Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Mike Durke, Joe Hale, Chris Holley, Jeff Jones, Susan Jones a Wendy Lewis gysylltiad personol.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 332 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar gofnodion cyfarfod y Gwasanaethau i Oedolion a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020 a chyfarfod y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2020 fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 279 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan y cyfarfod nesaf.

 

6.

Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19

Clive Lloyd, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol

Elliott King, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Roedd Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol; Elliott King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol yn y cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y sefyllfa bresennol o ran Pandemig COVID-19.

 

Pwyntiau i'w trafod:

·         Gofynnodd Aelodau'r Panel i Aelodau'r Cabinet/y Cyfarwyddwr fynd â neges yn ôl i’r staff, gan fynegi diolch a gwerthfawrogiad i’r holl aelodau staff y rhoddwyd pwysau enfawr arnynt ac sy'n gwneud gwaith anhygoel dan amgylchiadau anodd iawn.

·         Er mwyn cefnogi'r risg o fethiant cartrefi gofal, mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnig creu gweithlu symudol o staff gofal ac iechyd cymunedol a all fynd i gartrefi gofal sy'n cyrraedd pwynt argyfwng.  Gobeithiwn y bydd cadarnhad yn fuan bod trefniadau ar waith.

·         Gofynnwyd i arweinwyr yr holl bleidiau gwleidyddol ledaenu'r neges i'w haelodau a'u cymunedau drwy rannu'r recordiad o'r cyfarfod.

·         Mae posibilrwydd y bydd yn rhaid cyfyngu ar ofal. Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ailddosbarthu esboniad i’r cynghorwyr o'r hyn y dylid ei wneud os bydd aelodau o'r cyhoedd yn cysylltu â hwy ynghylch materion sy'n ymwneud â gofal.

·         Mae'r cysylltiadau rhwng gwasanaethau cymorth cynnar, y Gwasanaethau Plant ac ysgolion yn rhagorol. Sicrhawyd bod popeth y gellid ei wneud i blant diamddiffyn yn y sefyllfa bresennol eisoes yn cael ei wneud.

·         Y neges i'r cyhoedd yw y dylid cyfyngu ar gymysgu gydag aelwydydd eraill dros y Nadolig, ac os ydych yn cymysgu ag aelwyd arall, rhaid ceisio amddiffyn anwyliaid hŷn.

·         Y neges i Lywodraeth Cymru yw bod y cyfnod atal byr wedi cael effaith.  Rhaid i ni gael rhywbeth tebyg yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

·         Mae pwysau enfawr ar staff Profi ac Olrhain yn ogystal â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae cynllun ar waith i ychwanegu at yr uned Profi ac Olrhain dros y Nadolig a’i chryfhau ond mae gallu'r system hon yn cael ei herio.

·         Nid yw'r Cyfarwyddwr wedi'i argyhoeddi y byddai gan brofion cymunedol torfol ddigon o werth ar gyfer swm yr adnoddau y byddai ei angen i roi hyn ar waith.  Defnydd wedi'i dargedu o brofion llif ochrol yn ddyddiol yw'r model a fyddai'n gweithio mewn theori i gyfran fawr o'r gweithlu sy'n ynysu, gan eu bod yn gyswllt, ond mae’n bosib nad oes ganddynt COVID.  Bydd angen trafod gyda Llywodraeth Cymru sut y gellid cyflwyno rhywbeth fel hyn i'r bobl hynny, gan y gallai alluogi rhai staff i ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach.

·         Rydym yn cyrraedd dirlawnbwynt o ran nifer y profion a ddyrannwyd i'r rhanbarth hwn. Cynhelir trafodaethau o hyd yn genedlaethol i weld a ellid cynyddu hyn.

·         Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r panel yn pryderu am ofalwyr yn y tymor hir a gofynnwyd i hyn gael ei gadw mewn cof.

 

Camau Gweithredu:

·         Gofyn i arweinwyr pob grŵp gwleidyddol rannu'r recordiad o'r cyfarfod gyda'u haelodau a'u cymunedau.

·         Ailddosbarthu esboniad i’r cynghorwyr o'r hyn y dylid ei wneud os bydd aelodau o'r cyhoedd yn cysylltu â hwy ynghylch materion sy'n ymwneud â gofal.

 

Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Rhagfyr 2020) pdf eicon PDF 167 KB