Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Paul Lloyd gysylltiad personol.
|
2. |
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
4. |
Adroddiad Gwasanaethau Bysus PDF 229 KB
Gwahoddwyd:
- Mark
Thomas, Aelod y Cabinet - Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
- Martin
Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd
- Stuart
Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant,
- Cath Swain,
Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig
Cofnodion:
Roedd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli
Isadeiledd, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, ynghyd â Swyddogion perthnasol
i ddarparu diweddariad byr o'r hyn sydd wedi digwydd ers y cyfarfod diwethaf ym
mis Gorffennaf 2021 ac i ateb cwestiynau'r Aelodau.
Trafodwyd y prif faterion canlynol:
- Mae Llywodraeth
Cymru'n awyddus i gyflwyno bysus sy'n defnyddio tanwydd glanach. Bydd
bysus hydrogen yn brosiect treial yn ardal Bae Abertawe ac ardal Penfro
dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae'n bosib y gallai fod 50 o fysus
hydrogen yn Abertawe.
- Teimlai'r Aelodau
fod problemau gyda'r gwasanaethau bysus yn Abertawe y mae angen eu datrys
er mwyn cynyddu'r defnydd o fysus, h.y. mae'r bysus yn gwbl annibynadwy,
nid yw llochesi bysus yn ddiddos ac mae angen rhagor o safleoedd bysys â
gwybodaeth mewn amser go iawn. Hysbyswyd yr Aelodau fod 112 o lochesi
bysus yn cael eu disodli ar hyn o bryd ac mae cais am gyllid wedi ei
gyflwyno trwy fwrdd y CCE i ariannu'r gwaith o atgyweirio ac amnewid y
llochesi bysus sy'n weddill. Cadarnhaodd Swyddogion fod gwasanaethau bysus
wedi bod yn annibynadwy gan fod nifer o broblemau wedi codi yn ystod
COVID-19. Mae gan rai safleoedd bysus wybodaeth amserlenni electronig ond
nid yw mewn amser go iawn. Y gobaith yw y bydd safleoedd bysus sy'n cael
eu defnyddio'n fynych yn arddangos gwybodaeth amserlenni mewn amser go
iawn yn y dyfodol.
- Dywedodd y
Gweithgor fod ganddo ddiddordeb mewn pam nad yw pobl yn defnyddio bysus a
theimlai ei fod y broblem o ran agwedd tuag at ddefnyddio bysus a'r
diwylliant o gael car. Clywodd yr aelodau fod nifer o resymau pam nad yw
pobl yn defnyddio bysus ac mae llawer o ganfyddiadau y mae angen mynd i'r
afael â nhw. Pan fydd y cerbydlu bysus yn dod yn
wyrdd, bydd hwn yn gyfle da i newid canfyddiadau.
- Dywedodd y
Gweithgor fod treialon yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru sy'n ymwneud â
throsglwyddo tocynnau, ac roedd yn rhywbeth y gallai Abertawe edrych arno.
Dywedwyd bod yr holl dreialon yn cael eu cynnal gyda chyfranogiad llawn
Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru a bod system docynnau integredig
yn rhywbeth y gellid ei rhoi ar waith yn gymharol gyflym gan fod systemau
technolegol eisoes ar waith, ond y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru
ddeddfu er mwyn i hyn ddigwydd.
- Holodd y Gweithgor
a oedd yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru, o ystyried y dyfarniad llys
diweddar, wedi ystyried gwasanaethau bysus wedi'u rheoli gan yr awdurdod.
Roedd Aelod o’r Cabinet yn credu bod newid ar y gweill, boed hynny drwy
ymagwedd newydd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru at fasnachfreinio neu fod gan yr awdurdod ei wasanaethau
ei hun.
- Gofynnodd y
Gweithgor beth fydd yn digwydd pan fydd y Cynllun Brys ar gyfer Bysus yn
dod i ben ym mis Gorffennaf 2022 a sut caiff trawsnewidiad ei gyflawni.
Cadarnhaodd Swyddogion y bydd cymorth ariannol i gwmnïau bysus bellach yn
mynd y tu hwnt i fis Gorffennaf 2022 ond nid oes unrhyw fanylion ar gael
eto.
- Ar hyn o bryd,
mae'r cwmpas rhwydwaith yn 80% o'r hyn ydoedd yn 2022; Mae nifer y
teithwyr yn 60% o'r hyn oeddent yn 2020; Mae nifer y tocynnau consesiynol
yn 50% o'r hyn oeddent yn 2020 ac mae llawer llai o fyfyrwyr yn teithio ar
fws nag o'r blaen.
|
5. |
Trafodaeth a Chasgliadau
Gofynnwyd i Gynghorwyr drafod
casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd i Aelod
y Cabinet neu, os yw'n briodol, adroddiad i'r Cabinet:
a.
Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth
Aelod y Cabinet (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r
sesiwn hon)?
b. Oes
gennych argymhellion i Aelod y Cabinet sy'n codi o'r sesiwn hon?
c. Oes
unrhyw faterion pellach yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt
sy'n codi o'r sesiwn hon?
Cofnodion:
Trafododd y
gweithgor gynnydd a daeth at y casgliadau canlynol:
- Rydym yn falch o glywed bod llawer o
brosiectau a gwelliannau wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag,
er gwaetha'r Ymchwiliad Craffu ar Gludiant Cyhoeddus 8 mlynedd yn ôl, ni
chafwyd llawer o welliant o ran dibynadwyedd a gwasanaeth fel y mae'r
cyhoedd ei eisiau. Mae dibynadwyedd yn allweddol ar gyfer annog rhagor o
bobl i ddefnyddio bysus.
- Roeddem yn teimlo bod angen gwneud y
defnydd o fysus yn fwy deniadol i'r rheini nad ydynt yn defnyddio'r
gwasanaeth ar hyn o bryd. Nid y problemau ymarferol a geir wrth ddefnyddio
bysus yw’r unig broblem, mae problem ehangach o ran agwedd y cyhoedd tuag
at ddefnyddio bysus. O ystyried yr argyfwng hinsawdd, mae angen mynd i'r
afael â'r broblem hon o ganfyddiad y cyhoedd.
- Roeddem yn pryderu bod gan gwmnïau bysus
fonopoli a'u bod yn mynd ar ôl llwybrau proffidiol yn unig, gan adael
awdurdodau lleol i dendro gwasanaethau ar lwybrau nad ydynt yn broffidiol.
Mae'n rhaid i weithredwyr bysus ddarparu gwasanaeth da yn gyntaf cyn y
gall unrhyw beth arall newid. Mae
angen i Lywodraeth Cymru newid deddfwriaeth a chyflwyno rheoliadau er mwyn
gallu dwyn gweithredwyr bysus i gyfrif am ddarparu gwasanaethau, ymysg
pethau eraill. Rydym yn annog yr awdurdod i barhau i wneud popeth yn ei
allu i symud ymlaen â newidiadau mewn deddfwriaeth i allu dwyn
gweithredwyr bysus i gyfrif, i'w gwneud hi'n haws sefydlu cwmnïau bysus
trefol ac i alluogi trosglwyddo tocynnau.
- Roeddem yn teimlo bod cyfarfodydd
rheolaidd mewn wardiau rhwng cynghorwyr a gweithredwyr bysus yn bwysig
iawn. Argymhellwyd hyn yn flaenorol ac mae angen sicrhau bod hyn yn
digwydd.
- Rydym yn croesawu'r ffaith bod llochesi
bysus yn cael eu hatgyweirio neu eu hamnewid. Fodd bynnag, byddem hefyd yn
hoffi gweld llochesi bysus, safleoedd bysus ac arwyddbyst yn cael eu
glanhau'n rheolaidd.
- Teimlwn
y byddai'n ddefnyddiol cael system loceri sydd
ar gael yn rhwydd mewn gorsafoedd bysus i storio siopa etc., fel nad oes
rhaid i bobl gario popeth o gwmpas gyda nhw drwy'r dydd ac rydym yn
gobeithio y byddwch yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hyn.
Yn dilyn y
cyfarfod hwn:
Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y
gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau
ac argymhellion y gweithgor.
|
6. |
Er Gwybodaeth: Llythyrau o gyfarfodydd blaenorol PDF 340 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Gweithgor y llythyrau o'r cyfarfod blaenorol a nododd yr
argymhellion blaenorol ac ymateb Aelodau'r Cabinet.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Mawrth 2022) PDF 116 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Mawrth 2022) PDF 612 KB
|