Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Brij Madahar, Scrutiny Officer - Tel (01792) 637257 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P K Jones - rhagfarnol - Cofnod Rhif 5 - Aelod o'r RSPB. Gadawodd y cyfarfod fel aelod o'r panel, ond ar ôl cael caniatâd y panel, arhosodd yn y cyfarfod i wneud sylwadau i'r panel am niwsans gwylanod.

 

10.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

CYTUNWYD y dylid ethol y Cadeirydd M H Jones yn Gadeirydd Dros Dro

 

Bu'r Cynghorydd M H Jones (Cadeirydd Dros Dro) yn llywyddu.

 

11.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd unrhyw bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

12.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r

cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

13.

Trafodaeth am Bryderon Cyhoeddus - Niwsans Gwylanod pdf eicon PDF 238 KB

a)         Pryderon Cyhoeddus.

b)         Adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd.

c)         Gwybodaeth gan y Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyfeiriad gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu, trafododd y panel gais cyhoeddus i graffu ar bryderon ynghylch niwsans gwylanod yn Abertawe.   

Roedd y pryderon a ddygwyd i sylw'r pwyllgor craffu yn canolbwyntio ar y niwsans gwylanod a oedd yn effeithio ar breswylwyr Mayals ac ymddygiad pobl a oedd yn eu bwydo. Soniwyd hefyd am yr effaith andwyol ar les, iechyd a diogelwch preswylwyr yn eu cymunedau.

 

Ystyriodd y panel y safbwyntiau canlynol ar y mater a drafodwyd:

 

·       Pryderon cyhoeddus a amlinellwyd gan Mr a Mrs Slater (Grŵp Ffrindiau a Phreswylwyr Mayals).

·       Adroddiad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y Cynghorydd Mark Thomas, a oedd yn gyfrifol am safbwynt y cyngor ar y mater hwn, a chyfraniadau Mark Thomas, Pennaeth Tai ac Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, a Tom Price, Arweinydd Tîm - Rheoli Llygredd a Thai'r Sector Preifat.

·       Gwybodaeth gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a sylwadau ategol gan Mr John Roach a'r Cynghorydd Peter Jones

 

Trafododd y panel y materion a godwyd a'r atebion posib, ac ystyriodd y cam(au) gweithredu a allai fod yn angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem yn Abertawe. Roedd hyn yn cynnwys camau gweithredu i atal pobl rhag eu bwydo'n gyhoeddus a gwella'r ffordd rydym yn storio ac yn gwaredu gwastraff bwyd.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i nodi ei gasgliadau a'i argymhellion ar y mater o niwsans gwylanod.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 482 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 602 KB