Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon 01792 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 246 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 fel cofnod cywir.

12.

Cydgynhyrchu. pdf eicon PDF 451 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio DLl gyflwyniad ar Gydgynhyrchu a oedd yn cynnwys y canlynol: -

 

 

·                Strategaeth Cydgynhyrchu

·                Cefndir

·                Y Daith i Wreiddio Cydgynhyrchu

·                Beth yw ystyr Cydgynhyrchu?                                

·                Egwyddorion

·                Yr hyn nad yw'n Gydgynhyrchu

·                Gwneud er mwyn/ Gwneud ar gyfer/ Gwneud gyda

·                Sut gall hyn weithio?

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Dealltwriaeth o Gydgynhyrchu - yr hyn yw cydgynhyrchu a'r hyn nad yw'n gydgynhyrchu

·                Newid diwylliannol o ran ffyrdd o weithio

·                Ystyr Cydgynhyrchu - pawb yn gyfartal â llais cyfartal

·                Comisiynu gwasanaethau i helpu gyda Chydgynhyrchu - Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a Rhoi Pobl yn Gyntaf Abertawe

·                Yr hyn sy'n cael ei Gydgynhyrchu ar hyn o bryd - dylunio, cynllunio a chyflwyno gwasanaethau

·                Effaith Cydgynhyrchu ar staffio yn ogystal â chostau a gofynion hyfforddiant.

·                Gwasanaethau/sefydliadau bach a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaeth

·                Gofal cartref

·                Maglau Cydgynhyrchu - e.e. effaith ar staffio os yw sefydliadau eraill yn cyflwyno gwasanaethau  

·                Unrhyw wersi a ddysgwyd neu arfer gorau o Gydgynhyrchu hyd yma

·                Dewis pobl ar gyfer Cydgynhyrchu - gweithio gyda chymunedau i nodi pobl i gymryd rhan a chysylltu â Chydlynwyr Ardaloedd Lleol, Aelodau Ward, Hybiau Cymunedol etc.

·                Sut i gyflawni sefyllfa o weithio gyda'n gilydd ac ymddiriedaeth mewn sefyllfa lle mae diffyg ymddiriedaeth - rhannu pŵer a meithrin cysylltiadau 

·                Ymrwymiad i fwrw ymlaen gyda Chydgynhyrchu ar draws y cyngor cyfan 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Cynllunio DLl.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

13.

Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y byddai’r Pwyllgor yn darparu unrhyw adborth ar y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys Ddrafft o fewn pythefnos.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Ymgynghori yr adroddiad ar Ymgynghori a Chynnwys.

 

Roedd gan y cyngor Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys ers 2005, a oedd wedi darparu fframwaith effeithiol i gwblhau gweithgareddau ymgynghori. Roedd y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys Ddrafft 2021, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn strategaeth wedi'i diweddaru a oedd yn adlewyrchu'r newidiadau ac yn rhoi mwy o amlygrwydd i'r ymagwedd cynnwys y cyhoedd at sicrhau yr ymgynghorir â phreswylwyr Dinas a Sir Abertawe a sefydliadau partner a'u cynnwys mewn modd effeithiol ac ystyrlon.

 

Anogwyd y Pwyllgor i ddarparu unrhyw adborth ar y strategaeth ddrafft yn uniongyrchol i'r Cydlynydd Ymgynghori.

 

Penderfynwyd y dylid darparu unrhyw adborth ar y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys Ddrafft i'r Cydlynydd Ymgynghori o fewn pythefnos. 

14.

Cynllun Gwaith 2021/22. pdf eicon PDF 128 KB

Penderfyniad:

Penderfynwyd y byddai Cynllun Gwaith 2021/22 yn cael ei ddiweddaru’n unol â hyn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2021/22.

 

Awgrymwyd y dylai'r Cydlynydd Ymgynghori roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys ym mis Tachwedd 2021.

 

Cynigiwyd nifer o weithdai: -

 

·                Gweithdy Cydgynhyrchu - Hydref 2021

·                Gweithdy Strategaeth y Gweithlu - Tachwedd 2021

·                Gweithdy Diwylliant Sefydliadol - yn gynnar yn 2022

 

Penderfynwyd nodi Gynllun Gwaith 2021-22 yn unol â hyn.