Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor
Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022
fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad i Strategaeth Coridor Glannau'r Tawe. PDF 776 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyflwynodd Gail
Evans a Paul Relf adroddiad manwl a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am
Strategaeth Coridor Glannau'r Tawe. Cyfeiriwyd at gefndir
y gwaith i ddatblygu'r strategaeth ddrafft yn yr adroddiad. Roedd y ddogfen
ddrafft wedi'i datblygu a'i drafftio ond nid oedd wedi'i mabwysiadu'n ffurfiol
oherwydd y pandemig. Amlinellwyd a manylwyd ar wybodaeth, ddiweddariadau a
chynnydd ar y meysydd/cynlluniau canlynol yn y cyflwyniad: ·
Safle
Glannau St Thomas - wedi'i gynnwys yn y fenter Adfywio Abertawe ac fel rhan o
gylch gwaith Urban Splash; ·
Safle
Gwaith Copr yr Hafod-Morfa (GCHM) gan gynnwys y cynigion Skyline a datblygiad
pontŵn GCHM; ·
Adfer
ac Actifadu Asedau Treftadaeth gan gynnwys Distyllfa a Chanolfan Ymwelwyr
Penderyn, a ddylai agor yn y gwanwyn, Adeilad y Labordy, Tai Injan Musgrave a
Vivian, ac adfer y Bont Wrthbwys; ·
Ardal
Adfywio Morfa Road gan gynnwys adeiladu'r ffordd gyswllt newydd, a datblygiadau
tai a masnachol cymysg; ·
Coridor
Gwyrdd Glan yr Afon y Garreg Wen ac Eastside; ·
Y
Camau Nesaf a’r Ffordd Ymlaen - Uwchgynllun parhaus, adolygu safle Parcio a
Theithio Glandŵr, Cynllun Gweithredu ar gyfer y dyfodol a chynlluniau a
chynigion posib a fyddai'n ddibynnol ar sicrhau cyllid. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynglŷn â'r
wybodaeth a'r cynlluniau parhaus a amlygwyd yn yr adroddiad a'r cyflwyniad, ac
ymatebodd y Swyddogion a'r Cyfarwyddwr yn briodol iddynt. Nododd y
Cadeirydd y byddai angen adroddiad dilynol a thrafodaeth bellach er mwyn cyfuno
a diweddaru'r strategaeth flaenorol, ac o bosib byddai angen cynnal
ymgynghoriad ag Aelodau a'r cyhoedd cyn i'r strategaeth gael ei chymeradwyo a'i
chyfeirio at Aelod y Cabinet. Penderfynwyd nodi'r diweddariad a chyflwyno adroddiad
pellach i'r Pwyllgor y flwyddyn nesaf. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd
ar gyfer 2022-2023 'er gwybodaeth', gan fanylu ar yr eitemau i'w trafod yng
nghyfarfodydd y pwyllgor sydd i ddod yn y Flwyddyn Newydd. |