Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remotely

Cyswllt: Scrutiny Officer - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd M Sherwood fudd fel un o gyflogeion Gower Power Co-Op C.I.C

40.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

41.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 232 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(yddblaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfodydd Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021, yn gofnod cywir.

42.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

43.

Datganiad Argyfwng Hinsawdd - Cynnydd o ran Cynllun Gweithredu'r Cyngor pdf eicon PDF 32 KB

Cyflwyniad sy’n cynnwys: Cynllun Gweithredu Newid yn yr Hinsawdd – adborth o’r ymgynghoriad

 

Gwahodd i fynychu:

Y Cyng. Andrea Lewis - Aelod y Cabinet - Cartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau

Y Cyng. Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros yr Cefnogi Cymunedau

Martin Nicholls – Cyfarwyddwr - Lleoedd

Rachel Lewis – Gwasanaethau Eiddo

Suzy Richards –Swyddog Polislau Cynaliadwyedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynhaliodd y panel drafodaeth ar gynnydd y cyngor o ran y Datganiad Argyfwng Hinsawdd. Clywodd y panel hefyd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd ynglŷn â'r adborth diweddar ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynllun gweithredu Newid yn yr Hinsawdd. Cyfrannodd y Cynghorydd Andrea Lewis a'r Cynghorydd Louise Gibbard hefyd at drafodaethau ac atebwyd cwestiynau. Nodwyd bod y cyngor wedi derbyn tua 1,000 o ymatebion mewn perthynas â'r ymgynghoriad cyhoeddus a rhoddodd y panel ddiolch i'r holl swyddogion a oedd yn ymwneud â dylunio'r arolwg a'i rhoi ar waith.

 

      Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar:

 

·         Y gwaith parhaus ac wedi'i wreiddio sydd eisoes yn cael ei wneud gan y cyngor, cyn y Datganiad Argyfwng Hinsawdd ym mis Mehefin 2019.

·         Cynnydd a chamau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith tuag at gyflawni 'cyngor di-garbon net' erbyn 2030, sy'n cynnwys pwyntiau fel cerbydlu trydan, ymrwymiadau'r gronfa bensiwn, goleuadau stryd a phaneli solar.

·         Polisïau cysylltiedig sy'n ymwneud â'r Cynllun Corfforaethol, Datblygu Cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

·         Amlinellodd dangosyddion perfformiad drafft ragolygon o ostyngiadau o flwyddyn ar ôl blwyddyn.

·         Gweithio ar y cyd ac ymrwymiadau ar y cyd, gan arwain drwy esiampl a herio eraill i ymuno.

·         Erbyn 2050, nod Abertawe fel Dinas a Sir gyfan yw cyflawni allyriadau di-garbon net.

·         Canlyniadau'r arolwg: Cyfradd ymateb amrywiol ac eithriadol o uchel.

·         Bylchau COVID – trefnwyd rhagor o ymgysylltu wedi'i dargedu'n â phlant, pobl ifanc, busnesau a chyfleoedd wyneb yn wyneb all-lein. Trafododd yr aelodau'r angen parhaus am well ymgysylltiad â phlant a phobl ifanc, a sut y gall y cyngor ymgysylltu'n well â'r grwpiau hyn.

 

Manteisiodd y panel hefyd ar y cyfle i holi am argaeledd pwyntiau gwefru ceir trydan a datblygiadau yn y maes hwn. Esboniodd y Cynghorydd Lewis fod pwyntiau newydd yn cael eu gosod ar draws y ddinas, sy'n ceisio rhoi gwell mynediad i bwyntiau gwefru.

     

Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y ffordd ymlaen. Soniodd y panel am y gwaith trawiadol a llawn gwybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu mewnbwn a'u hymdrechion ynghylch y maes gwaith parhaus a thrawsbynciol hwn.

 

CYTUNWYD y byddai'r Panel yn ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion.

 

44.

Llythyrau pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y panel yr ohebiaeth a anfonwyd gan y panel yn dilyn cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021.

45.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 441 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 335 KB