Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y
Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â chofnod rhif 12 - Cynllun Rheoli
Cyrchfannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor
Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf
2022 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas amlinelliad drafft o'r rhaglen waith ar
gyfer 2022-23 i'r Pwyllgor Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd a
thynnwyd sylw at yr hyn yr oedd y Pwyllgor am ei gyflawni o ran amcanion
polisi. Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas amlinelliad drafft o'r rhaglen waith ar
gyfer 2022-23 i'r Pwyllgor Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd a
thynnwyd sylw at yr hyn yr oedd y Pwyllgor am ei gyflawni o ran amcanion
polisi. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer 2022-23 a amlinellwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad; 2) Ystyried yr eitem ganlynol yn ystod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer: 22 Medi 2022: Ø Gwobrau Preswylwyr Abertawe. 3) Trefnu'r eitemau canlynol yn ystod y flwyddyn ddinesig: Ø Strategaeth Coridor Afon Tawe. Ø Strategaeth Bae Abertawe. 4) Bydd y Cadeirydd yn siarad â Phennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ynghylch y Cynllun Datblygu Economaidd. Ø Preswylwyr Abertawe. |