Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Addysg a Sgiliau a
gynhaliwyd ar 26 Hydref 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cryfhau Arweinwyr Ysgol. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd David
Thomas gyflwyniad ar lafar ynghylch y cryfderau presennol mewn arweinyddiaeth
ysgolion, gan drafod adolygiadau gan gymheiriaid, cefnogaeth ac ymsefydlu i
benaethiaid newydd a chefnogaeth i athrawon newydd trwy Partneriaeth yn benodol.
O ran adolygiadau
gan gymheiriaid, cafodd canllawiau eu datblygu i ddechrau sy'n dilyn fframwaith
arolygu blaenorol Estyn yn Abertawe. Mae'r cyd-destun
i'r adolygiadau cyfoedion presennol yn cael ei ddatblygu ar y cyd â chynllun
'Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu' Llywodraeth Cymru. Yna, rhannodd
fideo byr o wefan Hwb Llywodraeth Cymru a oedd yn amlinellu trosolwg o'r gwaith
sy'n cael ei wneud gydag ysgolion i'w cefnogi i ymgysylltu â’r cynllun ysgolion
fel sefydliadau dysgu. Mae thema'r
fideo'n hyrwyddo'r syniad bod disgyblion, staff, rhieni, cymunedau lleol a
busnesau i gyd yn rhan o hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu arolwg ysgolion fel sefydliadau dysgu
sy'n amlinellu 7 maes lle byddai pob ymarferydd mewn lleoliad ysgol yn cynnal
arolwg ac mae'n gofyn nifer o gwestiynau a fyddai'n canfod, er enghraifft, pa
mor dda y mae arweinwyr ysgolion yn sicrhau bod ymarferwyr yn ymgysylltu â
lleoliadau eraill y tu allan i'r ysgol. Yn ogystal ag ymdrin ag adolygiadau
gan gymheiriaid, mae’r arolwg hefyd yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau
ymgysylltu, gan gynnwys hunan-werthuso a rhannu gweledigaeth ysgol ac mae'n
cynnwys y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ac yn
cyd-fynd yn dda â nhw. Amlinellodd fod cysylltiad clir iawn
rhwng disgwyliadau athrawon newydd, athrawon sy'n datblygu ac uwch-arweinwyr a
phenaethiaid gyda dulliau hunan-werthuso fel y cynllun ysgolion fel sefydliadau
dysgu, a gall gwerthuso a dadansoddi'r arolwg gynhyrchu diagram 'gwe' a fydd yn
amlinellu canlyniadau'r saith maes ac yn dangos y cryfderau a'r gwendidau a
nodwyd o fewn yr ysgol. Cafodd enghraifft o ganlyniad arolwg
'gwe' o'r fath ei hamlinellu a'i dangos i'r pwyllgor. Byddai arweinwyr
ysgolion sy'n dilyn canlyniadau'r arolwg wedyn yn troi at rywbeth o'r enw'r
adnodd cenedlaethol ar gyfer gwerthuso a gwella, sy'n eu helpu i ofyn
cwestiynau iddyn nhw eu hunain sy'n ymwneud â'r meysydd a nodwyd yn yr arolwg. Byddai’r tîm gwella
ysgolion yn cael canlyniadau'r arolwg ar eu hymweliadau ac yn cysylltu â'r
ysgol i gynorthwyo a datblygu syniadau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a
nodwyd. Yna, amlinellodd
y cymorth ynghylch y gefnogaeth sefydlu ar gyfer swyddi uwch newydd a roddwyd i
gyrff llywodraethu, sy'n cynnwys arweiniad adrannol gan aelod o dîm gwella'r
ysgol ar bob cam ar gyfer dirprwy benaethiaid a phenaethiaid, ac yn y rhan
fwyaf o achosion ar gyfer penaethiaid cynorthwyol ac mewn rhai achosion ar
gyfer uwch-arweinwyr. Yna, caiff mentor
ei neilltuo i'r unigolyn a benodwyd i rôl y pennaeth, ac mae gennym gasgliad o
benaethiaid profiadol sydd wedi cynnig eu gwasanaethau fel mentoriaid. Rydym yn
defnyddio'r term 'mentor anffurfiol' gan nad yw'n rhan o'r cynllun cenedlaethol.
Gall nifer o'r ymarferwyr hyn y gallwn alw arnynt i ryngweithio â'r pennaeth
newydd weithio ag ef yn rheolaidd, fel modd o ddarparu cymorth llesiant, ond
hefyd i roi rhywfaint o arweiniad a chymorth ymarferol ar sut i redeg yr ysgol.
Yr ail gam yn y
broses yw derbyn mentor trwy'r rhaglen penaethiaid newydd a phenaethiaid dros
dro yn Abertawe, sydd ychydig yn ar wahân, felly byddant yn dod yn rhan o
rwydwaith ehangach yn Abertawe a chynhelir rhai sesiynau mwy ffurfiol gan
benaethiaid profiadol yn Abertawe. Byddant hefyd yn rhan o grŵp WhatsApp
ac amryw o dimau/grwpiau eraill er mwyn sicrhau eu bod yn gallu galw am
gefnogaeth pan fydd ei hangen. Maent hefyd wedi
cofrestru yn y rhaglen penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro o safbwynt
cenedlaethol a hwylusir gan Partneriaeth, ac sy'n derbyn gofal gan Rob
Phillips, sydd wedi cael ei secondio o un o'n hysgolion uwchradd yn Abertawe ac
sy'n ymwneud â'r rhaglen genedlaethol honno fel swyddogaeth statudol. Yn
ogystal â hynny, pan fyddwn yn cymryd cam yn ôl ac yn edrych ar y rhaglen
penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro a weithredir gennym yn Abertawe,
rydym yn dilyn y llawlyfr sydd newydd ei lunio, sy'n cyfeirio i ofynion dysgu
proffesiynol ar gyfer penaethiaid yn Abertawe'n benodol megis cyllid, rheoli
safloedd, AD, etc. Yn ogystal â'r
uchod mae cyfres o saith cwrs gorfodol y mae'n ofynnol i'r penaethiaid hynny
ymgymryd â nhw o fewn eu dwy flynedd gyntaf. Manylodd, o ran
gwaith ehangach pennaeth, y byddai'r mentor anffurfiol yn rhoi cefnogaeth ar
gyfer pethau fel prosesau effeithiol ar gyfer hunan-werthuso, eu hymgysylltiad
yn eu gwaith ysgolion fel sefydliadau addysg a amlinellir uchod a'r gwaith o
gefnogi cyfeiriad strategol a chyflwyniad yr ysgol, ond yn dilyn yr ymweliad
gwella ysgolion sy'n digwydd o leiaf deirgwaith y flwyddyn, byddai'r tîm wedyn
yn ymgysylltu â'r mentor yn anffurfiol i sgwrsio am sut mae'r unigolyn hwnnw'n
dod yn ei flaen. Gall y tîm alw'r mentor i ddod i gyfarfodydd yn ystod ein
hymweliad. Mae'r tîm hefyd yn ymgysylltu â'r corff llywodraethu oherwydd eu bod
yn rhan o'r ymweliadau hynny hefyd. Amlinellodd, lle
nodir gofynion am gymorth pellach, y byddai'r ymgynghorydd gwella ysgolion yn
trafod hyn gyda'r unigolyn ac yna'n cyfeirio i arferion effeithiol gan
ddefnyddio'r gronfa ddata y mae'r tîm wedi'i goladu. Amlinellodd esiampl lle
digwyddodd hyn a darparwyd cefnogaeth athro profiadol mewn lleoliad ysgol
ffydd. Amlinellodd y
sail a’r cefndir y mae'r mentoriaid yn cael eu hadnabod neu'n hunan-adnabod
arnynt, a gwneir hyn gyda chefnogaeth y corff llywodraethu perthnasol. Soniodd wedyn am
y gwaith a wneir i gefnogi athrawon sy’n newydd i'r swydd yn Abertawe ac mae
nifer o rwydweithiau'n cael eu cynnal trwy Teams gan Partneriaeth. Cyfeiriodd at y
casgliad o gefnogaeth a gynigir ac amlinellodd fod pob awdurdod lleol yn cael
dyrannu'r arian i gefnogi athrawon sydd newydd gymhwyso yn eu hawdurdodau lleol
drwy'r rhanbarth. Yn Abertawe, mae un aelod o'r tîm yn goruchwylio gwaith y
mentoriaid mewnol a'r mentoriaid a'r dilyswyr allanol ar draws yr awdurdod
lleol. Fel un o'r awdurdodau mwy, mae gan Abertawe gronfa fawr o athrawon sydd
newydd gymhwyso. Manylodd ar y
cyfle drwy gyllid yn ystod y pandemig i osod athrawon newydd gymhwyso yn
ysgolion Abertawe i gyflawni eu hymarfer cynnar. Defnyddiwyd hyn yn effeithiol
yn ysgolion Abertawe a chaniataodd i uwch-arweinwyr ymgymryd â gweithgareddau
gwella ysgolion ymhellach. Mae ysgolion
Abertawe'n gwneud defnydd da o gynnig dysgu proffesiynol Partneriaeth a
rhoddodd gipolwg i'r pwyllgor o’r ddarpariaeth ar-lein sydd ar gael ar gyfer
athrawon sydd newydd gymhwyso ar draws ysgolion Abertawe a'r rhwydweithiau
amrywiol, a'r cysylltiadau a grwpiau cymorth sydd ar gael yn allanol ac yn
fewnol. Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau
ynglŷn â'r wybodaeth a amlygwyd yn y cyflwyniad ac ymatebodd y Swyddogion
ac Aelod y Cabinet yn briodol iddynt. Byddai rhywfaint o'r data a'r wybodaeth y
gofynnwyd amdano yn ystod y cyfarfod yn cael ei archwilio a gellid ei ddarparu
maes o law os yw'n berthnasol i waith y pwyllgorau. Cyfeiriodd Helen
Morgan-Rees a Rhodri Jones at ddatblygiad parhaus y llawlyfr i benaethiaid
newydd a phenaethiaid dros dro yn Abertawe sydd ar ffurf dogfen ddrafft ar hyn
o bryd. Diolchwyd i'r pwyllgor am eu mewnbwn, eu cwestiynau a'u sylwadau dros y
cyfarfodydd diwethaf, y byddant yn cael eu cynnwys yn y ddogfen a'u rhannu i
gael sylwadau i ddechrau gyda grŵp o benaethiaid profiadol a phenaethiaid
sydd newydd gymhwyso. Yna gellir ail-gyflwyno'r ddogfen i'r pwyllgor hwn i'w
chymeradwyo maes o law cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cabinet. Byddai'r fersiwn
derfynol ar gael ar-lein i staff. |
|
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Siaradodd y
Cadeirydd ymhellach ynghylch y cynllun gwaith drafft a gylchredwyd, gan
amlinellu y byddai'r ddau gyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar Bresenoldeb a
Chynhwysiad. |