Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd V M Evans – Cofnod Rhif: 7 – Gweithiwr Rheilffordd Great Western

5.

Cofnodion. pdf eicon PDF 224 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgorau Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021 a 20 Mai 2021 a'u llofnodi fel cofnodion cywir.

6.

Darpariaeth Cyflogadwyedd Cyngor Abertawe. pdf eicon PDF 157 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Allanol, gyda chefnogaeth Arweinydd Tîm Mentoriaid Cyflogadwyedd a'r Prif Swyddog Cyllid Allanol, gyflwyniad ar 'Ddarpariaeth Cyflogadwyedd Cyngor Abertawe' a oedd yn cynnwys y canlynol: -

 

·                Y cefndir a'r ddarpariaeth bresennol ar draws Cyngor Abertawe

·                Cymunedau am Waith

·                Cam Nesa

·                Gweithffyrdd +

·                Diweithdra tymor byr Gweithffyrdd +

·                Cymunedau am Waith +

·                Cymorth a gynigir

·                Ffynhonnell gyllido

·                Y broses cymorth cyflogadwyedd

·                Canolbwynt 1 y PDP – Gwaith cyflogadwyedd gyda phobl sy'n gadael y carchar

·                Materion allweddol a phwyntiau trafod

·                Canolbwynt 2 y PDP – Cefnogi unigolion a roddodd gymorth neu gefnogaeth i eraill yn anffurfiol yn ystod pandemig COVID-19 – Ein Cynnig

·                Materion allweddol a phwyntiau trafod

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar:

 

·                Cynllun Cyfeirio – sut y gwnaed atgyfeiriadau

·                Dirywiad mewn atgyfeiriadau

·                Nifer y bobl ifanc sy'n sicrhau lleoliadau gwaith – sicrhawyd 40 o leoliadau'r wythnos honno gyda Kick Start

·                Defnyddio staff asiantaeth – Archwilio i gynnal adolygiad llawn

·                Cynllun Kick Start - sefydlu lleoliadau â thâl drwy'r cynllun Kick Start gydag Eiddo Corfforaethol a Rheoli Gwastraff

·                Cynllun Tu Hwnt i Frics a Morter

·                Cymorth i wirfoddolwyr a oedd wedi darparu cefnogaeth drwy bandemig COVID-19 – cynnig dysgu gydol oes

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion ac edrychodd ymlaen at gael rhagor o wybodaeth yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

7.

Hwb Cymunedol.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Roddodd Rheolwr y Bartneriaeth Integreiddio Cymunedol yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y Stryd Fawr a Diogelwch Cymunedol.

 

Yn dilyn sylwadau anffafriol yn y wasg yn 2019 ynglŷn â'r Stryd Fawr, sefydlwyd Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol. Sefydlwyd nifer o ffrydiau gwaith sy'n gweithredu ar sail gweithio mewn partneriaeth. Mae'r ffrydiau gwaith presennol yn cynnwys y canlynol: -

 

1)           Troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol - Arweinir gan Heddlu De Cymru

2)           Camddefnyddio Sylweddau – Arweinir gan Barod

3)           Gweithiwyr Rhyw ar y Stryd a Chamfanteisio – Arweinir gan Gymorth i Fenywod

4)           Mannau Cyhoeddus – Arweinir gan Gyngor Abertawe

 

Roedd gweithio mewn partneriaeth yn cael gwared ar rai anawsterau wrth i asiantaethau gydweithio yn ogystal â rhoi cyfle i syniadau a dulliau newydd fynd i'r afael â phroblemau.

 

Tynnodd y Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol sylw at rai canlyniadau tymor byr a chanlyniadau tymor canolig i dymor hir a restrir isod:-

 

Canlyniadau Tymor Byr

·                Cynnwys y Gymuned

·                Nodi adnoddau cyllido

·                Creu cysylltiadau â phartneriaid ac adrannau eraill

·                Ceidwaid canol y ddinas - Ceidwad sy'n ymroddedig i'r Stryd Fawr

·                Addasrwydd lle datblygu - nid at ddefnydd yr Awdurdod Lleol yn unig

·                Posibiliadau ynghylch mannau cyhoeddus

Canlyniadau tymor canolig i dymor hir

·                Y posibilrwydd o gau neu addasu twnnel y Strand yn y dyfodol

·                Gwella diogelwch a golau yn nhwnnel Jockey Street

·                Profi syniadau gyda'r gymuned

 

Adroddwyd bod cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer lle cymunedol a bod gwaith adnewyddu wedi dechrau ar dri eiddo busnes gwag ar ben y Stryd Fawr. Byddai angen i'r gymuned llunio'r ardal/lle cymunedol hwn. Dosbarthwyd 3,000 o daflenni yn y gymuned i ysgolion lleol, busnesau a phreswylwyr etc. er mwyn cael eu barn am sut olwg fyddai ar y lle cymunedol. Mae rhai syniadau hyd yma wedi cynnwys clybiau ieuenctid dros dro, dosbarthiadau gwaith coed, prosiectau gwyrdd a gweithdy i greu planwyr. Cafwyd ymateb da ar ôl dosbarthu taflenni gyda nifer o bartïon yn dangos diddordeb mewn cymryd rhan. Cynhaliwyd digwyddiadau pellach er mwyn gwneud gwaith dilynol ar ôl dosbarthu taflenni.

 

Tynnwyd sylw hefyd at lwyddiannau pellach ynghylch prosiect SWAN, gwaith allgymorth, cynnwys ar y cyd, patrolau ar y cyd a warantau cyffuriau.

 

Roedd trafodaethau a chwestiynau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Strwythur Llywodraethu 

·                Rôl partneriaid

·                Nifer yr heddlu sy'n patrolio strydoedd

·                Cynnwys y gymuned - effaith COVID-19 a chynnwys y gymuned yn barhaus trwy'r pandemig

·                Pwysigrwydd cydgynhyrchu wrth gynnwys y gymuned a gwneud cynnydd ar waith cydgynhyrchu ar gyfer y cyngor cyfan

·                Proses enwi, dylunio a defnyddio lle cymunedol - sicrhau bod y lle'n gallu cael ei ddefnyddio gan bartneriaid/drydydd parti hefyd

·                Posibilrwydd ffrydiau ariannu o grantiau cymunedol

·                Posibilrwydd cyflwyno lle cymunedol i ardaloedd eraill os yw’n gweithio'n dda

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol a'i dîm am eu hymroddiad a'u gwaith caled ar y Stryd Fawr.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

8.

Cynllun Adfer.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Rheolwr Rhaglen Newid Strategol ddiweddariad ar y Cynllun Adfer.

 

Gwnaed cynnydd da mewn perthynas â brechiadau, fodd bynnag, roedd amrywiolion newydd yn cadw'r cyngor mewn sefyllfa i ymateb ac nid adfer. Roedd y cyngor yn cefnogi'r rhaglen Profi ac Olrhain o hyd, y rhaglen frechu yn ogystal â darparu cyngor i fusnesau a chymunedau ynghylch brwydro yn erbyn COVID-19. Roedd y cyngor hefyd yn cefnogi'r Gwasanaeth Tystysgrif Brechu Cymru Gyfan ac maent wedi prosesu tua 19,500 o dystysgrifau brechu. Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr ddiolch i'r tîm am eu gwaith.

 

Amlygodd Reolwr y Rhaglen Newid Strategol rai meysydd cynnydd a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·                Penodi swydd Rheolwr y Rhaglen Newid Strategol.

·                Sefydlwyd Grwpiau Llywio

·                Roedd arweinwyr y ffrydiau gwaith yn dechrau adrodd am lwyddiannau a bwydo i mewn i’r bwrdd

·                Roedd dulliau adrodd ar waith

·                O ran risgiau, nid oedd unrhyw risgiau coch ar gyfer y flwyddyn bresennol na risgiau uchel

·                Adolygiad misol o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol

·                Adolygu Llywodraethu

·                Arweinyddiaeth ar gynlluniau gwaith ar gyfer y dyfodol

·                Cynhaliwyd gweithdy darganfod ar gyfer staff

·                Cyflwynwyd cais grant ar gyfer y llinyn economaidd ac amgylcheddol

·                Trefnwyd cyfarfodydd gyda'r Tîm Cyfathrebu a TG i drafod y dyfodol

·                Datblygu Fframwaith Trawsnewid

·                Disgwylir i’r adrannau Craffu ac Archwilio ddarparu'r diweddaraf

·                Cyfarfodydd rhanddeiliaid i’w cynnal ynghylch gwasanaethau sy’n ofynnol ymhen 10 mlynedd

·                Adolygu Cynllun Ariannol y Tymor Canolig

 

Trafododd y Pwyllgor a Swyddogion meysydd/pynciau posib i'r pwyllgor eu hystyried:

 

·                Pa wasanaethau fyddai’n cael eu darparu yn y dyfodol a sut y byddent yn cael eu darparu?

·                Polisi Datblygu Cynaliadwy

·                Polisi Cydgynhyrchu

·                Cefnogi sgyrsiau ehangach/cynnwys grwpiau ehangach

·                Dinas Hawliau Dynol

·                Diwylliant y sefydliad yng ngolau ffyrdd newydd o weithio/gweithio ystwyth

·                 Diogelwch Cymunedol

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

9.

Cynllun Gwaith 2021/22. pdf eicon PDF 126 KB

Penderfyniad:

Caiff Cynllun Gwaith 2021/22 ei ddiweddaru’n unol â hynny.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd 'Cynllun Gwaith 2021/22’

 

Nodwyd y byddai’r Pwyllgor Polisi yr Economi ac Isadeiledd yn edrych ar drafnidiaeth a byddai'r Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau yn edrych ar y Cyngor Ieuenctid/Fforwm Ieuenctid.

 

Trafododd y Pwyllgor bynciau a threfnwyd y canlynol dros dro

 

27 Gorffennaf 2021 - Cydgynhyrchu

28 Medi 2021 - Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys Diogelwch Cymunedol

26 Hydref 2021 - Polisi Datblygu Cynaliadwy

30 Tachwedd 2021 - Adfer o Adael yr Undeb Ewropeaidd

 

Byddai'r pwyllgor hefyd yn ceisio trefnu gweithdy ar gydgynhyrchu

 

Penderfynwyd nodi cynllun gwaith 2021-22 yn unol â hyn.