Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2021
fel cofnod cywir. |
|
Diweddariad ar Strategaeth y Gweithlu. Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Darparodd y
Rheolwr AD Strategol a Datblygu Sefydliadol ddiweddariad ar Strategaeth y
Gweithlu. Amlygodd y canlynol:- ·
Pedair
thema allweddol – Arwain a Rheoli, Gweithlu sy’n Addas i’r Dyfodol, Bod yn
Gyflogwr Delfrydol a Lles a Chynhwysiad y Gweithlu gyda naw maes gwaelodol a
gweithgareddau allweddol wedi’u nodi. ·
Ymgynghoriadau
a gynhaliwyd - Arolwg staff, Grwpiau Ffocws Gweithwyr, Undebau Llafur, Tîm
Rheoli Corfforaethol a Phennaeth Grwpiau Ffocws Gwasanaethau Cwsmeriaid. ·
Dogfen
i adlewyrchu gweithlu'r dyfodol ·
Roedd
nifer o swyddi wedi’u hysbysebu, a ariannwyd drwy’r Gronfa Adferiad i
gynorthwyo gyda chyflogau a graddfeydd, recriwtio, systemau ansawdd a
chynlluniau ac ymddygiadau sefydliadol. ·
Roedd
datblygu fframwaith hyfforddi ar y gweill ·
Lansio
Grŵp Cydraddoldeb y Gweithlu, gan ganolbwyntio ar gyflawnrwydd data ar
nodweddion gwarchodedig yn gyntaf ·
Ail-lansio
darpariaeth sgiliau iaith Gymraeg ·
Roedd
metrigau a mesuriadau perfformiad wedi'u cynnwys yn y Strategaeth. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Cylch
Gwaith/Cwmpas Grŵp Cydraddoldeb y Gweithlu – casglu data, hyfforddiant cydraddoldeb
ac arferion recriwtio ·
Fforymau
eraill sydd ar gael fel yr Hwb Syniadau, Grŵp Gweithlu Corfforaethol a
Grŵp Arweinyddiaeth Dewch i Siarad ·
Ymgysylltu
ag ysgolion – datblygu arweinyddiaeth, cynllunio ar gyfer olyniaeth a recriwtio
a chadw ·
Llyfr
Stori/Llawlyfr Staff ·
Datblygu
gyrfa – partneriaeth hyfforddi gyda Choleg Gŵyr ·
Lefelau
staffio – i alluogi staff i fanteisio ar hyfforddiant ·
Arbenigwr
recriwtio – adnodd i gyflawni ymgysylltiad – dangosyddion perfformiad allweddol ·
Cyfarfodydd
1-1/ arfarniadau staff - mwy o ffocws ar y gweithiwr ·
Prentisiaethau
– cysylltiadau â’r Fargen Ddinesig ·
Cronfa
Ddysgu Undebau Cymru Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Adroddiad Blynyddol 2021/22. PDF 255 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Adroddiad Blynyddol 2021/22. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddog Strategaeth a Pholisi am ei gwaith dros y flwyddyn
ddinesig yn ogystal â Swyddogion eraill a oedd wedi cefnogi’r Pwyllgor Datblygu
Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei nodi. |
|
Cynllun Gwaith 2021/22. PDF 128 KB Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2021/2022 ac awgrymodd y dylid trefnu i
drafod yr eitemau canlynol yn y cyfarfod nesaf ar 29 Mawrth 2022:- ·
Llyfr
gwaith staff ·
Cydgynhyrchu Penderfynwyd nodi Cynllun Gwaith 2021-22 yn unol â hyn. |