Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 235 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Darpariaeth Gwefru Cerbydau Trydan Cyhoeddus pdf eicon PDF 2 MB

Gwahoddwyd: 

Y Cyng. Andrea Lewis – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau 

Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant 

Matthew Bowyer, Arweinydd Grŵp Priffyrdd a Chludiant 

Ioan Brannigan, Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth Priffyrdd a Chludiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a swyddogion perthnasol yn bresennol i friffio'r Panel, ac atebwyd cwestiynau ganddynt.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Gofynnodd y panel a yw'r Cyngor wedi ymchwilio i osod mannau gwefru araf ar gyfer cerbydau trydan (CT) ar bolion lampau ac a oes unrhyw gynlluniau i dreialu hyn yn unrhyw le.  Clywyd nad yw'r Cyngor yn gallu gwneud hyn ar hyn o bryd am nifer o resymau. 
  • Gofynnodd y panel beth sy'n cael ei wneud o ran ymgysylltu â'r sector preifat i'w helpu fel y gall osod ei isadeiledd ei hun, er enghraifft gorsafoedd petrol ac archfarchnadoedd lleol gyda meysydd parcio.  Dywedodd Aelod y Cabinet ei bod yn hapus i ymrwymo i ysgrifennu at archfarchnadoedd lleol ond nid oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac mae gorsafoedd petrol hefyd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.   
  • Holodd y panel a yw'r Cyngor wedi ymchwilio i ddefnyddio adeiladau cymunedol ar gyfer gosod mannau gwefru CT, er enghraifft eglwysi a chanolfannau cymunedol.  Clywyd yr ymchwiliwyd i hyn ond nid ydynt yn gweld clystyrau o alw a fyddai'n cyfiawnhau gosod y rhain, pan gaiff ardaloedd eu nodi lle mae galw am isadeiledd, byddant yn ceisio'i roi yn ei le. 
  • Gofynnodd y panel a fyddai'n werth rhoi gwybod i sefydliadau cymunedol y gallent gael grant i osod mannau gwefru CT, ac yn y tymor hir gallent ennill incwm ohonynt.  Clywyd bod angen elfen sylweddol o gyllid grant ar gyfer y grantiau sydd ar gael, hyd at 50%, y byddai'n rhaid i'r sefydliad cymunedol ddod o hyd iddo.
  • Gofynnodd y panel pam na ellir rhoi gosodiadau gwefru CT ar dir preifat gyda chaniatâd y perchennog.  Fe'u hysbyswyd ei bod yn llawer haws o ran cynllunio, atebolrwydd a thrwyddedu os defnyddir tir y Cyngor y mae ganddo reolaeth lawn drosto.  Clywodd y panel hefyd mai ychydig iawn o lwyddiant y mae'r Cyngor wedi'i gael gyda chyllid grant felly mae wedi gorfod canolbwyntio ar ardaloedd sy'n eiddo i'r Cyngor gan y bydd anawsterau os dechreuir 'prydlesu lleoedd' mewn maes parcio preifat.
  • Dywedodd y panel, o ran meysydd parcio cyrchfannau ar hyd coridor Gower Road sy'n mynd tua'r gorllewin, mai'r maes parcio agosaf yw Porth Einon, felly mae bwlch enfawr yn y ddarpariaeth, oni bai fod pobl yn stopio yng nghanol y ddinas.  Pe bai mannau gwefru CT ar ochr arall y ffordd i ganolfan siopa The Precinct ni fyddai'r bwlch hwnnw i bobl sy'n mynd i'r gorllewin tuag at Fro Gŵyr. Fe'u hysbyswyd hefyd fod y sector preifat yn gosod mannau gwefru yn y maes parcio yn Kittle yn ogystal â Phorth Einon.
  • Gofynnodd y panel a yw'n werth i'r Cyngor gysylltu â sefydliadau cymunedol, eglwysi etc. sy'n addas ar gyfer gosodiadau CT i weld a oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gosod y rhain, gan y gall fod rhai sefydliadau a fydd yn cael yr arian cyfatebol ar gyfer grantiau. Cytunodd Aelod y Cabinet i ystyried hyn.
  • Mae'r panel yn teimlo bod angen cymysgedd o osodiadau gwefru araf a chyflym.  Cytunodd Aelod y Cabinet, os oes meysydd parcio lle gall pobl wefru eu ceir dros nos, y gallai gwefru araf fod yn opsiwn a a chytunodd i edrych yn fanwl ar hyn i nodi'r angen am y math hwn o barcio dros nos.
  • Holodd y panel a oes gwybodaeth ar gael ar y defnydd o bob un o'r gosodiadau gwefru CT ar gyfer yr holl feysydd parcio yn yr ardal. Dywedwyd wrthynt fod y defnydd ohonynt, cyfanswm y traul etc. yn cael ei fonitro ar gyfer yr holl fannau gwefru ym meysydd parcio'r Cyngor.
  • Mae gan y Panel ddiddordeb mewn clywed a oes gan y Cyngor gynllun ar gyfer cynhyrchu a storio trydan ar safleoedd presennol neu yn y dyfodol i leihau carbon, er enghraifft ei gymryd o'r grid a storio yn ystod oriau tawel neu gynhyrchu pŵer drwy baneli solar neu wynt ar safle a'i storio yno. O ran cynhyrchu ar y safle, clywyd bod y Cyngor wrthi'n gosod ei ganolfan gwefru cyflym gyntaf ym maes parcio Stryd Rhydychen.  Bydd hyn yn cynnwys canopi solar a storfa fatris.  Mae paneli solar yn darparu swyddogaeth ddefnyddiol wrth gydbwyso'r llwyth ar y grid.
  • Trafododd y panel y ffaith bod mannau gwefru CT yn y maes parcio tanddaearol yn Neuadd y Ddinas ond mae angen edrych ar osod mannau ym maes parcio'r Rotwnda i'w wneud yn fwy hygyrch ac i ystyried y byddai aelodau o'r cyhoedd, nid dim ond staff y Cyngor, yn ei ddefnyddio gyda'r nos. Dywedodd Aelod y Cabinet fod y Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy yn edrych ar hyn o ran isadeiledd gwefru CT hygyrch i gwsmeriaid a staff ar safleoedd y Cyngor ond nad ydynt yn siŵr o'r amserlen.
  • Mae'r Panel yn hoffi'r syniad y gall pobl sy'n mynd i mewn i'r gwaith wefru eu ceir tra byddant yn y gwaith a holwyd a yw'r syniad hwn yn cael ei ddatblygu. Fe’u hysbyswyd fod yr isadeiledd gwefru presennol yn benodol ar gyfer cerbydlu'r Cyngor.    Fodd bynnag, mae'r tîm yn edrych ar becyn meddalwedd a fydd yn caniatáu i aelod o staff â cherdyn ddefnyddio'r isadeiledd gwefru CT pan fydd ar gael a thalu am y trydan y mae'n ei ddefnyddio drwy'r cerdyn.  Byddai hyn ar safleoedd lle mae gan y Cyngor isadeiledd gwefru.
  • Mynegodd y Panel bryder am bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle na allant wefru y tu allan i'w heiddo. Clywyd mai dyma pam y mae'r Cyngor wedi penderfynu canolbwyntio ar fwy o ganolfannau ac ardaloedd siopa trefol yn ogystal â helpu i bontio'r bwlch i'r bobl hyn. Fe'u hysbyswyd ran stadau'r Cyngor lle gallai fod blociau tŵr neu fannau cymunedol ar gyfer parcio, fod hyn yn rhan o Strategaeth y Cyfrif Refeniw Tai, a lle bo hynny'n bosib, gallai'r Cyngor geisio gosod isadeiledd gwefru CT yn yr ardaloedd cymunedol hynny.
  • Holodd y panel a yw ffynonellau ynni eraill yn cael eu hystyried i redeg cerbydau yn y dyfodol.  Clywyd y bydd yr Awdurdod yn edrych yn fanwl i weld pa dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac addasu'n unol â hynny. 
  • Holodd y panel a allai fod cyfle yn y dyfodol i ailgylchu batris ceir yn ardal Abertawe. Clywyd y bydd y tîm yn gwylio'n ofalus yr hyn y mae eraill yn ei wneud, a bydd yn edrych ar arfer da.  Mae Aelod y Cabinet yn ymwybodol bod batris ceir yn cael eu hailddefnyddio, er enghraifft fel batri cartref ac mae'n rhywbeth y gallai'r Cyngor weithio arno gyda phrifysgolion. 

 

Camau Gweithredu:

  • Aelod y Cabinet i ysgrifennu at archfarchnadoedd lleol i'w hannog i osod mannau gwefru cerbydau trydan.
  • Aelod y Cabinet i ystyried cysylltu â sefydliadau cymunedol addas ynglŷn â gosod mannau gwefru cerbydau trydan.
  • Yr adran i ymchwilio i'r angen am ddarpariaeth parcio dros nos ar gyfer gwefru araf

 

6.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Ionawr 2024) pdf eicon PDF 128 KB