Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Swyddog Craffu - 07980757686
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 395 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021, yn gofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Rheoli Mannau Gwyrdd a Chwyn PDF 232 KB Mark Thomas - Aelod Y Cabinet Dros Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Chris Howell - Pennaeth Rheoli Gwastraff a Gweithrediadau Parciau Jeremy Davies - Arweinydd Grŵp Parciau a Glanhau Mark Barber - Swyddog yr Amgylchedd Naturiol a Bioamrywiaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Panel
drosolwg gan y Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a
Rheoli Isadeiledd. Roedd swyddogion hefyd yn bresennol i gynorthwyo'r
drafodaeth ac ateb cwestiynau. Canolbwyntiwyd ar y canlynol yn ystod y
drafodaeth: ·
Cynyddu
bioamrywiaeth drwy raglenni rheoli. ·
Lleihau
dibyniaeth o glyffosad a'r defnydd ohono drwy holl wasanaethau'r cyngor. ·
Yr
Adran Priffyrdd sy'n defnyddio'r swm mwyaf o glyffosad, nid yr adran parciau
(er y defnyddir rhywfaint ar Ganclwm Japan). ·
Mae'r
Adran Priffyrdd yn rheoli chwyn ar ffyrdd, felly nid yr adran Parciau sy'n
gyfrifol am hyn. ·
Cynhelir
y rhaglen bresennol ar gontract 3 blynedd gyda chwmni allanol, a chwblheir y
gwaith drwy weithrediad peiriannau. Dyma fu'r dull mwyaf effeithiol ac
effeithlon hyd yma. ·
Cododd
aelodau bryderon fod rhai ffyrdd pengaead yn cael eu colli gan gontractwyr. ·
Clywodd
y panel y gellir gofyn i gontractwyr ddychwelyd ac ailchwistrellu
os na fydd y gwasanaeth hwnnw'n foddhaol mewn ardal benodol. ·
Mae'r
broses i adnewyddu'r contract ar waith, gan ystyried unrhyw ddulliau cymwys
eraill sydd ar gael, i leihau'r defnydd o glyffosad. ·
Nid
yw profion y cyngor o dechnolegau/driniaethau eraill wedi arwain at raglen fwy
effeithiol eto. ·
Eglurwyd
bod y rhaglen wedi wynebu anawsterau yn 2021 oherwydd glaw/stormydd. Daeth
chwyn yn anodd ei reoli a derbyniwyd cwynion ynghylch chwyn wedi gordyfu. ·
Mae
gan yr Adran Priffyrdd lwfans cyllidebol ychwanegol i greu tîm, a fydd yn
canolbwyntio ar fannau lle ceir llawer o chwyn. ·
Mae'r
panel yn ymwybodol o risgiau ac agweddau ar bryder sy'n ymwneud â'r defnydd o
glyffosad. Cydnabu aelodau fod ambell
opsiwn effeithiol arall i reoli chwyn ar hyd y rhwydwaith priffyrdd. ·
Ailadroddodd
y Cyng. Thomas fod glyffosad yn gynnyrch sydd wedi'i drwyddedu'n llawn ac nad yw'r
cyngor yn defnyddio cynnyrch sy'n anniogel. ·
Trafododd
aelodau ganlyniadau chwyn sy'n cael ei adael i ddifrodi waliau a phalmentydd,
gan gynnwys y potensial i aelodau cymunedol gymryd rhan mewn rhaglenni chwynnu.
·
Cododd
yr aelodau'r opsiwn o wardiau'n dewis peidio â chwistrellu chwyn, gan ddyfynnu
enghraifft 'Strydoedd Byw Uplands', grŵp sydd â
diddordeb mewn triniaeth lle defnyddir llai o glyffosad. ·
Clywodd
y Panel, er na all tai unigol ddewis peidio â chael y driniaeth, gallai wardiau
neu strydoedd ddewis peidio â dilyn y rhaglen chwistrellu chwyn. ·
Clywodd
y Panel, o ran gwella bioamrywiaeth, y bydd rhai ardaloedd o wair sy'n cael eu
gadael i dyfu'n hirach. ·
Holodd
Aelodau ynghylch sut i adrodd wrth y cyngor am chwyn/blanhigion na ellir eu
henwi. Dywedodd swyddogion y gellid cyflwyno cofnod ar ffurf llun, neu
ddefnyddio apiau enwi allanol. Roedd swyddogion yn
mynd ati i ddarparu dolenni i apiau o'r fath er
gwybodaeth. ·
Cododd
Aelodau'r Panel rai pryderon ynghylch y posibilrwydd o werthu mannau gwyrdd i
aelodau'r cyngor. ·
Dyfynnodd
yr Aelodau gastell Casllwchwr fel enghraifft o fan gwyrdd sy'n cael ei adael yn
llwyddiannus i droi'n ddôl, gan annog twf blodau gwyllt. ·
Amlygwyd
bod twf blodau gwyllt yn cael ei hyrwyddo drwy bridd â llai o faeth ynddo. Mae
toriadau gwair sy'n cael eu gadael ar y tir felly'n wrthgynhyrchiol i dwf
blodau gwyllt. ·
Bu
angen defnyddio cyfarpar arbenigol i gael gwared ar doriadau gwaith o safleoedd
blodau gwyllt. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi'r cyngor i brynu
peiriant 'torri a chasglu' arbenigol. ·
Gwnaeth
yr Aelodau sylwadau ar y toriadau gwair sy'n cael eu gadael ar ôl i ymylon
ffyrdd gael eu torri, a'r maeth sy'n cael ei adael i gynorthwyo twf yn y
dyfodol, gan ddweud y gall y toriadau gyfrannu weithiau at rwystro gylïau ·
Eglurodd
swyddogion fod yr amser a dreulir a'r arian a gaiff ei wario wrth gasglu
toriadau gwair cyffredinol yn annhebygol o fod yn effeithiol wrth wneud
gwahaniaeth sylweddol i nifer y toriadau. ·
Tynnodd
yr adroddiad sylw at yr heriau a wynebir, fel cael gwared ar ardaloedd mawr o
wair. ·
Clywodd
y Panel fod y cyhoedd weithiau'n ystyried ardaloedd
sy'n cael eu gadael i ddatblygu'n ddolydd yn fannau wedi'u hesgeuluso. Roedd yr
Aelodau'n deall bod angen gwella cyfathrebu i sicrhau bod y cyhoedd yn deall
pam/ble y daw rhai ardaloedd yn ddolydd a reolir. ·
Awgrymodd
yr Aelodau y dylid codi arwyddion dros dro ar safleoedd dolydd i hysbysu'r
cyhoedd yn well. ·
Cododd
yr Aelodau bryderon ynghylch pwyntiau mynediad i'r ddinas a'r argraffiadau
cyntaf i ymwelwyr. ·
Gwnaeth
yr Aelodau sylwadau ffafriol ar y camau a gymerwyd ym Mharc Singleton
i wella bioamrywiaeth. ·
Holodd
yr Aelodau a fyddai arian grant ar gael i ddarparu cynlluniau/coed i ardaloedd
lleol. ·
Eglurodd
Swyddogion fod dwy swydd ran-amser yn cael eu hariannu i weithio o fewn
ardaloedd ward i gefnogi bioamrywiaeth, creu cynefinoedd a rheoli blodau gwyllt
yn gyffredinol. ·
Roedd
yr Aelodau'n falch o glywed bod swyddog bioamrywiaeth wedi'i benodi ers yr
argymhelliad hwn gan Banel Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol, fodd
bynnag, codwyd pryderon ynghylch natur ran-amser y swydd hon o ystyried y
galwadau. Cytunodd yr Aelodau y byddai ymrwymiad tymor hir i ariannu swydd
amser llawn yn fuddiol. ·
Gofynnodd
yr aelodau ynghylch y "Cwestiynau drafft ar gyfer Ymgynghoriad" gan
awgrymu y dylai'r cwestiynau gael eu mynegi'n wahanol er mwyn cael atebion
ehangach. CYTUNWYD y byddai'r Panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet
gyda'u barn a'u hargymhellion. |
|
Cofnodion: Trafododd y Panel bynciau arfaethedig ar gyfer y cyfarfodydd
i ddod. - Diweddariad gan
y Tîm Cadwraeth Natur (mis Mawrth) - Awgrymodd yr Aelodau y dylid cynnwys y pwnc Gorfodi Cynllunio (Bioamrywiaeth) mewn cynlluniau gwaith yn y dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Panel yr ohebiaeth a anfonwyd yn dilyn cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 6 Mai 2021. |
|