Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Brij Madahar, Swyddog Craffu – Ffôn (01792) 637257
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni datganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfodydd Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2019, yn gofnodion cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cofnodion: Cynhaliodd y Panel drafodaeth ar effeithiau amgylcheddol y pandemig ac unrhyw faterion a gwersi amgylcheddol sydd wedi codi yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Clywodd y Panel gan aelodau arweiniol y Cabinet a nifer o swyddogion perthnasol am y profiad dros y chwe mis diwethaf. Roedd sgil-effeithiau niferus y pandemig yn cynnwys rhai agweddau cadarnhaol megis llai o lygredd aer o lai o deithio a gweithgarwch, mwy o ddefnydd o lwybrau beicio a manteision cyffredinol i fioamrywiaeth a mwynhad o fannau awyr agored lleol. Trafododd y Panel hefyd faterion a oedd yn ymwneud â rheoli chwyn a sut, yn absenoldeb torri ymylon glaswellt a pharciau, y cofnodwyd cynnydd yn y bywyd gwyllt a welwyd gan y cyhoedd yn ystod y cyfyngiadau symud. Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y drafodaeth: · Pwysigrwydd mannau gwyrdd lleol · Gweithgarwch chwistrellu chwyn cyffredinol, adnoddau a dewisiadau amgen posibl i'r defnydd o glyffosate · Torri ymylon glaswellt a rhai ardaloedd dolydd mewn parciau yn llai aml, er mwyn gwella'r amgylchedd naturiol, cynefinoedd a bioamrywiaeth. · Ymgysylltu â'r cyhoedd ar reoli chwyn ac ymylon glaswellt a'r posibilrwydd o gynnwys y Cyngor Cymuned · Rhaglen plannu blodau gwyllt y cyngor · Mwy o ddefnydd o lwybrau beicio · Taflu sbwriel ac addysg sy'n ymwneud â'r mater hwn Manteisiodd y Panel hefyd ar y cyfle i holi am y trên a ddaeth oddi ar y cledrau'n ddiweddar yn Llangennech a faint o danwydd diesel a ollyngwyd i Foryd Llwchwr a'r effaith amgylcheddol/ecolegol. Nododd y Panel ei bod yn rhy gynnar i ddweud gan fod asesiadau'n dal i gael eu cynnal gan asiantaethau arweiniol perthnasol.
Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y ffordd ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn CYTUNWYD y byddai'r Panel yn ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion. |
|
Gwaith dilynol - Rhoi Argymhellion Ymholiad Craffu ar yr Amgylchedd Naturiol ar waith PDF 504 KB a) Adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau. b) Panel i ystyried cynnydd ar ôl gweithredu argymhellion/cynllun gweithredu ac effaith yr ymchwiliad ar y cyfan. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth y Panel ar drywydd y gwaith i roi argymhellion yr Ymchwiliad Craffu ar yr Amgylchedd Naturiol ar waith. Darparodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad i helpu'r Panel i asesu effaith yr adroddiad ymchwiliad craffu a dangos cynnydd yn erbyn pob un o'r argymhellion y cytunwyd arnynt, ers penderfyniad y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019. Clywodd y Panel hefyd gan y swyddogion arweiniol, Paul Meller, Rheolwr Cynllunio Strategol a'r Amgylchedd Naturiol, a Deb Hill, Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur. Roedd y Panel yn falch o nodi o adroddiad Aelod y Cabinet gyfraniadau penodol at newid o ganlyniad uniongyrchol i'r ymchwiliad, a'r effaith a gafwyd. Er enghraifft, mae llawer mwy o bwyslais ar yr amgylchedd naturiol, yr adnoddau a bioamrywiaeth ac mae'r adroddiad craffu wedi bod yn ysgogiad ar gyfer newid. Nodwyd bod y rhan fwyaf o'r argymhellion wedi'u rhoi ar waith yn llawn ac y byddant yn parhau’n ymrwymiad hirdymor. Roedd rhai camau gweithredu heb eu cyflawni, ac yn amodol ar benodi swyddogion prosiect penodol a ariannwyd gan grantiau. Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y drafodaeth: · Cynnydd o ran recriwtio Swyddog Bioamrywiaeth Adran 6 a swyddogion prosiect · Penodi Ecolegydd Cynllunio dros dro rhan-amser · Yr angen am fwy o gydweithio rhwng y cyngor a Chynghorau Cymuned · Ymwybyddiaeth o waith y Gweithgor Bioamrywiaeth Corfforaethol · Ein gwaith gydag ysgolion a hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth Cytunwyd ar y canlynol: 1. gwnaed cynnydd da o ran rhoi'r argymhellion ar waith ac o ran cwblhau gwaith i fonitro adroddiad yr ymchwiliad yn ffurfiol; a 2. bydd y Panel yn sylwi ar unrhyw faterion penodol sy'n peri pryder drwy ei weithgareddau monitro parhaus. |
|
Rheoli Risg Llifogydd Lleol - Diweddariad Blynyddol PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cynhaliodd y Panel drafodaeth ar reoli perygl llifogydd lleol, a a fydd bellach yn destun monitro rheolaidd drwy'r Panel Craffu hwn. Adroddodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, ynghyd â swyddogion arweiniol, i'r Panel am y profiad dros y flwyddyn ddiwethaf, gan roi enghreifftiau o achosion sylweddol o lifogydd, cynnydd o ran rheoli perygl llifogydd, a heriau. Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y drafodaeth: · Effaith newid yn yr hinsawdd - nifer yr achosion o lifogydd a'r cynnydd mewn amlder a difrifoldeb · Ymchwiliadau i lifogydd · Cyfrifoldebau'r cyngor mewn perthynas â llifogydd ar dir nad yw'n eiddo i'r cyngor · Glanhau gylïau/draeniau ac amlder gwneud hyn– nodwyd bod peiriant gylïau ychwanegol wedi’i brynu · Synergedd rhwng priffyrdd a gweithrediadau glanhau · A oedd y cyngor yn gwario mwy ar ymatebion brys adweithiol yn hytrach na gwaith chynnal a chadw ataliol · Cyfathrebu/gwybodaeth gyhoeddus am berygl llifogydd a llifogydd · Adnoddau Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y ffordd ymlaen. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn PENDERFYNWYD y byddai'r panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd gyda'i farn a'i argymhellion ar y mater o reoli perygl llifogydd lleol. |
|
a)
Cyfarfod y Panel ar 22 Hydref 2019: Llythyr at/gan Aelod
y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd a Chludiant (parthed niwsans gwylanod). b)
Cyfarfod
y Panel ar 16 Rhagfyr 2019: Llythyr at/gan Aelod y Cabinet dros Reoli'r
Amgylchedd a Chludiant (parthed rheoli chwyn a llygredd aer). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y panel yr ohebiaeth a anfonwyd gan y panel a'r ymateb a dderbyniwyd yn dilyn cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2019: · Llythyr at/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd a Chludiant. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Rheoli Risg Llifogydd Lleol PDF 241 KB |