Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: -

 

Y Cynghorydd P K Jones - personol - Cofnod Rhif 12 - Aelod o Gyfeillion y Ddaear Abertawe ac Ymddiriedolwr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe.

 

Y Cynghorydd M Sherwood - personol - Cofnod Rhif 12 - Gweithiwr o Gower Power, sy'n berchen ar fferm solar. 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 232 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

Nododd y Cadeirydd fod y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys ddiwygiedig ar gyfer 2020-23 bellach wedi ei derbyn ac y byddai'n cael ei dosbarthu i'r pwyllgor, a byddai'r diweddaraf am gerrig milltir allweddol y Fframwaith Cyd-gynhyrchu Strategol yn cael ei rhoi yn fuan.

12.

Camau Gweithredu ar Gyfer yr Argyfwng Hinsawdd a'r Siarter Hinsawdd. pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Roedd y Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau / Dirprwy Arweinydd Dros Dro Ar y Cyd yn bresennol i ystyried 'Camau Gweithredu ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd a'r Siarter Hinsawdd'.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau / Dirprwy Arweinydd Dros Dro Ar y Cyd drosolwg cryno o'r sefyllfa bresennol, gan nodi ei bod yn broblem i'r cyngor yn gyffredinol. Nododd nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu, ond roedd ymdrech amlwg i wneud cynnydd. Byddai cyfathrebu'n bwysig er mwyn esbonio'n glir yr hyn a fyddai'n bosib a'r hyn a fyddai'n gyfyng i ddeddfwriaeth neu rwystrau eraill.

 

Diolchodd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am y gwaith sylweddol a wnaed ar y Strategaeth Allyriadau Carbon.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Lleoedd gyflwyniad ar yr 'Argyfwng Hinsawdd', a oedd yn cynnwys:-

 

·            Cynnwys

·            Rhybudd o Gynnig

·            Siarter Newid yn yr Hinsawdd

·            Siarter - Sylwadau a dderbyniwyd hyd yn hyn

·            Cwmpas ac asesiad y waelodlin

·            Ymgynghori a Chynnwys

·            Fforwm yr Amgylchedd, Abertawe

·            Cyd-destun y polisi

·            Camau Gweithredu Brys neu Gyfleoedd Eraill

·            Sylwadau / Cwestiynau?

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: -

 

·            Ddatblygu polisi yn unol â'r Rhybudd o Gynnig

·            Dyluniwyd y siarter fel Datganiad o Fwriad y gallai'r cyngor a sefydliadau eraill gofrestru ar ei gyfer - cyffredinol ond byddai'r manylion wedyn yn gysylltiedig â chynlluniau gweithredu unigol

·            Sylwadau / diwygiadau awgrymedig a dderbyniwyd ynghylch y Siarter

·            Ymhelaethu ar / cyffredinoli peth o'r eirfa er mwyn apelio at gynulleidfa ehangach - e.e. diwygio'r cyfeiriad at gynnwys ysgolion i gynnwys plant a phobl ifanc

·            Ystyried ac ymchwilio i ddiwygiadau pellach fel rhan o'r cynllun gweithredu, e.e. lleihau swm y cig a'r pysgod sy'n cael ei fwyta

·            Cynnwys yn y siarter yr angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ddarparu'r grymoedd a'r adnoddau angenrheidiol

·            Ystyried y Cwmpas - bod yn ystyriol o ganlyniadau anfwriadol a herio a rheoli ar lefel ehangach

·            Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ei fod am roi arweiniad ar y cwmpas a'r asesiad gwaelodlin

·            Enghraifft o gamau gweithredu cadarnhaol o'r gorffennol - lleihau allyriadau carbon

·            Effeithiau cadarnhaol posib ar ffermydd solar a morlyn llanw Bae Abertawe

·            Cynllun Gweithredu - amlinellu a gwahanu llwyddiannau cyflym a strategaeth tymor canolig/hir

·            Dysgu gan arferion da a gyflwynir gan sefydliadau eraill

·            Anawsterau wrth fesur cynnydd ac effaith

·            Cynnwys - defnyddio Fforwm yr Amgylchedd Abertawe, digwyddiadau ar ffurf marchnadoedd a fforymau i randdeiliaid.

·            Cyswllt â'r Gweithgor Bioamrywiaeth

·            Cyfathrebu'n effeithiol - sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r hyn sydd eisoes yn cael ei wneud a'r hyn sy'n bosib

·            Map Polisi - nodi unrhyw wrthdaro / fylchau a buddion / polisïau cystadleuol

·            Posibilrwydd o ddiogelu arian grant

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet a'r Swyddogion am ddod, ac am eu gwaith ar y mater hwn.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet i'r pwyllgor ac i'r cyhoedd a oedd yn bresennol.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn diwygio'r siarter i gynnwys y diweddariadau a gymeradwywyd gan y pwyllgor, ac yn rhoi diweddariad yng nghyfarfod y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 17 Rhagfyr 2019.

13.

Gweithgor y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad cryno am Weithgor y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd yr aelodau hynny a oedd wedi mynegi diddordeb wedi cwrdd â Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyniad a Pherfformiad Strategol, i drafod yr amcanion. Byddai'r rhain yn cael eu dosbarthu i'r pwyllgor.

 

Penderfynwyd dosbarthu amcanion diwygiedig Gweithgor y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i'r pwyllgor.

14.

Cynllun Gwaith 2019/20. pdf eicon PDF 41 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2019/20 gan amlygu y byddai'r cyfarfod nesaf yn trafod y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau ac amrywiaeth yn y gweithlu. Byddai diweddariad am y Camau Gweithredu ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd a'r Siarter Hinsawdd yn cael ei ychwanegu at y cynllun gwaith ar gyfer mis Rhagfyr.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith diwygiedig.