Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 310 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2022 fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

Materion a godwyd:

Cofnod 78 - Ar gam gweithredu 2, gofynnodd y panel a oedd hyfforddiant ar gyfer y Cynghorwyr wedi'i sefydlu. Dywedwyd bod rhaglen hyfforddi e-ddysgu wedi'i datblygu a byddai'n fyw ar ôl i'r adroddiad fynd i'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2022.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Rôl y Panel Craffu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau rôl y Panel.

 

6.

Ansawdd Dwr a Rheoli Dwr pdf eicon PDF 149 KB

Gwahoddwyd y canlynol i fod yn bresennol:
Y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol

Carol Morgan, Pennaeth Dros Dro Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Tom Price, Arweinydd Tîm Rheoli Llygredd a Thai’r Sector Preifat 

Hamish Osborn a Sarah Bennett, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol a swyddogion a chynrychiolwyr perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru'n bresennol i friffio'r Panel ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Gofynnodd y Panel a oedd unrhyw achosion mawr wedi digwydd yn lleol o ran carthffosiaeth yn mynd i mewn i'r môr yn dilyn stormydd. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod gorlifoedd stormydd o gwmpas yr arfordir a ger afonydd sydd wedi'u dylunio i arllwys dŵr gormodol, sy'n mynd i'r system garthffosiaeth yn ystod glaw trwm, i'r amgylchedd i atal llifogydd mewn tai. Mae gorlifoedd stormydd yn Abertawe. Ar hyd y rhannau mwyaf gwerthfawr o'r arfordir, mae'r gorlifoedd yn llifo dan amgylchiadau eithriadol yn unig.
  • Gofynnodd y Panel pwy sy'n gyfrifol am ollwng carthffosiaeth i’r môr. Hysbyswyd bod CNC yn gyfrifol am ei gollwng mewn dyfroedd a reolir, h.y. afonydd, y rhan fwyaf o lynnoedd a'r môr. Mae CNC yn gweithio gyda'r cyngor ar effeithiau rhai o'r gollyngiadau ar iechyd cyhoeddus, ond CNC sydd â'r prif gyfrifoldeb am ymateb i ddigwyddiadau llygredd. Mae gan Dŵr Cymru gyfrifoldeb i aros o fewn cyfyngiadau ei drwydded ac fe'i hysbysir ynghylch unrhyw broblemau sy'n berthnasol i'w asedau, a bydd CNC yn gwneud gwaith gorfodi dilynol os bydd angen.
  • Gofynnodd y Panel pa mor effeithiol oedd gwaith monitro plaleiddiad amaethyddol ffo yn Abertawe. Dywedodd CNC mai'r brif broblem oherwydd amaethyddiaeth yng Nghymru yw dŵr ffo sy'n berthnasol i fiswail a maethynnau. Nid amaethyddiaeth yw'r broblem fwyaf yn Abertawe o ran ansawdd dŵr ond mae'n cael ei monitro a gwneir gwaith dilynol os bydd angen.
  • Gofynnodd y Panel a yw Caswell yn un o'r safleoedd trafferthus o ran gollwng carthffosiaeth i’r môr, faint o safleoedd trafferthus sydd gennym a sut rydym yn cymharu ag awdurdodau tebyg. Dywedodd CNC fod gorlifoedd argyfwng yn hytrach na gorlifoedd stormydd yn ardaloedd Caswell a Langland. Bu rhai problemau o ran gorlifo yn y system, yn enwedig yn ardal Caswell, sydd wedi arwain at rybuddion gorlifoedd yn y gorffennol. Mae'r symiau a ollyngir ar y ddau draeth yn fach iawn.
  • Roedd y Panel am wybod a oes unrhyw welliannau i isadeiledd wedi'u cynllunio yn yr ardal neu a oes angen eu gwella yn yr ardal. Dywedodd CNC y byddent bob amser yn chwilio am isadeiledd yn Abertawe i’w archwilio a’i wella os bydd angen. Dyma’r dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod y gorlifoedd mewn argyfwng dim ond yn gweithredu mewn argyfwng ac nid fel gorlifoedd stormydd.
  • Gofynnodd y Panel sut byddwn yn diogelu'r system garthffosiaeth/ddraenio yn y dyfodol. Dywedodd CNC y mae'n debygol y bydd rhagor o stormydd mwy dwys yn y dyfodol, a fydd yn rhoi pwysau ar unrhyw systemau draenio. Mae Dŵr Cymru'n ystyried hyn wrth flaengynllunio.
  • Gofynnodd y Panel am farn CNC ynghylch tanciau septig mewn ardaloedd trefol. Dywedodd CNC y byddai'n well ganddynt beidio eu gweld mewn ardaloedd trefol, ac y byddai'n well petaent wedi'u cysylltu â phrif draeniau.
  • Gofynnodd y Panel ynghylch cyfranogaeth CNC o ran safleoedd adeiladu mewn perthynas â silt. Hysbyswyd na ddylai safleoedd adeiladu arwain at lygredd silt mewn afonydd. Mae angen i CNC weithio'n well yn y dyfodol mewn perthynas â chynllunio a datblygwyr. Hoffent weld safleoedd adeiladu yn cael eu cyflwyno mewn ffyrdd llawer gwell a datblygwyr yn gweithio mewn ffordd lanach.
  • Dywedodd y Panel fod rheoliadau SDCau bellach ar waith a gofynnwyd a yw hynny o ddefnydd o gwbl. Roedd CNC yn teimlo bod hynny'n gam sylweddol ymlaen ond mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gall unrhyw ddeddfwriaeth ei wneud. Mae CNC am fod yn well wrth atal llygredd o ganlyniad i weithgarwch adeiladu.

Gofynnodd y Panel am gyflenwadau dŵr yfed preifat a pha mor aml y gwneir asesiadau risg a gwaith monitro. Dywedwyd o ran cyflenwadau dŵr yfed preifat, mae'r cyngor yn gwirio'n flynyddol a yw'n gyflenwad masnachol neu'n gyflenwad a rennir ac mae'n gwirio bob 5 mlynedd a yw'n gyflenwad unigol. Mae swyddogion yn hyderus eu bod yn mynd i'r afael â hyn a bod popeth yn yr ardal wedi'i gynnwys.

7.

Trosolwg o Newid yn yr Hinsawdd a Natur yn Abertawe pdf eicon PDF 170 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet - Trawsnewid Gwasanaethau

Y Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet - Yr Amgylchedd ac Isadeiledd

Geoff Bacon - Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo

Rachel Lewis - Rheolwr Prosiect y Gyfarwyddiaeth

Paul Meller – Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol

Deborah Hill – Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur

Jane Richmond - Rheolwr Prosiect, Newid yn yr Hinsawdd Strategol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Aelodau’r Cabinet, Andrea Lewis a David Hopkins, ynghyd â'r swyddogion perthnasol i'r cyfarfod i friffio'r Panel ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Gofynnodd y Panel ynghylch pŵer hydro ar draws Abertawe ac roedd am wybod a yw'r adran wedi cyflawni archwiliad o safleoedd posib ar draws Abertawe, a allai’r cyngor o bosib fanteisio ar y safleoedd hyn ac a oes unrhyw le y gallwn eu rhoi. Hysbyswyd y Panel fod y cyngor yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos ar ddatblygu cynllun datblygu ynni rhanbarthol. Clywodd ei fod yn gweithio tuag at 'droi'r grid yn wyrdd', tuag at darged 2050 yn hytrach na tharged 2030 ond bydd yr awdurdod, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn llunio cynllun datblygu ynni lleol ac yn ei ddosbarthu i'r rhanbarth ehangach. Bydd swyddogion yn rhoi diweddariad yn ystod cyfarfod y Panel ym mis Ionawr 2023, pan fydd ganddynt syniad gwell o'r amserlenni.
  • Mae'r Panel yn ymwybodol y bydd yn anodd iawn cyflawni'r nod o fod yn Sero-net erbyn 2030 a gofynnodd a yw'r cyngor yn hyderus y bydd yn llwyddo i gyrraedd y nod. Cadarnhaodd swyddogion y bydd yn anodd iawn a bod y cyngor yn derbyn arweinyddiaeth a chyngor gan Lywodraeth Cymru gan mai ymagwedd Cymru gyfan yw hyn.
  • Gofynnodd y Panel ynghylch ystyr 'Parcio Tecach' a nodir ar dudalen 36 yr adroddiad. Bydd swyddogion yn darparu ymateb yn dilyn yr adroddiad.

 

Camau Gweithredu:

  • Cynnwys diweddariad ar Gynllun Ynni Lleol fel rhan o eitem 'Diweddariad ar Newid yn yr Hinsawdd' yn ystod cyfarfod nesaf y Panel ym mis Ionawr 2023.
  • Rhoi gwybod i'r Panel ynghylch ystyr 'Parcio Tecach'.

 

8.

Rhaglen Waith ddrafft 2022-23 pdf eicon PDF 192 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar y Rhaglen Waith ar gyfer 2022-23.

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Tachwedd 2022) pdf eicon PDF 119 KB