Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chris Holley a Tony Beddow gysylltiad personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 226 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 279 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r cyfarfod i ateb cwestiynau ar yr Adroddiadau Monitro Perfformiad ar gyfer mis Tachwedd 2020. 

 

Gwasanaethau i Oedolion

·         Seibiant Brys a Chymorth Dydd Brys – Dan amgylchiadau arferol byddai'n cynnig gwasanaeth dydd i 600 o bobl ar unrhyw adeg benodol.  I ddechrau, bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gwasanaeth hwn, ac yna ei ail-fodelu i gynnig seibiant brys i'r rhai mwyaf agored i niwed.  Wedi llwyddo i gynnig uchafswm o chwarter hyn ac wedi llenwi pob lle. Wrth i’r Nadolig nesáu bu'n rhaid i ni ohirio'r gwasanaeth hwn am gyfnod byr ond dechreuodd unwaith eto ym mis Ionawr.  Ar hyn o bryd yn cynnig cymorth i tua 150 o bobl.  Fel isafswm, bydd y gwasanaeth yn cadw mewn cysylltiad â'r unigolion hyn ac mae rhai yn cael cymorth cyfyngedig gartref.  O'i chymharu â gweddill Cymru, yn Abertawe mae'r sefyllfa'n un dda iawn. 

·         Adolygiad o Gleientiaid a Glustnodwyd – Mae'r gwaith adolygu a gynlluniwyd yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd.  Wedi dad-flaenoriaethu'r gwaith hwn yn weithredol. Yn falch o'r nifer rydym wedi llwyddo i'w wneud gan fod y broses adolygu'n cael ei defnyddio, gyda rhai cyfyngiadau, i nodi'r cymorth sydd ar gael o ran iechyd meddwl.  Ar gyfer adolygiadau Pobl Hŷn, mae tîm penodol sydd â swyddogaeth adolygu flynyddol; sy'n canolbwyntio ar y mwyaf heriol.  O ran Anableddau Dysgu, ni wnaed unrhyw newidiadau strwythurol i'r gwasanaeth; dyma fyddai'r cynnig gwasanaeth dydd ond nid oes digon o bobl i ddarparu'r gwasanaeth hwn.  Cysylltir ag unigolion yn wythnosol/bob pythefnos i alw mewn arnynt.

Nid oes unrhyw gynlluniau i wella hyn yn ystod yr ail don, dim ond parhau â'r hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd.  Mae'r gwasanaeth yn ceisio recriwtio a bydd yr aelodau staff ychwanegol sy'n cael eu recriwtio'n aros ymlaen tan ar ôl yr argyfwng presennol i geisio dal i fyny gyda'r gwaith.

·         Profion Staff y Gwasanaethau i Oedolion - Ar hyn o bryd, mae llawer llai o brofion yn cael eu cynnal yn ein hardal. Pryderu bod hyn yn rhoi ffigur artiffisial isel ar gyfer achosion yn ein hardal.  Ddim yn poeni am y gweithdroad ar hyn o bryd. Penbleth ynghylch faint y byddwn yn defnyddio profion llif dwyochrog.  Y flaenoriaeth bresennol yw cyflwyno'r brechiad yn llwyr. 

 

 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

·         Cwblhawyd asesiadau o fewn 42 diwrnod – Roedd y gwasanaeth yn pryderu am berfformiad asesu.  Bu gwelliant dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

·         Monitro Perfformiad Gwaith Uniongyrchol – Mae'r gwaith i wella gwasanaethau system Paris wedi'i ohirio ar hyn o bryd.  Bwriedir rhoi hyn ar waith fis nesaf a bydd y gwasanaeth yn parhau â'r system, am ein bod o'r farn y gellir cael budd sylweddol ohoni.

·         Gwasanaeth y System Cyfiawnder Ieuenctid – Mae'r pandemig wedi effeithio ar hyn.  Ar hyn o bryd gwelir gwelliant sylweddol o ran amseru asesiadau.  Mae'r holl bolisïau a oedd ar goll adeg yr arolygiad bellach ar waith; a datblygwyd sgiliau'r gweithlu.  Er gwaethaf y pandemig, mae ar y trywydd iawn gyda mesurau perfformiad.

·         Goruchwyliaeth ar draws y Gwasanaethau Plant – Mae rhywfaint o broblemau.  Ddim yn siŵr a oes gan rai timau'r cydbwysedd cywir o ran goruchwylio staff a goruchwylio perfformiad. Mae Pennaeth y Gwasanaeth yn ailedrych ar hyn ar gyfer rhai timau gan fod angen mwy o bwyslais ar les staff.  Mae mesurau ar waith i geisio lliniaru hyn. 

·         Nododd y Panel gynnydd bach yn nifer y plant ar y gofrestr 'Mewn Perygl'.  Holwyd a yw'n disgwyl cynnydd pellach wrth i ysgolion ddychwelyd a faint o hyn sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig.  Cadarnhaodd swyddogion y tro diwethaf i ysgolion fynd yn ôl nad oedd cynnydd enfawr wrth y 'drws ffrynt'.  O ran diogelu, mae'r trefniadau sydd ar waith tra bod ysgolion ar gau yn profi'n gadarn ac ar lefelau y disgwylir iddynt fod.  Mae'n bosib y bydd cynnydd pellach am nifer o resymau gan gynnwys cam-drin domestig.  Mae swyddogion o'r farn bod gallu'r Gwasanaethau Plant i weithio gyda theuluoedd yn gyfyngedig ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ac felly mae effeithiolrwydd rhai o'r ymyriadau yn cael ei gyfaddawdu. Felly mae plant yn aros ar gofrestr amddiffyn plant yn hirach, ac mae pryderon newydd yn cael eu codi.   Fodd bynnag, dim ond ychydig yn uwch na'r disgwyl yw'r niferoedd. 

 

6.

Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19

Clive Lloyd, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Gofal i Oedolionac Iechyd Cymunedol

 

Elliott King, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant

 

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Roedd Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol; Elliott King, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant a David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran pandemig COVID-19.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

·         Aelod Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion - Roedd y Nadolig a dechrau mis Ionawr yn gyfnod anodd iawn.  Bu'n rhaid i'r tîm ymateb cyflym fynd i gartrefi gofal ar sawl achlysur i gynorthwyo, ond nid oedd yn rhaid symud unrhyw breswylwyr allan.  Mae gostyngiad yn y cyfraddau heintio i'w groesawu ond nid yw hyn yn lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd.

 

·         Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Plant – Mae'r gwasanaeth yn gadarn ac yn ymdopi. Arwydd cadarnhaol iawn.  Mae'n llwyddo i gydbwyso'r galw ac absenoldeb staff. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chanolfannau cymorth cynnar ac addysg.  Mae asesiadau wedi gwella'n fawr.  Mae niferoedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ychydig yn uwch ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ymchwilio i hyn.

 

·         Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Rydym yn dal i fod 3 gwaith yn fwy na'r gyfradd gadarnhaol pan rhoddwyd y mesurau rheoli ar waith gan Sefydliad Iechyd y Byd. Rhoddodd y gwasanaeth bopeth a ddysgwyd o'r don gyntaf ar waith.  Mae'r staff wedi blino'n lân – mae ganddynt lefelau sylweddol o staff sy'n gorfod ynysu o hyd, mae gan lawer ohonynt gyfrifoldebau gofalu ac maent yn delio ag achosion mwy cymhleth.  Mae'n wych bod y gwasanaeth wedi llwyddo i barhau; mae'n dal i fod yn fregus dros ben.  Maent wedi gorfod mynd i gartrefi gofal mewn sefyllfa dyngedfennol, ynghyd ag iechyd, am gyfnodau o amser yn ogystal â chynnal ein gwasanaethau. Rydym yn parhau i deimlo effeithiau Gofal Cartref, yn arbennig.  Rydym yn darparu ymateb i COVID, sydd ymhell o fod yn ddelfrydol. Mae hefyd yn ofyniad mawr i unigolion yn ein cymunedau sy'n gorfod ymgymryd â chymaint.  Y targed yn ein rhanbarth yw brechu'r 4 haen uchaf erbyn canol mis Chwefror; sy'n amserlen heriol.  Mae gennym ddigon o frechiadau ar gyfer yr holl garfanau hyn. Mae'r Bwrdd Iechyd yn arwain y rhaglen frechu ond mae'r cyngor yn ei chefnogi.  Mae'n rhaglen enfawr.  Rydym yn llawn edmygedd o ran sut mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid.

 

·         Mae sefydlu Tîm Ymateb Cyflym yn dangos bod newid yn y berthynas rhwng y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Holodd y panel faint o bobl a oedd yn rhan o'r tîm ymateb cyflym.  Darperir y ffigurau y gofynnwyd amdanynt yn y dyfodol.

 

·         Mae'r gwelliant yn y berthynas rhwng y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod pandemig yn gadarnhaol.  Datblygiad cadarnhaol posib arall mewn perthnasoedd fyddai pe bai modd trafod rhaglenni cymorth i staff yn y ddau sefydliad ar y cyd, gyda staff yn y ddau sefydliad yn dod at ei gilydd i rannu profiadau.

 

·         O edrych ar wasanaethau ar ôl y pandemig, mae'r gwaith integredig a wneir yn ystod pandemig yn darparu model o sut y dylem ailadeiladu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

·         Canmolodd Aelodau'r Cabinet, y Cyfarwyddwr ac Aelodau'r Panel y gweithlu am yr hyn y maent wedi'i gyflawni.

 

·         Teimlai'r Panel y byddai angen cymorth parhaus i Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol i gynorthwyo gyda'r adferiad a lles.  Dylid ychwanegu hyn fel eitem i raglen waith Panel y Gwasanaethau i Oedolion. 

 

Camau Gweithredu:

·         Darparu ffigurau ar gyfer nifer y bobl sy'n ymwneud â'r Tîm Ymateb Cyflym i'r Panel pan fydd yn gyfleus.

·         Ychwanegu 'Cymorth i Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol' at raglen waith Panel y Gwasanaethau i Oedolion.

 

 

Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Ionawr 2021) pdf eicon PDF 187 KB