Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw
fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Adroddiad a Chyflwyniad ar Brexit PDF 256 KB
Rob Stewart,
Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet - yr Economi a Strategaeth
Adam Hill,
Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Adnoddau
Richard
Rowlands, Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad
Craig
Gimblett, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol
Paul Relf,
Rheolwr Datblygu Economaidd ac Ariannu Allanol
Cofnodion:
Daeth Rob Stewart,
Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet - yr Economi a Strategaeth, Adam Hill, y
Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Adnoddau a swyddogion perthnasol eraill
i gyflwyno trosolwg o baratoadau'r cyngor ar gyfer Brexit
ac i ateb cwestiynau'r Gweithgor.
Trafodwyd y prif
faterion canlynol:
- Gan fod cymaint o ansicrwydd, mae Cyngor
Abertawe wedi paratoi cymaint ag sy'n bosib ac mae'n debyg ei fod wedi
paratoi mwy nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru.
- Roedd y DU yn gobeithio gadael yr UE ym mis
Mawrth 2019 ac roedd yr awdurdod yn barod am hynny. Mae pryderon eraill
ynghylch Brexit yn yr hydref, o'i gymharu â Brexit yn y gwanwyn.
- Mae cyfathrebu'n bwysig iawn. Mae angen
sicrhau nad yw'r cyhoedd yn prynu'n wyllt nac yn pentyrru nwyddau (bwyd,
tanwydd, meddyginiaethau).
- Mae pryder y bydd rhai grwpiau'n defnyddio Brexit fel ffordd o hyrwyddo'u materion eu hunain ac
achosi aflonyddwch.
- Mae tlodi o ganlyniad i Brexit
yn bryder mawr i'r awdurdod.
- Gall Brexit ddod â
rhai manteision i'r ardal yn y dyfodol ac mae angen i ni hyrwyddo rhai
cyfleoedd i bobl a busnesau lleol.
- Nid oes gan bawb fynediad at gyfrifiadur a
gwefan y cyngor er mwyn cael gwybodaeth am Brexit.
Caiff aelodau'r cyhoedd sy'n cysylltu â'r cyngor eu cyfeirio i'r person
cywir i ymdrin â'r materion a godir ganddynt.
- Cefnogir busnesau bach i baratoi trwy BID,
sy'n cefnogi busnesau canol y dref. Mae'r Siambr Fasnach hefyd yn helpu i
gynyddu ymwybyddiaeth busnesau ohono ac mae gan wefannau Llywodraeth y DU
a Llywodraeth Cymru wybodaeth am sut y dylai busnesau baratoi ar ei
gyfer.
- Mae cyflenwad tanwydd yn broblem
genedlaethol. Mae'r heddlu a'r llywodraeth genedlaethol wedi gosod
cynlluniau wrth gefn yn eu lle. Os bydd problem rheoli traffig, bydd adran
priffyrdd y cyngor yn gwneud ei rhan.
- Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn broblem. Nid
ydym yn gwybod pa fath o ddylanwad y byddant yn ei gael.
- Mae'r awdurdod wedi derbyn £45,000 oddi wrth
Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer Brexit.
Defnyddiwyd hyn i dalu am amser y swyddogion. Nid ydym yn gwybod os byddwn
yn derbyn rhagor o arian ond mae costau, gan gynnwys amser y swyddogion,
yn cael eu cofnodi.
- Mae'r awdurdod yn cyfarfod â Llywodraeth
Cymru a'r llywodraeth genedlaethol bob mis. Mae CLlLC
yn cyfarfod bob mis ac Arweinydd y Cyngor yw cadeirydd y grŵp hwn.
Mae'r awdurdod hefyd yn cynnal cyfarfodydd mewnol bob pythefnos ac mae'r
holl wybodaeth a dderbynnir trwy ffynonellau gwahanol yn cael ei chynnwys
yn y cyfarfodydd hyn.
- Dyddiad arfaethedig Brexit
yw 31 Hydref 2019, sy'n ddydd Iau. Nid yw'r diwrnod yn bwysig oherwydd
bydd cynlluniau wrth gefn yr awdurdod yn eu lle ac, wrth i'r dyddiad
nesáu, cynhelir cyfarfodydd dyddiol.
- Nid yw'n hysbys beth fyddai effaith oedi Brexit ymhellach ar baratoadau. Mae'n dibynnu pa mor hir fydd yr oedi ac
ar ba adeg o'r flwyddyn. Ni all yr awdurdod barhau i baratoi ar gyfer Brexit yn ddiderfyn oherwydd mae swyddogion yn treulio
cymaint o'u hamser yn ymdrin â'r mater.
- Bydd yr effeithiau'n dod i'r amlwg yn ystod
yr wythnos a'r misoedd cyntaf ar ôl Brexit.
- Mae cynlluniau prifysgolion yn denu nifer
mawr o fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE) a byddai hynny'n cael effaith
fawr ar economi Abertawe. Mae
Prifysgol Abertawe wedi ceisio lliniaru'r peryglon.
- Mae'r UE yn gyfrifol am gyfarwyddebau'r
amgylchedd naturiol a chynefinoedd, sy'n rhan o ddeddfwriaethau'r UE. Bydd
hyn yn dod yn rhan o gyfraith y DU/Cymru ar ôl Brexit,
ond mae pryder y bydd hyn yn effeithio ar yr amgylchedd naturiol o ran
diogelu ac ni ellir anghofio hyn.
|
4. |
Trafodaeth a Chwestiynau
Gofynnir i
Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr
y Cynullydd at Aelod y Cabinet:
a) Beth hoffech
ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?
b) Oes gennych
unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?
c) Oes unrhyw
faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y
Rhaglen Graffu atynt?
d) Oes angen
cyfarfod arall arnom ar ôl BREXIT?
Cofnodion:
Trafododd y
gweithgor gynnydd a daeth at y casgliadau canlynol:
- Roedd y sesiwn friffio'n llawn gwybodaeth a
chawsom ein sicrhau bod yr awdurdod wedi gwneud yr hyn a all ei wneud i
baratoi ar gyfer Brexit.
- Rydym yn pryderu o hyd am yr hyn y gall yr
awdurdod ei wneud os bydd unrhyw argyfwng o ran tanwydd. Gallai hyn gael
effaith enfawr ar gymunedau os yw'n parhau am fisoedd. Rydym yn pryderu'n
fawr ynghylch a fydd y cyhoedd yn gallu defnyddio cludiant er mwyn mynd
i'r gwaith etc., yn ogystal â'r gwasanaethau brys. Rydym yn ymwybodol na
ddylai fod prinder tanwydd ond os bydd prynu gwyllt, gallai hyn achosi
prinder.
- Rydym yn credu y gallai Brexit
roi cyfleoedd i ffermwyr a busnesau lleol a'r porthladd yn Abertawe. Hyd
yn oed pe bai busnesau'n defnyddio'r rhain fel mesur dros dro, efallai y
byddant yn penderfynu ei fod yn opsiwn gwell. Hoffem weld yr awdurdod yn hyrwyddo'r
cyfleoedd hyn.
- Teimlwn fod angen i'r awdurdod fod yn ofalus
iawn ynghylch yr iaith a ddefnyddir mewn fforymau etc. Mae angen sicrhau
bod y negeseuon cywir yn cael eu hanfon ac mae angen rheoli hyn yn ofalus.
- Rydym yn falch ein bod wedi derbyn arian tuag
at baratoi ar gyfer Brexit. Fodd bynnag, mae'n swm bach iawn ac
rydym yn pryderu ynghylch sut bydd yr awdurdod yn cael ei ad-dalu am yr
holl gostau o ran rheoli a monitro hyn.
Mae angen i'r awdurdod ymchwilio i'r holl ffyrdd o gael yr arian
hwn yn ôl.
- Hoffem weld yr awdurdod yn rhoi
cyhoeddusrwydd i'r holl waith da y mae'n ei wneud wrth baratoi ar gyfer Brexit. Mae angen i ni gyfleu ein bod wedi paratoi
cymaint ag y gallwn.
- Byddwn yn argymell bod Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n trefnu cyfarfod dilynol ar gyfer y gweithgor hwn ar ôl Brexit.
Yn dilyn y
cyfarfod hwn:
- Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth
gynullydd y gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn
amlinellu meddyliau ac argymhellion y gweithgor.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 199 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 313 KB
|