Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 01792 637314 / 07980 757691 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

74.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

75.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

76.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 798 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022, yn gofnod cywir.

 

77.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

78.

Tîm Cadwraeth Natur - y Diweddaraf am Brosiectau pdf eicon PDF 112 KB

Wedi’u gwahodd i fynychu:

Y Cyng. Andrea Lewis – Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau

Paul Meller – Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol

Deborah Hill – Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y panel yr wybodaeth ddiweddaraf am y prif waith prosiect a nodwyd ar hyn o bryd fel camau i'w cyflawni gan Dîm Cadwraeth Natur y Cyngor dan Amcan Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth y Cynllun Corfforaethol, sydd hefyd yn deillio o Argymhellion Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol. Roedd Cofnod Gweithredu ynghlwm wrth yr adroddiad a ddarparwyd ac roedd hyn yn tynnu sylw at y cynnydd perthnasol a wnaed ers yr adroddiad diwethaf i'r panel ym mis Mawrth 2021.

 

Codwyd y materion canlynol gan y panel mewn perthynas â chamau gweithredu unigol yn y log:

 

Cam Gweithredu 2 - Paratoi Cynllun Gweithredu Corfforaethol Adran 6 - Dyletswydd Bioamrywiaeth

Cydnabu'r panel fod hwn yn ddarn pwysig o waith ac roeddent yn falch o glywed bod y cynllun gweithredu hyd at 2023 bellach yn cael ei ddatblygu. Gofynnwyd iddynt am gynnwys Cynghorwyr yn y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn a dywedwyd wrthynt y byddai croeso mawr i hyn ac y byddai'n cael ei gynnwys fel rhan o hyfforddiant Cynghorwyr yn nhymor newydd y cyngor.

 

Cam Gweithredu 3 - Paratoi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe

Clywodd y panel fod hwn wedi'i ohirio oherwydd nad oedd swyddog bioamrywiaeth amser llawn. Gan fod y person hwn bellach yn ei swydd mae pethau'n symud ymlaen a bydd cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Cam Gweithredu 5 - Paratoi Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ar draws y Sir

Mae'r Strategaeth wedi'i gohirio oherwydd bod y gallu i ymgynghori â'r cyhoedd yn hanfodol i ddatblygu'r cynllun hwn. Mae gwaith wedi dechrau eto a dylai’r gwaith o gynnwys y cyhoedd ddechrau yn yr haf.

 

Dan yr eitem hon, cododd y panel y mater o fonitro cydymffurfiaeth a gorfodi agweddau isadeiledd gwyrdd ar geisiadau cynllunio. Teimlai'r panel fod hyn yn annigonol ar hyn o bryd ac mae angen ystyried sut y gellir ei wella. Clywodd y panel, yn ddelfrydol byddai deddfwriaeth yn newid fel bod y cyngor yn cael gwybod pan fydd prosiectau isadeiledd yn dechrau fel eu bod yn gallu dechrau monitro, yn hytrach na chael gwybod am hyn ar ôl i'r prosiect ddechrau. Roedd y panel yn cydnabod bod monitro cydymffurfiaeth a gorfodi yn defnyddio llawer o adnoddau. Hoffai'r panel i'r Cabinet ystyried sut y gellir datrys hyn, roedd un awgrym yn cynnwys yr angen i brosiectau gael cymeradwyaeth isadeiledd gwyrdd ar ddiwedd prosiect i sicrhau bod datblygwyr wedi bodloni'r gofynion. Hoffai'r panel i hyn gael ei drefnu i'w drafod ymhellach yn un o'u cyfarfodydd ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig newydd.

 

Cam Gweithredu 6 a 7 - Datblygu a mabwysiadu polisi coed ar gyfer y cyngor, a pharatoi a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Coed a Datblygiad

Roedd y panel yn falch o glywed am y polisi hwn ond tynnodd sylw at bwysigrwydd bod yn ystyriol o ble mae coed yn cael eu plannu. Clywsom mai un o'r darnau o waith sy'n cael ei gwblhau yw 'plannu'r coed iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn' a bod llawer o bethau i'w hystyried wrth blannu coed, felly gwneir asesiad i benderfynu pa fath o goeden sydd fwyaf priodol mewn man penodol.

 

Awgrymodd y panel y dylai'r wybodaeth hon fod ar gael ar wefan y cyngor ac y dylid ei rhannu â Chynghorau Cymuned etc. Clywodd y panel fod y gwedudalennau'n cael eu datblygu ac y byddant yn cael eu lansio cyn bo hir.

 

Cam Gweithredu 10 - Datblygu a darparu hyfforddiant bioamrywiaeth ar gyfer staff y cyngor, Aelodau Etholedig ac Aelodau'r BGC

Croesawodd y panel y rhaglen o hyfforddiant parhaus a phwysleisiodd bwysigrwydd hyfforddiant i Gynghorwyr ar ddechrau tymor newydd y cyngor. Clywodd y panel fod Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu hyfforddiant Cymru gyfan ar gyfer aelodau etholedig, felly bydd hyn yn rhan o'r rhaglen wrth symud ymlaen.

 

Argymhellodd y panel y dylai hanfodion bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd fod yn rhan o'r Hyfforddiant Sefydlu Cynghorwyr newydd.

 

Cam Gweithredu 12 a 13 – Recriwtio Ecolegydd Cynllunio newydd a Swyddog Bioamrywiaeth Dyletswydd Adran 6

Roedd y panel yn falch o gwrdd â'r Ecolegydd Cynllunio newydd a'r Swyddog Bioamrywiaeth Dyletswydd Adran 6 ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor am eu cynnydd maes o law.

 

Cam Gweithredu 15 - Cydlynu a darparu'r rhaglen grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (2020-2023)

Clywodd y panel fod grantiau ychwanegol at y rhai a grybwyllir yn yr adroddiad wedi cael eu derbyn. Derbyniwyd cyfanswm o dros hanner miliwn o bunnoedd o arian grant gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2021/2022.

Mae dros filiwn o bunnoedd o grantiau wedi'u cymeradwyo ar gyfer y flwyddyn i ddod, clywodd y panel gan swyddogion fod hyn yn wych ond y byddai'n ychwanegu at y llwyth gwaith sydd eisoes yn sylweddol. Mae'r panel yn cydnabod ei bod yn cymryd llawer iawn o amser ac adnoddau i wario a chyflawni'r grantiau hyn ond mae'n croesawu hyn fel problem dda.

 

Cam Gweithredu 18 - Cynllunio, cefnogi a darparu mentrau plannu coed/coetiroedd/gwrychoedd/perllannau newydd

Roedd y panel yn cydnabod bod hyn yn dod yn bwysicach wrth i ni symud ymlaen a bod angen asesu nifer y coed a blannwyd, ond pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd monitro nifer y coed sy'n cael eu symud, fel y gallwn ddeall ein stoc goed gyffredinol ac felly gwneud asesiad carbon yn rheolaidd.

 

Cam Gweithredu 23 - Cyflwyno a darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau ymwybyddiaeth bioamrywiaeth a mentrau ymarferol mewn ysgolion, a chyfleoedd i blant ysgol gael mynediad at eu hamgylchedd naturiol a dysgu amdano

Clywodd y panel fod capasiti staff a'r pandemig wedi atal hyn rhag mynd yn ei flaen ond gan fod gennym bellach y swyddi newydd ar waith, bydd cynnydd yn cael ei wneud dros y flwyddyn i ddod.

 

79.

Adolygiad Panel y Flwyddyn 2021-22 pdf eicon PDF 251 KB

Cofnodion:

Gan mai hwn yw cyfarfod olaf y flwyddyn ddinesig hon, gwahoddwyd y panel i fyfyrio ar waith craffu, profiad ac effeithiolrwydd y flwyddyn. Gofynnwyd am unrhyw syniadau a fydd yn gwella effeithiolrwydd y gwaith craffu ar yr Amgylchedd Naturiol, a chraffu yn gyffredinol.

 

Ydy pethau wedi gweithio'n dda?

Teimlai'r panel fod pethau cadarnhaol gwirioneddol wedi dod o'u gwaith, ei fod wedi bod yn gynhyrchiol, ei fod wedi caniatáu i bobl godi materion sy'n peri pryder amgylcheddol a'i fod wedi bod yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth.

 

Ydy gwaith y panel wedi canolbwyntio ar y pethau cywir?

Credai'r panel eu bod wedi canolbwyntio ar y pethau cywir ac wedi ymdrin â materion sylfaenol bioamrywiaeth ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Hoffent weld gwaith pellach yn cael ei wneud yn y flwyddyn ddinesig newydd ar orfodi agweddau isadeiledd gwyrdd/bioamrywiaeth ar geisiadau cynllunio

 

Beth, os o gwbl, y gellid ei wneud yn well?

Codwyd rolau gwahanol Pwyllgorau Datblygu Polisi a Chraffu a theimlai'r panel y gall llawer o feysydd datblygu polisi a chraffu orgyffwrdd o ran yr Amgylchedd Naturiol. Er, nid oedd hyn o reidrwydd yn beth drwg ac mae'n dda bod syniadau ar gyfer gwella yn dod o ba ffynhonnell bynnag.

 

Diolchodd y Cynullydd i aelodau'r panel a Swyddogion y cyngor am eu cefnogaeth yng ngwaith y panel hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Diolchodd y swyddogion a oedd yn bresennol i'r Cynghorydd Jones am y gefnogaeth y mae wedi'i rhoi er mwyn gallu adfer natur drwy ei waith fel cadeirydd Panel Craffu'r Amgylchedd Naturiol.

 

Diolchodd y panel i'r Cynullydd am ei frwdfrydedd dros y pwnc a'i arweinyddiaeth dda o'r panel.

80.

Llythyrau pdf eicon PDF 324 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y panel yr ohebiaeth a anfonwyd yn dilyn cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05pm

 

Llythyr oddi wrth yr Aelod Cabinet pdf eicon PDF 384 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 152 KB