Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 22 Mehefin
2022 fel cofnod cywir. |
|
Diweddariad gan yr Adran Addysg. PDF 2 MB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Darparodd Sarah
Hughes, Rheolwr Gwelliant a Monitro'r Gyfarwyddiaeth Addysg, gyflwyniad manwl
llawn gwybodaeth ar y cyd-destun ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol
Abertawe. Roedd y manylion
yn cynnwys ysgolion Abertawe; Dysgwyr yn Abertawe; Adeiladau ysgol; a'r
gyllideb addysg. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog ac Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, ac
ymatebwyd iddynt yn briodol. Cynhaliwyd trafodaethau ar y canlynol: - ·
Sut
roedd ysgolion Abertawe'n cymharu ag ysgolion eraill
yng Nghymru. ·
Adeiladu
ysgol - ysgolion gradd cyflwr A a B : 56%. ·
Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg a oedd yn cynnwys yr uchelgais o dyfu
darpariaeth cyfrwng Cymraeg. ·
Yr
amcan cyffredinol o fodloni anghenion yr holl ddysgwyr yn Abertawe, lle bo'n
bosib. ·
Cyflwr
ysgolion hŷn yn Abertawe. ·
Cynnal
a chadw cyfalaf a rhaglen gwella ysgolion. ·
Darparu
manylion ynghylch pa mor ystyriol o'r amgylchedd mae ysgolion Abertawe a
chynlluniau'r dyfodol ynghylch y mater hwn. ·
Adeiladau
ysgolion - £216m o gynlluniau cyfalaf ysgol ers arolygiad diwethaf Estyn yn
2013, yn enwedig ysgolion hŷn. ·
Canolbwyntio
ar addysg yn yr awyr agored, gan gynnwys y cymorth y gall aelodau ward ei
ddarparu i ysgolion, e.e. trosglwyddo ardal o barc lleol yng Nglandŵr i ddarparu man gwyrdd i'r ysgol. ·
Darparu
niferoedd y staff arlwyo, glanhau, gofal, hamdden a hebryngwyr
croesfannau i'r Pwyllgor. ·
Mabwysiadu
ymagwedd leol iawn wrth ymdrin â phroblemau a thargedu ysgolion yn yr ardaloedd
mwyaf difreintiedig. ·
Y canlyniad
cadarnhaol iawn o ran nad yw unrhyw ysgolion yn cael eu monitro gan Estyn ar
hyn o bryd. ·
Y
cyfleoedd a ddarparwyd gan y Fargen Ddinesig. ·
Mabwysiadu
ymagwedd gyfannol at fynd i'r afael â thlodi, gan gynnwys darparu cymorth ar
gyfer y rheini sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. ·
Y
cymorth a ddarparwyd i ddisgyblion yn dilyn effaith COVID-19. ·
Yr
effaith gadarnhaol y gall chwaraeon ei chael ar blant/ysgolion. Gofynnodd y
Cadeirydd am ymatebion gan swyddogion ynghylch cyflwr ysgolion hŷn yn
Abertawe; darparu manylion ynghylch pa mor ystyriol o'r amgylchedd mae ysgolion
Abertawe a chynlluniau'r dyfodol ynghylch y mater hwn; a darparu niferoedd y
staff arlwyo, glanhau, gofal, hamdden a hebryngwyr
croesfannau. |
|
Rhaglen Waith 2022-2023. PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Gwella a Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi amlinelliad drafft
i'r Pwyllgor o'r rhaglen waith ar gyfer 2022-2023 ar hyn yr oedd yn ceisio ei
gyflawni o ran amcanion polisi. Amlinellwyd, yn dilyn trafodaeth rhwng y Cyfarwyddwr ac Aelodau’r Cabinet,
fod y blaenoriaethau a ddarparwyd yn yr adroddiad wedi’u nodi fel eitemau
drafft ar gyfer rhaglen waith 2022-23, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau a wnaed
gan y Pwyllgor. Roedd y bwrdd hefyd wedi darparu'r allbynnau a chanlyniadau a
ragwelwyd o bob eitem ar y cynllun gwaith, yr ymrwymiad polisi y mae pob
cynllun gwaith yn helpu i’w ddarparu a'r flaenoriaeth gorfforaethol sy'n
cyd-fynd â phob eitem ar y cynllun gwaith. Trafododd y pwyllgor y testunau posib canlynol: - ·
Gwella
presenoldeb ysgol a chryfhau arweinwyr ysgol a chymunedau. ·
Cefnogi
rhieni/gwarcheidwaid o ran gwella presenoldeb ysgol. ·
Effaith
negyddol gwaharddiadau ysgol. ·
Darparu'r
diweddaraf am y cynnydd o ran y 10 argymhelliad y cytunwyd arnynt yn yr
adroddiad Cefnogi'r Heriau i Ddysgwyr wrth Adfer o'r Pandemig
i'r Cabinet ar 21 Gorffennaf 2022. ·
Cryfhau
arweinwyr ysgol, sicrhau bod polisïau presennol yn addas at y diben a sicrhau
bod digon o adnoddau i adeiladu'r ethos ar draws cymunedau ysgol. ·
Datblygu
sgiliau rheoli ar draws ysgolion a sicrhau bod gan ysgolion gynlluniau datblygu
ar waith. ·
Sut
mae Abertawe'n ymdrin â diwygio anghenion dysgu
ychwanegol a'r côd newydd. ·
Cefnogi
arweinyddiaeth rhenc ganol o fewn ysgolion. ·
Llywodraethu
effeithiol o fewn ysgolion. Gofynnodd y Cadeirydd
am ragor o fanylion ynghylch y meysydd a nodwyd yn y rhaglen waith ddrafft yn
ystod y cyfarfod nesaf a drefnwyd. Gofynnodd hefyd i'r diweddaraf am y cynnydd
gael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2022 mewn perthynas
â'r 10 argymhelliad y cytunwyd arnynt o'r adroddiad Cefnogi'r Heriau i Ddysgwyr
wrth Adfer o'r Pandemig i'r Cabinet ar 21 Gorffennaf
2022. |