Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor
Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf
2022 fel cofnod cywir. |
|
Ap Residents' Reward. PDF 277 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid ddiweddariad ar yr
ap Gwobrwyo i Breswylwyr. Amlinellwyd bod cyflwyno gostyngiadau, pwyntiau teyrngarwch a gwobrau ar
gyfer preswylwyr Abertawe yn ymrwymiad polisi. Gyda chynllun o'r math hwn, byddai
angen cysylltiadau agos ag ystod eang o fanwerthwyr a
sefydliadau sector preifat eraill ledled Abertawe. Roedd y cyngor felly'n partneru ag Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe. Roedd gan
yr AGB y cysylltiadau, y perthnasoedd a'r isadeiledd i fusnesau lleol a
chynllun cerdyn rhoddion sydd eisoes yn bod sef "Calon Fawr
Abertawe". Eglurwyd mai ap yw'r ffordd hawsaf a mwyaf
cost-effeithlon i breswylwyr ddefnyddio'r cynllun, gan fod gostyngiadau a
gwobrau'n newid yn gyson. Gall ap hefyd ddarparu manteision ychwanegol
defnyddiol ynghyd â nodweddion pan fydd preswylwyr yn mynd o le i le yn
Abertawe, e.e. ·
Y gallu i adrodd am becynnau amheus; ·
Sganio codau QR i gael gwybodaeth ychwanegol sydd i'w
chael o fewn yr ap; ·
Proffilio personol fel y gall yr ap wthio cynnwys a
gostyngiadau perthnasol yn seiliedig ar eu lleoliad. Byddai'r ap yn cynnwys y canlynol: · Cynllun
Teyrngarwch (Cam 1): · Y gallu i fanwerthwyr roi gostyngiad (Cam 1); · Y gallu i
gynnal cystadlaethau (Cam 1). Bydd rhoi pethau am ddim bob mis yn yr AGB yn
rhan o'r rhaglen deyrngarwch; · Dadansoddi
data. e.e. nifer yr ymwelwyr etc. (Cam 1); · Proffiliau
personol e.e. gellir defnyddio hoffterau bwyd i argymell lleoedd newydd i fwyta
gyda gostyngiad/cherdyn rhodd/phwyntiau teyrngarwch ar gael. (Cam 1); · Dolen i
ostyngiadau ar rai digwyddiadau/gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor lle nad
oes cynllun o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd ac os na fydd y cyngor yn colli
incwm a glustnodwyd o ganlyniad i hyn. Y dybiaeth yw yr adenillir y gost lawn
(Cam 2); · Dolen i
ostyngiadau teithio ar fysus ac olrhain hyn (Cam 2); · Nodwedd côd QR i gael gafael ar wybodaeth bellach (Cam 3); · Hysbysiadau
e.e. pecyn amheus wedi'i ganfod, argyfyngau yng nghanol y ddinas (Cam 3); Nodwyd bod cynhwysiad
digidol yn uchel yn Abertawe, fodd bynnag, mae'n bwysig y gall pob preswyliwr
gael mynediad at yr Ap. Mae swyddogion a'r AGB yn archwilio ffyrdd o gefnogi
preswylwyr i gofrestru ar gyfer yr Ap a chael mynediad ato, a datblygu
cynhwysiad digidol. Mae manteision disgwyliedig yr ap yn cynnwys: · Gwobrau a
gostyngiadau teyrngarwch i breswylwyr y gellir eu cronni a'u defnyddio'n
hwyrach; · Rhagor o
bobl yn ymweld â chanol y ddinas yn ystod y cam cyntaf; · Llwyfan ac
isadeiledd i gyflwyno'r ap i strydoedd mawr a wardiau eraill ledled Abertawe; · Gostyngiadau
a phwyntiau teyrngarwch i breswylwyr i rai lleoliadau sy'n eiddo i'r cyngor;
Fel y soniwyd yn flaenorol, lle nad oes cynllun o'r fath yn bodoli eisoes ac ni
fydd y cyngor yn colli unrhyw incwm a glustnodwyd o ganlyniad i hyn. Y dybiaeth
fydd yr adenillir y gost lawn; · Cyflwyno'r
ap i ddinasoedd eraill yn y dyfodol a fyddai o fudd i breswylwyr Abertawe y tu
allan i'r sir; · Mesurau
diogelwch ychwanegol, gyda nodwedd yn yr ap sy'n tynnu sylw at unrhyw faterion
brys e.e. pecynnau amheus; · Adrannau
penodol e.e. harddwch Abertawe a'r gallu i hyrwyddo twristiaeth, lle nad oes
unrhyw wrthdaro wedi'i nodi â chynlluniau eraill ar gyfer hyrwyddo twristiaeth,
er enghraifft yn lleol; · Llwyfan i
ychwanegu mentrau, buddion a hyrwyddiadau pellach ar gyfer preswylwyr Abertawe
yn hawdd, sy'n cyd-fynd â chynlluniau presennol a lle mae bylchau neu
gyfleoedd. Gallai cam un y system ddechrau'n syth, wedi'i
gyflwyno cam wrth gam. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan gamau pellach. Y nod yw
lansio cam un mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y
Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid: ·
nad oedd dim ar gael 'yn barod' ac nad yw cynlluniau a
ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill yn cyd-fynd â'r meini prawf sy'n ofynnol
gan Abertawe ·
bod yr AGB ar gam cynnar trafod y cynllun â masnachwyr er
bod masnachwyr yn ymwybodol ei fod yn cael ei ddatblygu. bod materion megis ysgogiadau i fasnachwyr yn
cael eu datblygu o hyd. ·
Rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei lansio'n swyddogol. ·
Pwysigrwydd y fath gynllun o ran annog mwy o bobl i
ymweld â chanol y ddinas. Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Gwasanaethau
Digidol a Chwsmeriaid am yr adroddiad gwybodaeth. Penderfynwyd: 1.
Y darperir adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ym mis Ionawr,
gyda gwahoddiad yn cael ei estyn i'r AGB ddod i'r cyfarfod a chymryd rhan yn y
trafodaethau. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Cyflawni Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd
'er gwybodaeth'. Nodwyd y byddai'r
pynciau canlynol yn cael eu trafod ar 24 Tachwedd 2022: ·
Cyflwyniad
i Strategaeth Bae Abertawe (Geoff Bacon). ·
Cyflwyniad
i Strategaeth Coridor Glannau'r Tawe (Gail Evans). |