Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 239 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Rheoli Perygl Llifogydd Lleol - Diweddariad Blynyddol pdf eicon PDF 465 KB

Gwahoddwyd:

Y Cyng. Andrew Stevens – Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd

Stuart Davies – Pennaeth Priffyrdd a Chludiant

Mike Sweeney – Arweinydd Tîm, Priffyrdd a Chludiant

Jonathan Willicombe – Rheolwr Ardal Cynnal a Chadw Priffyrdd

Cofnodion:

Roedd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiladd a swyddogion perthnasol yn bresennol er mwyn rhoi'r diweddaraf i'r Panel ac i ateb cwestiynau. Roedd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad hefyd yn bresennol.

 

Pwyntiau Trafod:

·       Mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cael ei llunio ar hyn o bryd a fydd yn ymgorffori'r Cynllun Gweithredu Perygl Llifogydd.  Bydd hyn yn rhoi baich ariannol ychwanegol ar yr Awdurdod ac yn cynyddu llwyth gwaith. 

·       Mae'r gwaith i adeiladu waliau amddiffyn rhag llifogydd yn y Mwmbwls wedi hen ddechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn dechrau 2025.  Mae'r Panel yn falch o glywed hyn a chanmolwyd pawb a gymerodd ran am eu gwaith da iawn.

·       Holodd y Panel a yw'r Awdurdod yn bwriadu cael pethau fel tanciau crynhoi dŵr yng Nghwm Tawe i atal llifogydd.  Cadarnhawyd bod nodweddion gwanhau a chynlluniau storio yn cael eu defnyddio mewn llawer o gynlluniau i liniaru llifogydd a bydd yr holl ddatblygiadau newydd yn cynnwys nodweddion gwanhau. 

·       Mae'r Panel yn teimlo y gallai'r ffordd y mae pyllau gwanhau yn cael eu hadeiladu ar safleoedd datblygu mawr fod yn beryglus i blant, ac mae angen rhyw fath o ganllawiau cynllunio atodol. Rhoddwyd gwybod bod deddfwriaeth a safonau y mae'r Awdurdod yn eu defnyddio i gymeradwyo cynlluniau o'r fath o ran adeiladu. 

·       Holodd y panel Pryd fyddai'r TAN 15 newydd yn cael ei gymeradwyo ac esboniwyd bod Llywodraeth Cymru wrthi'n casglu rhagor o dystiolaeth ac yn gweithio ar y manylion, ond mae disgwyl iddo gael ei gymeradwyo'n fuan.

·       Mae'r Panel yn credu y dylid annog pobl i ddefnyddio casgenni dŵr y tu allan i'w cartrefi i ddal dŵr glaw ac ychwanegu tanciau dŵr at dai fel y gellir eu defnyddio i fflysio toiledau.  Rhoddwyd gwybod bod proses eisoes ar waith drwy gynllunio a'r Cynllun Datblygu Lleol i annog y defnydd o gasgenni dŵr etc.

·       Holodd y Panel a oes rhestr flaenoriaeth ar gyfer cyllideb draenio cynnal a chadw cyfalaf ac a roddir ystyriaeth i lwybrau sy'n gorlifo yn ogystal ag isadeiledd a ffyrdd. Esboniwyd bod llawer o'r gwaith yn adweithiol ac mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r ardaloedd lle mae llifogydd ar y ffyrdd yn bryder difrifol ac yn risg difrifol i ddefnyddwyr y priffyrdd neu i eiddo.

·       Nododd y Panel fod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer Blackpill ond mynegodd bryder am broblemau ar waelod Mill Lane lle mae rhywbeth yn digwydd o dan y ffordd, pibell wedi byrstio neu lyncdwll o bosib. Gofynnodd swyddogion i gwrdd ag Aelod perthnasol y Panel ar y safle i drafod.  

·       Gofynnodd y Panel beth sy'n cael ei wneud ynghylch llygredd sy'n mynd yn uniongyrchol i mewn i'r afon Tawe. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgysylltu'n gyson â Dŵr Cymru gyda'r nod o leihau rhai o'r mewnbynnau a'r gorlifiadau i'r afon Tawe.  Ym Mae Abertawe, mae ansawdd y dŵr wedi gwella ac mae'n dda ar hyn o bryd.

·       Holodd y Panel a oes ffordd o gael gwybod gan y Swyddfa Dywydd os yw cyfanswm y glaw yn codi ac esboniwyd bod data da ar wefan y Swyddfa Dywydd.  Bydd y ddolen yn cael ei rhannu gyda'r Panel.

·       Trafododd y Panel lifogydd ar Mumbles Road pryd bynnag y ceir glaw trwm, a gofynnodd a oes unrhyw beth yn cael ei wneud.  Esboniwyd bod llawer o lifogydd y tu allan i fynedfa'r brifysgol oherwydd rhwystr yn yr all-lif, sydd wedi'i gywiro.  Ar hyn o bryd mae tîm cynnal a chadw ar y safle yn glanhau gylïau o Brynmill Lane i Lido Blackpill a bydd yr Adran yn edrych ar yr all-lif ger Ashley Road i sicrhau nad ydynt wedi'u rhwystro eto. 

·       Mae'r Panel yn teimlo'n gryf bod angen i staff a chynghorwyr perthnasol wneud hyfforddiant System Ddraenio Gynaliadwy. Mae swyddogion yn hapus i drefnu cwrs hyfforddi arall i'r Aelodau os oes ganddynt ddiddordeb.  Dywedodd Aelod y Cabinet fod pob swyddog cynllunio wedi derbyn hyfforddiant System Ddraenio Gynaliadwy ac wedi cytuno ar yr angen am ragor o hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio o ran defnyddio System Ddraenio Gynaliadwy a'i fod yn fwy na pharod i hwyluso hyn. 

·       Gofynnodd y Panel i weld y rhestr goch ar gynnal gridiau, cyrsiau dŵr, mannau problemus o ran gylïau etc ac esboniwyd nad oes gan yr Adran unrhyw broblemau gyda'i rhannu.

·       Holodd y Panel a oes mwy o waith glanhau yn cael ei wneud yn yr hydref oherwydd dail yn cwympo neu a oes llawer o waith drwy gydol y flwyddyn.  Esboniwyd ei fod yn barhaus ond mae'n cynyddu yn ystod misoedd yr hydref oherwydd mae angen clirio dail sydd wedi cwympo.

·       Trafododd y Panel lifogydd arfordirol, yn enwedig y rhodfa ar Bont Trafalgar a gafodd ei chau oherwydd llifogydd y gaeaf diwethaf.  Gofynnodd y Panel a oes modd gwneud unrhyw beth i liniaru hyn.  Esboniwyd bod gwaith astudio ac ymchwilio'n cael ei wneud i nodi'r hyn sy'n digwydd yn yr ardal honno, ac efallai bydd datrysiad lleol a fydd yn cael ei roi ar waith. Hefyd, mae asesiad canlyniadau llifogydd strategol ar gyfer yr ardal honno yn Abertawe newydd gael ei gomisiynu.

·       Gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch beth yw'r cynnig o dan y Diweddaraf am Weithrediad (paragraff 4) ac esboniwyd ei fod yn gynllun lle mae aelodau'r ward yn talu i dîm gylïau fod ar y safle ar benwythnosau lle mae angen sylw ar y gylïau.

·       Gofynnodd y Panel a oes deddfwriaeth ar waith sy'n esbonio wrth bobl sy'n cloddio dreifiau ac yn gosod arwynebau caled artiffisial bod angen i'r rhain fod yn athraidd. Cytunodd Aelod y Cabinet i ddarparu ymateb ysgrifenedig llawn.

 

Camau Gweithredu:

·       Rhannu dolen i wefan y Swyddfa Dywydd gyda'r Panel

·       Trefnu hyfforddiant ar System Ddraenio Gynaliadwy ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio

·       Rhannu rhestr goch ar y rhaglen cynnal a chadw gyda'r Panel

·        Darparu gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag arwynebau athraidd.

6.

Rheoli Ansawdd Aer pdf eicon PDF 944 KB

Gwahoddwyd:

Y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Carol Morgan, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd

 

Cofnodion:

Roedd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaeth Corfforaethol a Pherfformiad a Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd, yn bresennol i roi gwybodaeth i'r Panel ynghylch y mater hwn.

 

Pwyntiau Trafod:

·       Holodd y panel a yw'r duedd ar gyfer llygredd o gerbydau modur yn lleihau ac esboniwyd bod dau brif lygrydd wedi'u cysylltu â cherbydau modur.  Bu tuedd ar i lawr yn y tymor hir o ran Nitrogen Deuocsid (NO2) mewn crynodiad. Ar gyfer defnydd gronynnol, er ei fod yn gweld ychydig o duedd ar i lawr, mae'n rhy gynnar i ddatgan beth sy'n ysgogi hyn. 

·       Dywedodd y Panel fod bysus yn gadael eu peiriannau yn rhedeg y tu allan i Ysgol yr Esgob Gore, a gofynnodd beth ellir ei wneud am hyn. Cynigiodd Aelod y Cabinet i fynd â hyn yn ôl drwy'r gadwyn gaffael i sicrhau nad yw hyn yn digwydd mwyach. 

·       Gofynnodd y Panel a ddylid ystyried agosrwydd eiddo preswyl at ffyrdd prysur cyn rhoi caniatâd cynllunio.  Esboniwyd ei fod yn cael ei ystyried fesul achos ac mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno asesiad ansawdd aer ar gyfer yr amgylchedd penodol. 

·       Holodd y Panel a yw ymchwil yn dangos a yw strydoedd sydd â choed ar ei hyd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i ansawdd aer ac a oes gwahaniaeth sylweddol yn ansawdd aer rhwng cylchfannau a goleuadau traffig. Esboniwyd yn Abertawe, bydd yn cymryd amser i fonitro a dadansoddi data i weld a yw'r isadeiledd gwyrdd yn cael unrhyw effaith. Bydd ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu ynghylch a yw cylchfannau neu oleuadau traffig orau o ran ansawdd aer.

 

Camau Gweithredu:

·       Ailgyflwyno sylwadau ar beiriannau segur y tu allan i ysgolion drwy'r gadwyn gaffael.

·       Darparu gwybodaeth ynghylch a yw cylchfannau neu oleuadau traffig orau o ran ansawdd aer i'r Panel.

 

7.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.