Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

7.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

8.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2022.

9.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

10.

Adroddiad Effaith / Dilynol - Ymchwiliad Craffu i Gaffael pdf eicon PDF 211 KB

David Hopkins (Dirprwy Arweinydd) - Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a Chris Williams (Pennaeth Gwasanaethau Masnachol)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Panel Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Masnachol i'r cyfarfod. Diweddarwyd y Panel ynghylch cynnydd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad craffu gwreiddiol a gytunwyd gan y Cabinet ar 20 Hydref 2022.

 

Clywodd y Panel fod 9 o'r 14 o argymhellion wedi'u cwblhau a chytunwyd y gwnaed cynnydd da â'r 5 argymhelliad sy'n weddill. Roedd y Panel yn falch o lofnodi'r ymchwiliad fel un sydd wedi'i gwblhau.

 

Roedd y Panel yn falch o glywed oddi wrth Aelod y Cabinet bod yr ymchwiliad wedi bod yn gynhwysol ac yn ddarn o waith buddiol.

 

Roedd y Panel hefyd yn teimlo'n galonogol o glywed y canlynol am effaith yr ymchwiliad:

 

·       O ganlyniad i'r ymchwiliad, codwyd proffil y materion a nodwyd gan y Panel yn sylweddol ar draws y cyngor llawn - o'r rheini sy'n gweithio ar faterion ynghylch newid yn yr hinsawdd i Archwilio, er enghraifft, yn ogystal ag ar lefel uwch-reolwyr. Mae ffocws a diddordeb y Panel felly wedi amlygu pwysigrwydd y materion a adolygwyd, yn enwedig gallu'r maes gwaith hwn o ysgogi newidiadau pwysig.

·       Mae tueddiadau ehangach wedi cael eu hamlygu o ganlyniad i ffocws y Panel ac mae cydweddiad wedi bod rhwng ffocws y Panel ac ymateb y Cabinet, sydd wedi arwain at ymrwymiad cyffredinol i deithio yn yr un cyfeiriad, gan ddangos cydweddiad strategol y gwaith a'i bwysigrwydd i ddyfodol gweithrediad y cyngor a'i effaith ar yr amgylchedd ehangach.

Ysgrifennir llythyr at Aelod y Cabinet sy'n nodi meddyliau'r Panel yn dilyn y drafodaeth heddiw.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am

 

 

Cadeirydd