Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 157 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. 

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiynau canlynol gan aelodau'r cyhoedd ac ymatebodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd:

 

CWESTIWN 1:

 

Yn ddiweddar, mae Rhwydwaith Gweithredu ar yr Hinsawdd Abertawe wedi sefydlu Gweithgor Dewisiadau Amgen i Glyffosad. Mae gennym nifer o aelodau a chanddynt flynyddoedd lawer o brofiad ymchwilio ac ymgyrchu yn y maes hwn. O ystyried tystiolaeth effeithiau niweidiol Glyffosad nid ydym yn credu ei fod yn opsiwn i'r cyngor barhau i'w ddefnyddio. O ystyried ein bod mewn Argyfwng Hinsawdd a Natur teimlwn fod angen pob cefnogaeth bosib ar y cyngor i ddod o hyd i ddewisiadau amgen dilys. Rydym yn ystyried dewisiadau amgen fel Foamstream (er bod rhai aelodau wedi mynegi pryderon am y tanwyddau ffosil a ddefnyddir i wresogi'r ewyn), rheoli ymylon yn briodol etc. Hoffem wybod sut y gall ein gweithgor fwydo i mewn i drafodaethau perthnasol y cyngor mewn ffordd ystyrlon yn y dyfodol.

 

YMATEB:

 

Aelod y Cabinet: "O ran y ffaith bod glyffosad o bosib yn niweidiol - mae wedi bod yn destun cannoedd o dreialon clinigol a daeth pob un i'r casgliad ei fod yn ddiogel pan gaiff ei ddefnyddio dan argymhelliad y label. Cyhoeddodd Pwyllgor dros Weithredu ar Asesu Risgiau’r Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd ganlyniadau'r adolygiad diweddaraf ar 30 Mai 2022 nad oedd yn argymell unrhyw newid yn nosbarthiad glyffosad. Yn y gorffennol, rydym wedi treialu dulliau amgen a chanfod nad ydynt yn ddichonadwy ar y raddfa sydd ei angen ar chwyn sy’n tyfu ar strydoedd. 

O ran mewnbynnu i'r drafodaeth rydym yn croesawu safbwyntiau a gyflwynir gan bartïon â diddordeb ac rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn y drafodaeth." 

 

Aelod o'r cyhoedd: "Oes ffordd fwy cynhyrchiol y gallwn ni gymryd rhan mewn trafodaeth barhaus?"

 

Aelod y Cabinet: "Anfonwch e-bost ataf sy’n cofnodi‘ch meddyliau a gallaf eu trafod â'r Swyddogion priodol i ddod o hyd i ffordd ymlaen."  

 

 

CWESTIWN 2:

 

Pam mae'r cyngor yn dal i ddefnyddio Glyffosad yn lle Foamstream

 

(1) Mae adroddiad sydd gennym yn nodi bod Foamstream 31% yn rhatach na glyffosad ac yn fwy effeithlon. Gweler Atodiad 1

 (2) Mae cynghorau yn Lloegr a gweddill y byd yn newid o glyffosad i Foamstream (neu ddewisiadau amgen eco-gyfeillgar eraill), yn rhannol er mwyn osgoi achosion llys costus er mwyn eu hamddiffyn rhag pobl sy'n dweud bod ganddynt ganser am eu bod wedi defnyddio’r fath chwynladdwyr. Gweler Atodiad 2

(3) Nid yw Foamstream yn hytrach na glyffosad yn lladd peillwyr, sy'n hanfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac nid yw'n niweidiol os yw'n gollwng i afonydd, ond mae glyffosad yn lladd pysgod ac yn llygru'r afonydd. Gweler Atodiad 3

4) Profwyd bod glyffosad yn beryglus i iechyd pobl, ond dŵr poeth ac ewyn yn unig yw Foamstream. Gweler Atodiad 4

 

YMATEB:

 

Aelod y Cabinet: "Rydym yn credu bod rhai awdurdodau lleol eraill yn defnyddio Foamstream mewn ardaloedd bach, ond caiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â chontract chwistrellu."

 

Aelod o'r cyhoedd: "Bydd modd trafod yr ail gwestiwn hwn drwy'r drafodaeth barhaus."

 

 

CWESTIWN 3:

 

Fel un o'r cynghorwyr yn ward y Castell, rwyf am i chi wybod pa mor bryderus ydw i fod Cyngor Abertawe yn bwriadu parhau gyda'r defnydd o Roundup i reoli chwyn ar ein hymylon. Ni allaf fynd i’r cyfarfod fore dydd Mawrth gan fy mod i'n addysgu ond roeddwn i am esbonio fy ngwrthwynebiadau. Rydym yn dysgu mwy bob dydd am bwysigrwydd ein microbiom i’n hiechyd, rhywbeth a ddarganfuwyd 15 mlynedd yn ôl yn unig. Mae ymchwil yn dangos y gall glyffosad chwynladdwr yn bendant niweidio microbiom ein perfedd fel yr egluraf isod. Mae hyn yn bwysig - gwelir bod microbiom wedi'i niweidio ym mhob clefyd cronig gan gynnwys asthma, diabetes, clefyd y galon, arthritis - a dweud y gwir, mewn unrhyw glefyd sy'n gysylltiedig â llid. Roedd y rheini yr effeithiwyd fwyaf andwyol arnynt gan COVID-19 yn debygol iawn o fod â microbiom oedd wedi lleihau. Mae'r canfyddiadau hyn yn cael eu rhannu'n raddol â'r cyhoedd drwy waith arloesol yr Athro Epidemioleg Genetig, Tim Spector, sydd wedi ennill sawl gwobr. Hoffwn grynhoi rhai pwyntiau allweddol a adroddwyd yn ei lyfr diweddaraf, "Food for Life" (2022). 

 

Mae gan yr Athro Tim Spector lawer i'w ddweud am glyffosad a does dim ohono'n dda. Mae'n ein hatgoffa bod tirmon o Galiffornia a oedd yn chwistrellu glyffosad (Roundup) yn rheolaidd ac a ddatblygodd lymffoma nad yw'n lymffoma Hodgkin wedi derbyn iawndal o $87 miliwn gan y rheithgor a ddyfarnodd ei bod yn 'debygol' mai'r chwynladdwr oedd yn gyfrifol. Ar hyn o bryd mae miloedd o achosion cyfreithiol yn erbyn y gwneuthurwr, Monsanto, o ran glyffosad ac mae eisoes wedi gwneud setliadau y tu allan i'r llys mewn bron 100,000 o achosion cyfreithiol, gan dalu bron $11 biliwn mewn iawndal. Addasodd llawer o lywodraethau a Sefydliad Iechyd y Byd eu safbwynt ar Roundup fel carsinogen tebygol yn 2015, gan ei ychwanegu at y rhestr o gemegau y dylem eu hosgoi. 

 

Yr hyn a wyddom yw bod defnydd eang o chwynladdwyr fel Roundup a phlaladdwyr yn cyfrannu at y gostyngiad graddol yn amrywiaeth microbau ein priddoedd. Gan ein bod yn dysgu bod angen cymysgedd cyfoethog o facteria a ffyngau amrywiol ar ein cyrff a'n priddoedd, rhaid i ni newid ein harferion.  

 

Mae astudiaethau gan y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yn dangos bod glyffosad yn mynd i mewn i’r rhan fwyaf o fwydydd a brofwyd ar ryw lefel. Mae p'un a yw'n achosi rhai canserau ai peidio os yw'n cael ei amlyncu mewn meintiau bach drwy ein bwyd yn ansicr, ond mae'n bendant yn niweidio microbau ein perfedd. Rydym i gyd yn dod i gysylltiad ag e' dros ein hoes. Mae'r terfynau diogel honedig a gynigir gan asiantaethau'r llywodraeth ar gyfer glyffosad yn hynod ddadleuol, gan mai ychydig iawn o ddata sy'n bodoli mewn pobl, a gall y cemegau aros mewn pridd am sawl mis. 

 

Gwyddom fod cemegau chwynladdwyr, gan gynnwys Roundup, yn niweidio ein priddoedd a'n microbau dynol. Fy nghwestiwn i yw: Pam y byddai Cyngor Abertawe'n parhau i ddefnyddio'r sylwedd hwn a all achosi niwed o'r fath a pheryglu ei weithwyr ei hun? Gofynnaf iddynt fabwysiadu'r egwyddor ragofalus a rhoi'r gorau i ddefnyddio glyffosad ar unwaith. Nid yw'r dadleuon ei fod yn rhatach yn dal dŵr mwyach - nid yw gwir gost defnyddio'r cemegyn hwn yn hysbys ar hyn o bryd ond mae arwyddion yn dangos na fydd yn rhatach. Ni ellir trin ein hiechyd ac iechyd ein priddoedd fel rhywbeth i’w fargeinio yn y modd hwn. 

 

Allech chi roi gwybod i mi beth yw eich safbwynt ar ddefnyddio'r cemegyn hwn yn Abertawe os gwelwch yn dda. 

 

YMATEB GAN AELOD Y CABINET:

 

"Rwyf yn ailadrodd bod glyffosad wedi bod yn destun cannoedd o dreialon clinigol a ddaeth i'r casgliad ei fod yn ddiogel pan gaiff ei ddefnyddio o dan argymhellion y label a chyhoeddodd y Pwyllgor dros Weithredu ar Asesu Risg yr Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd ganlyniadau'r adolygiad diweddaraf ar 30 Mai 2022 nad oedd yn argymell unrhyw newid yn nosbarthiad glyffosad. Cytunwyd nad oedd rheswm gwyddonol dros newid y dosbarthiad yn seiliedig ar adolygiad eang o dystiolaeth wyddonol. Daeth y Pwyllgor eto i'r casgliad nad oes modd cyfiawnhau dosbarthu glyffosad fel calcogen. Mae holl weithwyr a chontractwyr y cyngor sy'n ei ddefnyddio wedi eu cymhwyso'n broffesiynol.

 

O ran defnyddio’r cemegyn, dyma'r dull mwyaf effeithlon o bell ffordd ar hyn o bryd ar gyfer trin amrywiaeth eang o chwyn cyffredin ac wrth fynd i'r afael â'r raddfa sydd ei hangen ar gyfer palmentydd stryd, ond wedi dweud hynny, rydym bob amser yn cadw meddwl agored ar ddewisiadau amgen addas ac unrhyw wybodaeth sy'n dod i'r amlwg i gefnogi newid yn ein prosesau."

 

 

CWESTIWN 4:

 

Gan gyfeirio at eich sylwad yn eich 'Adroddiad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd' ar gyfer cyfarfod Panel Craffu Perfformiad Newid yn yr Hinsawdd a Natur ddydd Mawrth, 10 Ionawr 2023. Rheoli Chwyn.

 

Rwyf wedi nodi, o dan eich paragraff 6.1, 'Heriau a Chyfleoedd y Dyfodol' eich bod yn mynegi "pryder cynyddol dros ddiogelwch y cemegau a ddefnyddir." A bod 'y cyngor yn parhau i adolygu opsiynau eraill wrth iddynt ddod ar gael yn fasnachol.'

 

Ymhellach ym mharagraff 7.1 rydych yn dweud, "Ar hyn o bryd y gred yw nad oes unrhyw driniaeth gost-effeithiol arall i ateb galw'r cyhoedd".

 

Yn dilyn eich paragraff 6.1, mewn adroddiad ar wefan Sustainable Foods Trust gan Patrick Holden ar 5 Chwefror 2021 mewn Cemegau mewn Amaethyddiaeth, Ffermio, "A new study published on 27th January in the journal 'Environmental Health Perspectives', conducted by an international team of scientists led by Dr Michael Antoniou of Kings College London, found that exposure to glyphosate and it’s commercial Roundup formulation, can disrupt the function of the gut microbiome (bacteria and fungi) and internal body systems with the potential serious effects on human health. In controlled laboratory animal experiments, glyphosate was found to alter the composition, and more importantly, the biochemical function of the gut microbiome by the same mechanism through which the chemical acts to kill weeds. (Ffynhonnell: sustainablefoodtrust.org Sustainable Food Trust).

 

Datganodd Pesticide Action Network, "Mae plaladdwyr yn niweidio’r organebau y bwriedir iddynt eu rheoli, ond maent hefyd yn cael effaith fawr ar organebau nad ydynt yn cael eu targedu, gan gynnwys bodau dynol". Maent yn mynd ymlaen i ddweud, "Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod dros 350,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o wenwyno acíwt gan blaladdwyr. At hynny, nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys marwolaethau o ganser neu glefyd cronig arall a achosir gan gysylltiad â phlaladdwyr". Efallai nad oedd y bobl anffodus hyn yn dilyn yr union gyfarwyddiadau? (Ffynhonnell: www.pan-uk.org Materion Allweddol - Pesticide Action Network UK).

 

Yn dilyn eich paragraff 7.1, hoffwn eich cyfeirio chi, ac aelodau eich pwyllgor, at yr adroddiad atodedig gan weedingtech.com Glyphosate vs Foamstream – which form of weed control is right for your organisation? sy'n datgan bod canlyniadau Foamstream i'w gweld yn syth ar ddiwrnod y driniaeth, a bod llai o dyfiant chwyn hefyd. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod glyffosad yn ddibynnol ar y tywydd, nid yw Foamstream, a gellir defnyddio Foamstream ym mhob tywydd. Yn bwysicaf oll, canfuwyd bod glyffosad yn ddrytach na Foamstream, a thros gyfnod o bum mlynedd, mae Foamstream yn gweithio allan i fod 31% yn rhatach na glyffosad. Mae hyn yn groes i'ch honiad "Ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaeth gost-effeithiol arall i ateb galwadau’r cyhoedd".

 

O ran galwadau’r cyhoedd, mae glyffosad fel Roundup yn groes i Bolisi Datblygu Cynaliadwy Cyngor Abertawe gan nad yw'r defnydd o glyffosad er budd i'r cyhoedd, fel y soniwyd yn gynharach, gallant fod yn garsinogenig, gallant ddinistrio peillwyr, llygru'r tir y mae'n syrthio arno fel cael eu sgubo i goed yn y gwynt, neu ollwng i afon, lle ceir llawer o dystiolaeth a gasglwyd gan yr Ymddiriedolaeth Natur.

 

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn defnyddio Foamstream M600 yn llwyddiannus i reoli chwyn ers 2018, yn ogystal â chynghorau eraill a amlinellir yn yr atodiad isod.

http://www.pan-uk.org/pesticide-free-towns-success-stories/ 

 

Felly, hoffwn awgrymu bod Cyngor Abertawe yn ystyried defnyddio Foamstream ar sail cyfnod prawf mewn ardal benodol am ychydig flynyddoedd i benderfynu ar ei effeithlonrwydd a’i gost-effeithiolrwydd. Hoffwn eich atgoffa bod Cyngor Abertawe wedi datgan argyfwng hinsawdd ac yn ystod Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd Dynol, 'Stockholm 50' ar 2 i 3 Mehefin 2022, rhybuddiodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, "Ni all systemau naturiol y ddaear ddal i fyny â'n gofynion". Gan ofyn i bob llywodraeth, cenedlaethol a lleol i'n, "harwain allan o'r llanast hwn" a "rhoi'r gorau i ryfela yn erbyn natur". Sef yr hyn y mae Cyngor Abertawe yn ei wneud drwy ei ddefnyddio glyffosad yn barhaol. http://www.stockholm50.global/

 

YMATEB GAN AELOD Y CABINET:

 

"Fel y nodwyd yn gynharach, rhoddwyd arddangosiad o'r cynnyrch penodol hwn yn y gorffennol ynghyd â rhai dewisiadau amgen eraill. Canfuwyd nad ydynt mor effeithlon na chost-effeithiol ac nid yw'n ddelfrydol ar gyfer triniaeth sbectrwm eang fawr y mae ei hangen ar droedffyrdd i sicrhau eu bod yn ddiogel a bod niwed a achosir gan dyfiant chwyn gormodol yn gyfyngedig. O'r arddangosiad roedd hi'n amlwg nad oedd yn addas. Felly hyd yn oed pe byddem yn anwybyddu'r buddsoddiad cychwynnol, byddai'n cymryd llawer o amser ac ni fyddai'n effeithiol wrth reoli chwyn lluosflwydd. Ein dealltwriaeth o'r arddangosiad yw bod yr wythnosau a dargedwyd mewn gwirionedd wedi tyfu'n ôl o fewn pythefnos a'r un peth gyda'r mwsogl a dargedwyd, tyfodd hwnnw’n ôl hefyd o fewn pythefnos. Hefyd, roedd yr arddangosiad yn gofyn am ddefnyddio taenwr â generadur sy'n cael ei bweru gan betrol, felly mae'r effaith carbon ychwanegol i'w hystyried pe bai unrhyw ddulliau amgen yn cael eu cyflwyno."  

 

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd y Swyddog Craffu’n trosglwyddo manylion cyswllt Aelod y Cabinet i aelod o Rwydwaith Gweithredu ar yr Hinsawdd Abertawe.

 

 

5.

Rheoli Chwyn/Defnydd o Glyffosad pdf eicon PDF 149 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd

Bob Fenwick, Arweinydd Grŵp - Priffyrdd a Chludiant

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Symudwyd yr eitem hon i fyny'r agenda.

 

Daeth Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd a'r swyddog perthnasol i’r cyfarfod i gymryd rhan yn y drafodaeth ac ateb cwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Mae'r Panel yn teimlo bod glyffosad yn cael effaith ar beillwyr sy'n hanfodol i'r ecosystem ac yn cwestiynu i ba raddau mae'r awdurdod yn cymryd bioamrywiaeth Abertawe o ddifrif wrth ei fod yn parhau i ddefnyddio glyffosad.  Hysbyswyd y Panel fod bioamrywiaeth Abertawe yn hynod bwysig fel sy'n amlwg yn nifer y cynlluniau bioamrywiaeth y mae'r awdurdod yn eu cynnal ledled y sir ac y dylai'r cyngor fod yn agored i ddulliau amgen dichonadwy pe baent yn dod ar gael neu pe bai tystiolaeth wyddonol yn newid. 
  • Gofynnodd y Panel ynghylch trin tir ac a oes dulliau amgen. Clywodd, o safbwynt ffermio, oni bai fod dewis amgen dichonadwy arall, fod glyffosad yn hanfodol mewn tir âr masnachol a’i fod wedi cael ei ddefnyddio'n ddiogel ers dros 40 mlynedd. Dywedodd y Panel fod yr amserlen hon yn cyd-fynd â'r amserlen lle'r ydym wedi gweld cwymp enfawr yn nifer y pryfed yn ein biosffer.
  • Holodd aelod o'r cyhoedd a fyddai'r cyngor yn siarad ag elusen am ddefnyddio'r arferion gorau ar gyfer cynhyrchu lleiniau blodau gwyllt yn Abertawe, nad ydynt yn cynnwys defnyddio glyffosad. Hysbyswyd y Panel fod y cynllun plannu blodau gwyllt yn cael ei ddefnyddio i ladd glaswellt cyn bod hadau'n cael eu hau, fel arall ni fydd yr hadau'n cydio. 
  • Holodd y Panel a yw'n opsiwn i wardiau beidio â derbyn y cynllun chwistrellu chwyn ar y priffyrdd. Hysbyswyd y Panel ei fod yn opsiwn ac mae angen i unrhyw gynghorwyr nad ydynt am fod yn rhan o’r rhaglen neu gael rhaglen lai yn eu ward roi gwybod i Aelod y Cabinet a Swyddogion. 
  • Dywedodd aelod o'r cyhoedd mai opsiwn ymarferol i chwistrellu yw plannu'n barhaol. Clywodd y pwyllgor fod gan y cyngor strategaeth plannu coed ar draws y sir a gall aelodau ward ymgymryd â'r cynlluniau plannu blodau gwyllt mewn cynifer o ardaloedd ag y maent yn dymuno, cynlluniau sydd wedi'u talu o'u cyllideb gymunedol.

 

6.

Y Diweddaraf am Newid yn yr Hinsawdd pdf eicon PDF 268 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet - Trawsnewid Gwasanaethau

Geoff Bacon - Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo

Rachel Lewis - Rheolwr Prosiect y Gyfarwyddiaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Swyddogion perthnasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a oedd yn cynnwys cadarnhad bod y cyngor wedi ymateb i holl argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru, bod ganddo gynllun cyflawni wedi'i gostio'n llawn ar gyfer sero net erbyn 2030 a’i fod wedi derbyn achrediad Efydd One Planet Standard (y cyntaf yn y DU).

 

Pwyntiau Trafod:

  • Teimlai'r Panel o ran ynni adnewyddadwy, y gallai'r pethau canlynol weithio - defnyddio micro-hydro ac ailbwrpasu batris ceir i'w defnyddio mewn cartrefi.  Clywodd bod y cyngor yn edrych ar bob cyfle o ran ynni adnewyddadwy ac mae cynhyrchu trydan drwy system micro-hydro ar gyfer afonydd yn cael ei harchwilio. Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi ailbwrpasu batris ceir i'w defnyddio mewn cartrefi, a gall archwilio'r posibilrwydd o gynnal cynllun peilot. 
  • Holodd aelod o'r cyhoedd pam nad yw'r morlyn llanw yn weithredol eto ym Mae Abertawe. Hysbyswyd y Panel nad oedd cyllid cenedlaethol na chyllid gan Lywodraeth Cymru ar ei gyfer yn flaenorol ond ar hyn o bryd roeddent yn gweithio gyda datblygwr trydydd parti sy'n bwriadu cyflawni'r prosiect yn gyfan gwbl gyda buddsoddiad gan y sector preifat felly ni fydd angen cymhorthdal cyhoeddus. 
  • Holodd aelod o'r cyhoedd pam na ellir defnyddio cronfa bensiwn y cyngor i ariannu'r morlyn llanw fel y gall pobl Abertawe elwa o'r prosiect. Clywodd y Panel y cysylltwyd â chynlluniau pensiwn ynglŷn â buddsoddi mewn cynlluniau morlyn llanw blaenorol ac roeddent yn gadarnhaol ynghylch y cyfle ond roedd yn rhaid iddynt ystyried y budd gorau ar gyfer y gronfa bensiwn ei hun a'i haelodau yn hytrach na'r cyngor. Ni chysylltwyd â hwy o ran y cynllun newydd hwn gan fod y sector preifat wedi cyflwyno'r hyn sy'n ymddangos fel prosiect sydd wedi'i ariannu'n llawn.

 

7.

Mabwysiadu Cerbydau Gwyrdd pdf eicon PDF 142 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrea Lewis - Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau

Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant

Mark Barrow, Rheolwr y Cerbydlu - Priffyrdd a Chludiant

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Panel fod gan y cyngor un o'r cerbydluoedd mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n wynebu her sylweddol i'w 'glasu'. Mae cynnydd yn cael ei wneud ac erbyn Mawrth 2023 bydd gan 10% o'r cerbydlu allyriadau carbon sero net a hwn fydd y cerbydlu gwyrdd mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gydag isadeiledd ategol yn cael ei osod ar draws depos y cyngor. Amcangyfrifwyd cost o £55 miliwn rhwng nawr a 2030 ac mae hyn yn ddangosol. Mae'r awdurdod lleol ychydig flynyddoedd ar ei hôl hi o ran lle yr hoffai fod ond mae ar y blaen i’r rhan fwyaf. Mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Holodd y Panel os bydd holl gerbydau'r cyngor (945) yn dod yn gerbydau trydan batri a sut y bydd y cyngor yn eu gwefru i gyd. Roedd y panel o'r farn y byddai hyn yn cael effaith enfawr ar y grid os yw pawb yn symud i gerbydau trydan erbyn 2030, a'r sector cyhoeddus erbyn 2025, a bod problem gwaredu batris hefyd i'w hystyried. Clywodd y Panel nad trydan batri yw'r ateb i bob problem carbon sero. Roedd Swyddogion o'r farn ei fod yn addas ar gyfer y sector ceir a faniau sy'n 60% o gerbydlu'r cyngor o ran allyriadau carbon.  Mae Swyddogion yn ymwybodol o'r effaith ar y grid ac yn archwilio ynni adnewyddadwy a 'gwifren breifat'. Mae'r cyngor yn rhagweld y bydd angen cwpl o gannoedd o bwyntiau gwefru yn ei ystâd mae'n debyg ac yna mae angen iddo gynnig atebion ar gyfer tanwydd amgen dichonadwy a newid ei ffyrdd o weithio i gyd-fynd â'r ffaith bod yn rhaid iddo bellach 'fynd â'r pwmp i'r fan'. 
  • Gan nad oedd Aelod y Cabinet yn gallu bod yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, cytunodd y Panel y bydd yn cael ei ychwanegu at yr eitem 'Y Diweddaraf am Newid yn yr Hinsawdd' yng nghyfarfod 2 Mai, fel bod Aelod y Cabinet yn bresennol ar gyfer trafodaeth a chwestiynau pellach.

 

Camau Gweithredu:

  • Caiff 'Trafodaeth bellach ar Fabwysiadu Cerbydau Gwyrdd' ei ychwanegu at gyfarfod y Panel ar 2 Mai o dan yr eitem 'Y Diweddaraf am Newid yn yr Hinsawdd'.

 

8.

Mannau Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer y cyhoedd/preswylwyr pdf eicon PDF 581 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrea Lewis - Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau

Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant

Matthew Bowyer, Arweinydd Grŵp - Priffyrdd a Chludiant

Chloe Lewis, Arweinydd Tîm - Priffyrdd a Chludiant

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddogion y diweddaraf ac atebon nhw gwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Mae'r Panel yn teimlo bod pobl sy'n dewis car trydan ond na allant barcio oddi ar y ffordd yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gwefrwyr cyhoeddus sydd dair gwaith yn ddrytach. Hysbyswyd y Panel fod y cyngor wedi gosod nifer o bwyntiau gwefru cymunedol o fewn cymunedau lleol, yn ogystal â phwyntiau gwefru sy'n cael eu cynnal gan weithredwr masnachol. Ar hyn o bryd mae gan y cyngor gontract gyda gweithredwr masnachol trydydd parti a'r gost gwefru yw 75c fesul kwh ar gyfer gwefru 'cyflym'. Ar hyn o bryd mae cyfraddau domestig wedi'u capio ar 34c fesul kwh ond mae gwefru gartref ar gyfradd llawer arafach. 
  • Mae Panel yn teimlo fod hyn yn broblem mewn rhai rhannau o Abertawe lle nad oes gan lawer o bobl eu tramwyfeydd eu hunain. Hysbyswyd y Panel fod y cyngor yn bwriadu gosod pwyntiau gwefru ar y stryd yn Uplands, Sgeti a Chilâ ac roedd yn gobeithio parhau i ddatblygu hyn mewn ardaloedd ehangach yn Abertawe.
  • Mae'r Panel o'r farn mai un ateb yw cyflwyno hybiau gwefru cymunedol yn ogystal â chyflwyno cludiant cyhoeddus rhatach a mwy dibynadwy fel bod pobl yn gallu symud i ffwrdd o ddefnyddio ceir.
  • Mynegodd panel bryder ynghylch faint o gelfi stryd sydd o gwmpas ar hyn o bryd. Soniodd y Panel am gynllun peilot yn Plymouth lle mae pwyntiau gwefru yn codi allan o'r stryd, a fyddai'n atal ychwanegu at gelfi stryd. Bydd Swyddogion yn ymchwilio i'r prosiect yn Plymouth ac yn ystyried hyn ar gyfer isadeiledd o'r natur hon yn y dyfodol os bydd cyllid ar gael.

 

9.

Rhaglen Waith 2022-23 pdf eicon PDF 194 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y rhaglen waith gan y Panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet A Stevens (cyfarfod 10 Ionawr 2023) pdf eicon PDF 181 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet A Lewis (cyfarfod 10 Ionawr 2023) pdf eicon PDF 120 KB