Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 207 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Ansawdd Dwr, Rheoli D?r a Rheoli Llygredd pdf eicon PDF 139 KB

David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol

Carol Morgan, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd

Hamish Osborn / Sarah Bennett, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet perthnasol, Arweinydd y Tîm Rheoli Llygredd a chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru'n bresennol i friffio'r panel ar y mater hwn ac i ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Clywodd y panel fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwarae rôl allweddol yn y mater, ond mae'r cyngor yn gweithio'n agos â nhw.
  • Clywodd y Panel llawer am dymereddau dŵr cynyddol dros yr haf a gofynnodd a yw hyn yn golygu ei fod yn fwy tebygol y bydd problemau gyda bacteria yn nŵr y môr. Clywyd ei fod yn broblem o bosib ac y byddai angen gwneud rhai ymchwiliadau yn y dyfodol, ac mae'n debygol y gwneir y rhain gan y gymuned wyddonol.
  • Gofynnodd y panel pa gyfathrebu sydd wedi bod rhwng Dŵr Cymru, y cyngor a CNC ynghylch gollyngiadau carthffosiaeth a sut mae Abertawe'n perfformio o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU. Clywyd bod llawer o gyfathrebu wedi digwydd. Mae CNC yn gweithio gyda Dŵr Cymru o ran nifer a hyd y gollyngiadau o orlifoedd carthffosiaeth, â'r nod o'u lleihau. Nid oes gan yr ardal hon broblemau o'r un lefel ag ardaloedd eraill yn y DU.
  • Trafododd y panel sut bydd datblygiadau tai maestrefol yn difrodi cynefinoedd bywyd gwyllt a gallant hefyd greu llygredd a gofynnwyd pa fesurau y dylai'r cyngor eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw datrysiadau draenio dŵr wyneb yn llygru amwynderau lleol sydd eisoes yn bodoli, megis pyllau a chyrsiau dŵr. Clywyd ei fod yn bwysig o safbwynt CNC i gael strategaeth gynaliadwy er mwyn ymdrin â dŵr wyneb ar unrhyw safle a dyna'r rheswm pam mae deddfwriaeth SUDS yn bodoli. Mae'r CNC yn bryderus yn benodol am y cam adeiladu a hoffai gweld gwelliant o fewn y diwylliant.
  • Dywedodd y panel fod llawer wedi bod yn y wasg am ollyngiadau dŵr a faint o amser y mae'n ei gymryd i'w datrys a gofynnwyd beth yw hyd yr amser ymateb os bydd gollyngiad mawr o bibellau dŵr glân. Rhoddwyd gwybod nad oes gan CNC reolaeth uniongyrchol dros hyn. Mae cwmnïau dŵr yn gyfrifol am reoli gollyngiadau.

 

6.

Gorfodi cynllunio: Natur a Bioamrywiaeth pdf eicon PDF 152 KB

Trafodaeth ar sut i annog pobl i edrych ar fioamrywiaeth mewn ceisiadau cynllunio, er enghraifft, rhestr wirio/pecyn cymorth ar fioamrywiaeth.

 

David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol

Ian Davies, Rheolwr Datblygu Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

 

 

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol a'r Rheolwr Datblygu yn bresennol i friffio'r panel ar sut mae'r system Gynllunio'n ceisio cynnwys natur a bioamrywiaeth yn y broses benderfynu.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Rhoddwyd gwybod i'r panel ei fod yn ofyniad yng Nghymru'r Dyfodol, y fframwaith datblygu cenedlaethol, y cymerir camau gweithredu i sicrhau gwaith cynnal a chadw a gwella bioamrywiaeth i ddarparu mantais net, er mwyn sicrhau gwydnwch ecosystemau ac asedau isadeiledd gwyrdd. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cefnogi hyn ac yn darparu fframwaith cynllunio eglur.
  • Yn ogystal, er mwyn darparu eglurder, mae'r cyngor wedi darparu Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) 'Bioamrywiaeth a Datblygiad'. Mae'r rhain ar gael ar wefan y cyngor ac anfonwyd llythyron i ddatblygwyr i'w hysbysu ynghylch y CCA.
  • Nododd y panel ei fod yn wasanaeth ymatebol gan nad oes gofyniad deddfwriaethol i ddatblygwyr hysbysu'r Adran Gynllunio pan fyddant yn dechrau datblygiad, ac nid oes gan y cyngor ddigon o adnoddau i fonitro pob datblygiad yn rhagweithiol. Pwysleisiodd Aelod y Cabinet fod gan y cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth adrodd am broblemau, felly mae cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol wrth symud ymlaen.
  • Teimlai'r panel y byddai'n ddefnyddiol i gyhoeddi manylion cyswllt er mwyn adrodd am broblemau ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y cyngor. Ymrwymodd Aelod y Cabinet i gyfathrebu â'r tîm Cyfathrebu i weld beth gallant ei wneud er mwyn cyfleu'r neges hon yn rhagweithiol.

 

Camau Gweithredu:

  • Aelod y Cabinet i gyfathrebu â'r Tîm Cyfathrebu ynghylch cyhoeddi'r neges hon i'r cyhoedd ac adrodd yn ôl i'r panel.

 

7.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y cynllun gwaith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 3 Hydref 2023) pdf eicon PDF 120 KB