion y byddent yn archwilio'r holl feysydd hyn a drafodwyd ac a amlygwyd
cyn dod ag adroddiad pellach yn ôl i'r pwyllgor yn y flwyddyn newydd. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Siaradodd y
Cadeirydd ymhellach am y cynllun gwaith drafft a ddosbarthwyd ac amlinellodd y
byddai'r cyfarfod nesaf yn canolbwyntio eto ar bresenoldeb a chynhwysiad gydag
adroddiad/cyflwyniad yn adeiladu ar yr wybodaeth a ddarparwyd a thrafodaethau a
gafwyd yn y cyfarfod heddiw. |