Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cynullydd

Cofnodion:

Penodwyd y Cyng. Sara Keeton yn Gynullydd y Panel.

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

4.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 240 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mai 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ymatebodd y Cadeirydd i gwestiwn a ofynnwyd am gynllun gwaith y Panel ar gyfer 2023/24, a p'un a fyddai trafodaeth panel am y datblygiad Skyline arfaethedig ar Fynydd Cilfái mewn perthynas ag effaith amgylcheddol, a chynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd y cyngor, gan ystyried bod y cyngor yn rhoi ystyriaeth i'r cais cynllunio cyn bo hir. Nododd na fyddai'n addas i'r pwyllgor craffu drafod ceisiadau cynllunio penodol a/neu faterion sy'n amodol ar broses gynllunio, fodd bynnag ceisir cyngor cyfreithiol am y drafodaeth bosib ynghylch pryderon amgylcheddol mewn perthynas â'r datblygiad.

6.

Cynllun Waith Drafft 2023-24 pdf eicon PDF 284 KB

Cofnodion:

Trafododd a chytunodd y Panel ar ei gynllun gwaith ar gyfer 2023-24.