Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd V M Evans – Cofnod Rhif: 33 – Cynlluniau Adfer – Cyflogwyd gan GWR – personol.

32.

Cofnodion. pdf eicon PDF 227 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2021 fel cofnod cywir.

33.

Cynllun Adferiad. (Arweinydd y Cyngor) (Llafar)

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd, yn anffodus, fod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd

R C Stewart, wedi cael ei alw i gyfarfod brys ac wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod.  Ychwanegodd y byddai'n dod i'r cyfarfod nesaf a drefnwyd ym mis Mehefin 2021.

 

Nododd y Cadeirydd hefyd y cynnydd a gafodd mewn cyfarfod gyda'r Cynghorydd A Pugh, Yr Aelod Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, a thrafododd y canlynol â'r Pwyllgor: -

 

·         Cyflogadwyedd – adroddodd y Cadeirydd ar y cynnydd a wnaed drwy'r Awdurdod o ran y Cynllun Rhyddhau Carcharorion a thynnodd sylw at lwyddiant cynllun blaenorol a fyddai, gobeithio, yn cael ei ailsefydlu.

 

Tynnodd y Pwyllgor sylw at wahanol feysydd ar gyfer cynnydd megis cynnwys elusennau lleol, cyfiawnder adferol, cynnwys undebau credyd, problemau budd-daliadau sy'n gysylltiedig â charchariad byr;

 

·         Prosiect y Stryd Fawr – Byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Mehefin 2021.  Byddai cynrychiolwyr y Tîm Cydnerthedd yn rhoi cyflwyniad ynglŷn â'r dyheadau a sut y byddai problemau'r ardal yn cael eu datrys. 

 

Trafododd y Pwyllgor y cyfle i weithio mewn partneriaeth â'r Tîm Cydnerthedd a dylanwadu ar y datblygiadau, cynnwys Aelodau Ward y Castell yn y prosiect, pwysigrwydd gwneud cynnydd ar unwaith yn dilyn pandemig COVID-19, yr angen i gael diweddariadau ysgrifenedig yn hytrach na llafar, y diffyg cysylltedd rhwng Canol y Ddinas / Gorsaf Fysus a'r Orsaf Drenau a'r effaith negyddol barhaus ar yr economi leol, yr anawsterau a wynebir gan yr ardal / pobl sy'n agored i niwed / yr angen i gefnogi unigolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:  -

 

1)    Nodi cynnwys y trafodaethau;

2)    Bydd y Cadeirydd yn trefnu Gweithgor i drafod Cyflogadwyedd.

34.

Cynllun Gwaith 2020/21. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2020/21.  Amlinellodd y byddai'r canlynol yn cael eu trefnu ar gyfer y cyfarfod ym mis Mehefin 2021: -

 

·         Fforwm / Cyngor Ieuenctid

·         Cronfa Cadernid

·         Cynllun Adfer

·         Cyflogadwyedd / Gwirfoddoli Cymunedol

·         Diweddariad ar y Stryd Fawr

·         Rhaglen Ddinasyddiaeth

 

Ychwanegwyd y byddai Cyd-gynhyrchu yn cael ei drefnu ar gyfer y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2021.  Nodwyd bod materion Trafnidiaeth wedi symud i PDP yr Economi ac Isadeiledd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.