Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratic Services - Tel 901792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 28 Medi
2021 fel cofnod cywir. |
|
Diogelwch Cymunedol. PDF 401 KB Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Cyflwynodd Paul
Thomas, Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol, adroddiad ar ddiogelwch
cymunedol. Rhoddodd anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig
a ddarparwyd ac amlygodd y canlynol: - ·
Roedd
disgwyl i Strategaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel gael ei
hadolygu'r flwyddyn nesaf ·
Pwysigrwydd
ymgynghoriad cyhoeddus/ymgysylltu â'r cyhoedd ·
Eglurder
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel - dim cyllideb ddyranedig ar gyfer y
bartneriaeth ond ariannwyd 3 swydd drwy grant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ·
Cryfderau
a sgiliau partneriaid a gweithio mewn partneriaeth ·
Cyfrifoldeb
diogelwch cymunedol ·
Alinio
â'r Cynllun Lleihau Troseddau ·
Asesiad
Lles Abertawe ·
Egwyddorion
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i helpu i lunio'r
strategaeth ·
Dyletswydd
newydd bosib o ran trais difrifol i'w chynnwys yn y strategaeth wedi'i
diweddaru ·
Cymunedau
Cryfach - ymagwedd diogelwch cymunedol
cyffredinol gan gynnwys camerâu mewn mannau problemus i gynorthwyo gydag
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon a difrod troseddol ·
Cynhadledd
Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) ar gyfer pobl sy’n
ddiamddiffyn ar y stryd - derbyniwyd dros 110 o atgyfeiriadau hyd yma gyda
rhywfaint o lwyddiant wrth weithio gyda darparwyr tai a darparwyr camddefnyddio
sylweddau ·
Ffrwd
waith trais domestig - tai diogel ·
Poster
diogelwch cymunedol tîm pêl-droed Dinas Abertawe ·
Y
Stryd Fawr - gwnaed gwelliannau ond mae gwaith yn parhau mewn perthynas â gweithwyr
rhyw a llinellau cyffuriau, pryderon ynghylch dadleoli a sicrhau bod gwaith
ymgysylltu yn parhau ·
Pobl
yn parhau i ddefnyddio'r Hwb Cymunedol Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Cefnogaeth
barhaus ar gyfer gweithwyr rhyw - newid y ffordd o weithio ·
Monitro
Dangosyddion Perfformiad ac adrodd arnynt - agweddau statudol ac anstatudol ·
Nodi
meysydd sy'n peri pryder ac adrodd arnynt ·
Ehangu
gwaith gyda'r gymuned fusnes - cyfleoedd gyda gwaith adfywio parhaus ·
Rheoli'r
Hwb Cymunedol ·
Syniadau
posib ar gyfer yr Hwb Cymunedol - cyrsiau coginio, clwb ieuenctid dros dro,
sinema dros dro, ardal ar gyfer tyfu llysiau - sicrhau bod yr Hwb Cymunedol ar
gael i bawb ·
Cynnwys
y gymuned a gweithio mewn partneriaeth ·
Cadw
pobl yn ddienw wrth adrodd am ddigwyddiadau ·
Ymweliad
â'r Hwb Cymunedol y gwanwyn nesaf Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion a'r tîm am eu gwaith Penderfynwyd nodi'r diweddariad. |
|
Cynllun Gwaith 2021/22. PDF 127 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2021/22. Trefnwyd
gweithdai ar Gydgynhyrchu, Strategaeth y Gweithlu a
Diwylliant Sefydliadol. Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2021/22. |