Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Cofnodion. pdf eicon PDF 234 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022 a'r Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 fel cofnod cywir.

 

6.

Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 118 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cylch gorchwyl a ddosbarthwyd a dywedodd y byddai'r Pwyllgor yn anelu at ganolbwyntio ar bynciau sy'n gysylltiedig â'r blaenoriaethau corfforaethol a gyflwynir i'r cyngor ym mis Gorffennaf.

 

Cyfeiriodd at y gwahanol rolau y mae'r Pwyllgorau Datblygu Corfforaethol a chraffu yn eu chwarae, ond amlinellodd y gall perthnasoedd gweithio agos rhwng y ddau fod yn fuddiol.

 

Nodwyd y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor.

 

7.

Cefnogi'r heriau i ddysgwyr wrth adfer o'r pandemig. pdf eicon PDF 382 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd fod yr adroddiad a ddosbarthwyd wedi'i lunio o ganlyniad i waith y Pwyllgorau Datblygu Polisi blaenorol dros y flwyddyn ddinesig ddiwethaf wrth edrych ar faterion i gynorthwyo a chefnogi dysgwyr, yn enwedig dysgwyr sy'n agored i niwed yn ystod ac ar ôl y pandemig.

 

Amlinellodd fod holl gyfnod pandemig COVID-19 wedi bod yn amser hynod anodd i bobl ifanc, athrawon, staff cefnogi mewn ysgolion a staff mewnol yr Adran Addysg.

 

Cyfeiriodd Helen Morgan-Rees at yr adroddiad a oedd yn ceisio ystyried goblygiadau adferiad o'r pandemig i ddysgwyr yn ysgolion Abertawe.

 

Amlinellodd y cefndir i waith y Pwyllgorau Datblygu Polisi blaenorol, y gwaith casglu tystiolaeth a wnaed a'r wybodaeth/data a gasglwyd ac a goladwyd gan y gwahanol unigolion a sefydliadau a oedd yn bresennol yn y cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Amlinellwyd a manylwyd ar yr wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Dywedodd er bod rhai o’r cynigion yn yr adroddiad eisoes wedi dechrau cael eu gwreiddio mewn ysgolion, pe bai’r prif gorff o argymhellion yn cael eu cefnogi gan y Pwyllgor a’u cytuno gan y Cabinet ym mis Gorffennaf, byddai gweithredu a chyflwyno’r rhain yn dibynnu ar adnoddau a staffio ar gyfer ysgolion a'r adran.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r adroddiad a'i ddeg argymhelliad a'i gyflwyno i'r Cabinet ym mis Gorffennaf.

8.

Cynllun Gwaith

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd, yn dilyn y drafodaeth a gafwyd ar yr eitem yn ymwneud â'r cylch gorchwyl yn gynharach yn yr agenda, ei fod wedi cynnig bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, yn cael cyflwyniad/diweddariad gan yr adran i gynnwys materion fel y blaenoriaethau corfforaethol perthnasol ac i gynnwys peth gwybodaeth gefndir i aelodau ar nifer yr ysgolion/staff/adeiladau etc.

 

Cytunwyd y bydd yr eitem ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf fel yr amlinellir uchod. 

 

9.

Dyddiad ac Amser Y Cyfarfodydd.

Penderfyniad:

Cytunwyd

Cofnodion:

Cynigodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn parhau i gyfarfod am 4pm ar ddydd Mercher fel y maent wedi gwneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

Cytunodd pob aelod â'r cynnig a bydd y cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal am 4pm ar ddydd Mercher.