Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley fuddiant personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedigcyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellafRhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

4.

Cynigion Drafft Cyllideb

Gwahoddir y Cyng. Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Gofal, Cyng Alyson Anthony, Aelod y Cabinet dros Lles, Cyng. Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Cymuned a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol.

 

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 15 Chwefror 2024, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 09 Chwefror 2024).

 

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Threchu Tlodi  er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Louise Gibbard, Alyson Anthony a Hayley Gwilliam, ynghyd â swyddogion perthnasol yn bresennol, ac aethpwyd trwy gynigion y gyllideb arfaethedig mewn perthynas â’r Gwasanaethau i Oedolion, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Threchu Tlodi, gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

  • Cynnydd yn y gyllideb- mae'r panel yn falch o weld cynnydd yn y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2024/25 o £157m i £171m, sy'n gynnydd o oddeutu 9%. Mae hyn yn gadarnhaol iawn.
  • Cydlynu Ardaloedd Lleol - roedd gan y panel bryderon dwys am y gostyngiad mewn CALlau gan eu bod yn galluogi pobl i fyw'n annibynnol am hwy cyn dod i'r system Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gynnal.
  • Llai o gefnogaeth i bobl - mae'r panel yn poeni nad yw pobl yn cael yr un lefel o gymorth a chefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ag yr oeddent yn arfer ei chael, ac mae'n rhaid i unigolion a theuluoedd wneud mwy a mwy drostynt eu hunain.
  • Cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol - mae gan y panel bryderon am effaith y cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol ar y gyllideb ynghyd â'r defnydd o gontractwyr.
  • Defnyddio cronfeydd wrth gefn - roedd aelodau’r panel wedi'u synnu i glywed bod tanwariannau blaenorol mewn rhai meysydd o'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'u cario drosodd fel cronfeydd wrth gefn, i'w defnyddio i dalu am unrhyw orwariant mewn meysydd eraill o'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Cyllideb gros - Yn y dyfodol, hoffai'r Panel weld y gyllideb refeniw a'r gyllideb gros, gan nad yw'n deall lefel y ddibyniaeth ar grantiau etc.

 

 

Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror i roi barn gyfunol y paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at yr Aelod Cabinet.