Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratic Services - Tel 901792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 26
Hydref 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd - Cynllun Adfer. PDF 528 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd Adam Hill a Marlyn Dickson adroddiad "er gwybodaeth" a
oedd yn rhoi'r diweddaraf i aelodau ar y cynllun adfer a thrawsnewid. Abertawe
– Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd Amlinellwyd y cefndir a'r sail resymegol y tu ôl i ddatblygiad y cynllun,
yn ogystal â'r prif ddibenion a nodau strategol y fenter sy'n cynnwys y tri
phrif gam y tu mewn iddi, sef ailddechrau, ailffocysu ac ail-lunio
gwasanaethau'r awdurdodau lleol wrth symud ymlaen. Amlinellwyd pynciau amrywiol y ffrwd waith a nodwyd, y gwaith a wneir a’r
mewnbwn a roddir gan y gwahanol dimau datblygu polisi yn y meysydd hyn yn yr
adroddiad. Amlinellwyd y prosiectau a’r llwyddiannau amrywiol eraill o fewn y cynllun
hefyd, gan gynnwys ailddatblygiad sylweddol ac ehangiad canol y ddinas a'r
arena newydd, effaith y strategaeth digartrefedd o ran symud dros 400 o bobl o
lety dros dro, ehangu swyddi Cydlynwyr Ardal Leol i bob rhan o'r ddinas ac
ymagwedd y bartneriaeth at ddarparu ffonau symudol a data i'r rheini y mae eu
hangen arnynt i helpu gyda chynhwysiad digidol. Amlinellwyd hefyd y mentrau
mewnol arbennig a syniadau sy'n cynnwys staff megis canolfannau arweinyddiaeth
a syniadau, y ddarpariaeth ystwyth ddiweddaraf a chefnogaeth i staff yn ystod y
pandemig. Byddai gwaith ar gam 3 y cynllun, sef yr agwedd ail-lunio, a’r cynllunio ar
ei gyfer yn parhau, ond ni fyddai'n cael ei gyflwyno a'i roi ar waith yn llawn
tan ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022 a sefydlu'r
weinyddiaeth wleidyddol newydd a sefydlu'r strwythur uwch-reoli newydd a'i roi
ar waith. Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaed sylwadau ar yr adroddiad a'i
gynnwys, ac roedd cyflwyniad y swyddogion yn cynnwys cyfeiriad at y meysydd
canlynol - staffio, brexit, effaith barhaus y pandemig,
materion ariannu amnewidiol yn y dyfodol a digartrefedd, ac ymatebodd yn unol â
hynny. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad a'u cefnogaeth i'r
pwyllgor. |
|
Adfer ar ôl Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE). PDF 258 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn
amlinellu ac yn nodi'r paratoadau manwl a wnaed gan y cyngor ar gyfer gadael yr
UE, y prif risgiau a nodwyd ar y pryd a hefyd rhoddwyd y diweddaraf i'r
pwyllgor ar y sefyllfa bresennol ar ôl gadael yr UE. Amlinellodd yr effaith mae brexit a'r pandemig
parhaus wedi’i chael yn lleol, yn genedlaethol ac ar draws y byd ar faterion
megis y gadwyn gyflenwi a phrisoedd yn cynyddu, argaeledd y gweithlu a chostau
tanwydd cynyddol etc. Manylodd ar y gwaith partneriaeth gwych a wnaed ar draws nifer o
asiantaethau ar gynllun ailsefydlu dinasyddion yr UE ac amlinellwyd a manylwyd
ar nifer y bobl sydd wedi derbyn cymorth yn yr adroddiad. Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol eto a gwnaed sylwadau ar yr adroddiad
a'i gynnwys, gan gynnwys y meysydd canlynol - niferoedd dinasyddion yr UE nad
ydynt wedi'u nodi eto, materion ariannu amnewidiol a symiau ariannu yn y
dyfodol, prosiect pobl anabl, ac ymatebodd y swyddogion yn unol â hynny.
Byddai'r wybodaeth fanwl nad oedd swyddogion yn gallu’i
darparu yn cael ei chasglu a'i darparu i'r aelodau’n dilyn y cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd eto i'r swyddogion am yr adroddiad a'u cefnogaeth i'r
pwyllgor. |
|
Adborth o'r Gweithdy - Y Gweithlu. Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar y trafodaethau gwych, sesiynau
holi ac ateb ac adborth a wnaed yn y gweithdai a gynhaliwyd o ran Strategaeth y
Gweithlu yr oedd yr aelodau a’r swyddogion yn bresennol ar eu cyfer. Cynhelir trafodaeth/adborth pellach ar y pwnc yn ystod cyfarfod mis Ionawr,
cyn i Adrian Chard ddrafftio adroddiad ffurfiol a'i gyflwyno yn ystod cyfarfod
mis Chwefror. |
|
Cynllyn Gwaith 2021/22. PDF 128 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith 2021/22 ac awgrymodd yr adolygiadau
canlynol: Ionawr Trafodaeth/diweddariad llafar pellach o Weithdy Strategaeth y Gweithlu. Bydd Gweithdy ar Gydgynhyrchu yn dilyn y
cyfarfod. Chwefror Polisi Datblygu Cynaliadwy/Polisi Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol. Adroddiad ar Strategaeth y Gweithlu. Trafodaethau ar yr Adroddiad Blynyddol. Mawrth Adroddiad Blynyddol. Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith diwygiedig fel y’i
hamlinellir uchod ar gyfer 2021/22. |