Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Swyddog Craffu - E-bost: emily-jayne.davies@swansea.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Cadarnhau Cynullydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ailbenodi'r Cynghorydd Peter Jones yn gynullydd y panel ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020/21.

 

32.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

33.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

34.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 239 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

 

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfodydd Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 1 Medi 2020, yn gofnodion cywir. 

 

35.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

Cafwyd rhywfaint o drafodaeth gan Aelodau'r Panel am gyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth o waith y panel gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid, gan gynnwys sefydliadau amgylcheddol lleol, gan y gobeithir y byddai hyn yn arwain at well ymgysylltiad â'r panel.

 

 

 

36.

Cadwraeth Natur - Diweddariadau am y Prosiect pdf eicon PDF 265 KB

Gwahodd i fynychu

Paul Meller - Rheolwr Adran Amgylchedd Naturiol

Deborah Hill – Arweinydd Tîm: Tîm Cadwraeth Natur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynhaliodd y panel drafodaeth ar waith Tîm Cadwraeth Natur y cyngor.

 

Croesawodd y panel yr wybodaeth ddiweddaraf gyda Chofnod Camau Gweithredu Bioamrywiaeth ac Isadeiledd Gwyrdd yn dangos gwaith cyfredol ac arfaethedig. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y camau gweithredu o dan Amcan Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth y Cynllun Corfforaethol a gwaith sy'n deillio o argymhellion Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol. Nodwyd nad oedd y gwaith prosiect tymor hir hwn yn cwmpasu'r holl weithgareddau, a'i fod yn ychwanegol at gyflawni dyletswyddau statudol dyddiol.

Ystyriodd y panel brif weithgareddau'r prosiect, yr amserlenni cyflawni a'r cynnydd, fel y dangosir yn y Cofnod Camau Gweithredu.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol:

 

  • Monitro Amcan y Cynllun Corfforaethol ar gyfer Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth.
  • Paratoi’r Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth Corfforaethol Adran 6 nesaf. Caiff yr Adroddiad Monitro Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 diwethaf ei ailddosbarthu i Aelodau'r Panel. Roedd Aelodau'r Panel yn awyddus i weld y gwaith y mae'r cyngor yn ei wneud i gyflawni'r ddyletswydd yn cael ei hyrwyddo’n fwy.
  • Rôl a gwaith Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd – roedd gan y panel ddiddordeb mewn dysgu mwy am hyn.
  • Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Abertawe Ganolog.
  • Datblygu Polisi Coed y cyngor - roedd gan yr aelodau ddiddordeb mewn cynnydd a thynnwyd sylw at bwysigrwydd ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd i lywio'r polisi, gan gwestiynu pa mor eang fydd yr ymgynghoriad ac am ba hyd. Cafwyd trafodaeth ar fater cymynu coed a nifer y coed aeddfed sy'n cael eu clirio ar draws Abertawe, gan gynnwys cyfathrebu â thrigolion lleol i sicrhau ymwybyddiaeth.
  • Clefyd Coed Ynn – mae swyddogion yn cwblhau rhywfaint o arweiniad ar hyn mewn perthynas â bioamrywiaeth, er mwyn sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hystyried wrth ymdrin â'r mater hwn – i'w ddosbarthu pan gaiff ei gwblhau
  • Canllawiau Cynllunio Atodol Bioamrywiaeth – fe'i mabwysiadwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror a chaiff ei ddosbarthu i'r panel er gwybodaeth. 
  • Bwriad i benodi Swyddog Bioamrywiaeth Dyletswydd Adran 6 newydd ac Ecolegydd Cynllunio newydd.
  • Datblygu/darparu hyfforddiant bioamrywiaeth – i'w weithredu gan swyddog sydd newydd ei benodi.
  • Cefnogaeth i gyfarfodydd y Bartneriaeth Natur Leol (LNP) – cyllid a sicrhawyd drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer swyddi yn y maes bioamrywiaeth ledled Cymru, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gwaith a wneir.
  • Arian grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni rhaglenni.
  • Mentrau coed newydd - dangosydd perfformiad corfforaethol yw hwn, sy'n cyfrannu at dargedau coedwigoedd cenedlaethol. Mae swyddogion wedi llunio nodyn cyfarwyddyd ar blannu coed ('y goeden briodol yn y lle priodol') – copi i'w rannu ag aelodau'r panel.
  • Mentrau plannu dolydd blodau gwyllt a’u rheoli - mae swyddogion wedi nodi coridorau strategol i beillwyr i'w targedu ar gyfer gwaith plannu newydd. Mae grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi prynu peiriannau 'torri a chasglu' i gefnogi rheolaeth ecolegol dolydd blodau gwyllt/ymylon ffyrdd
  • Ymdrechion i leihau torri gwair/chwistrellu mewn parciau ac ar ymylon. Cododd yr aelodau bryderon ynghylch parhau i ddefnyddio glyffosad, a fydd yn bwnc i'w drafod yn y dyfodol. Byddai'r panel yn gwneud gwaith dilynol i weld pa newidiadau sydd wedi'u gwneud i gefnogi bioamrywiaeth.
  • Cefnogi prosiectau bioamrywiaeth cymunedol – mae effaith COVID wedi bod yn rhyfeddol o ran gwerthfawrogiad o ardaloedd gwyrdd a ddarganfuwyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae nifer y ceisiadau am wybodaeth/gymorth wedi cynyddu'n ddramatig eleni.
  • Gwaith archwilio a mapio Bioamrywiaeth ac Isadeiledd Gwyrdd. 
  • Gweithgareddau ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth mewn ysgolion – argymhelliad sy'n deillio o Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol.

 

Manteisiodd y panel ar y cyfle i gydnabod gwaith caled ac ymdrechion y Tîm Cadwraeth Natur, sydd wedi ymdrin ag ystod eang o faterion, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda'r cyfyngiadau symud. Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y gweithgareddau a drafodwyd a chynnydd. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn.

 

CYTUNWYD y byddai'r Panel yn ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion.

 

 

37.

Cynllun Gwaith 2021-22 pdf eicon PDF 437 KB

Panel i gytuno ar bynciau Cynllun Gwaith 2021-22

Cofnodion:

Ystyriodd y panel ffocws cyfarfodydd a blaenoriaethau yn y dyfodol, a chytunodd ar y cynllun gwaith drafft a gyflwynwyd gan y Cynullydd. Ychwanegodd y bydd y cynllun gwaith yn parhau i fod yn hyblyg ac yn destun adolygiad parhaus gan y panel er mwyn sicrhau ffocws ar y pynciau cywir.

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y panel ar 19 Mai, oherwydd y'i symudwyd o fis Ebrill, i drafod cynnydd o ran gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd gan gynnwys adborth yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gan y cyngor.

 

38.

Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Newid yn yr Hinsawdd

Er gwybodaeth yn unig – ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Newid yn yr Hinsawdd (dolen i’r papurau)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynullydd at ymgynghoriad cyhoeddus presennol y cyngor ar Newid yn yr Hinsawdd ac anogodd aelodau'r panel i ymateb i'r arolwg ar yr hinsawdd a ddaeth i ben ar 28 Mawrth.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 151 KB