Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 23
Chwefror 2021 fel cofnod cywir. |
|
Diweddariad ar y Cynllun Adfer. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Weithredwr yr wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Adfer a oedd yn
cynnwys:- ·
Cymeradwywyd
yr adroddiad 'Abertawe'n Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd' ym mis Hydref 2020 ·
Dal i
fod yn y modd ymateb i COVID-19 ar hyn o bryd ·
Ailddechrau,
newid ffocws ac ail-lunio ·
Effaith
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ·
Adolygiad
Llywodraethu - Creu grŵp llywio newydd (Grŵp Llywio Trawsbynciol a
Thrawsnewid Sefydliadol) a Bwrdd Strategaeth newydd (Bwrdd Strategaeth Adfer,
Ail-lunio a Chyllideb) – cytunwyd ar gylch gorchwyl ar gyfer y ddau ·
Roedd
cerrig milltir a therfynau amser perchennog wedi'u sefydlu ar gyfer pob ffrwd
waith ·
Symud
ymlaen a byw gyda COVID-19 – sicrhau parodrwydd ar gyfer y byd newydd ·
Byddai'r
rhaglen ail-lunio/trawsnewid yn dechrau yn 2022 ·
Mae Cynllun
Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe wedi'i gymeradwyo ·
Roedd
Rhaglen Gyfalaf Safonau Ansawdd Tai Cymru a Chydymffurfiaeth wedi'u hadrodd i'r
cyngor ·
Lluniwyd
dogfen ar weithio gartref yn ystod COVID-19 ·
Cynhaliwyd
arolwg staff ar weithio gartref ·
Anfonwyd
nodyn briffio at reolwyr i helpu i gefnogi staff ·
Cwblhawyd
cynllun amlinellol ar gyfer Strategaeth Datblygu'r Gweithlu a'r Sefydliad ac
roedd y gwaith yn mynd rhagddo ·
Roedd
y Polisi Gweithio'n Ystwyth yn mynd rhagddo ·
Roedd
dangosfyrddau ac adroddiadau ar waith ac yn cael eu hadrodd i'r grŵp
Llywio a'r Bwrdd newydd ·
Perfformiad
- roedd 128 o gamau gweithredu yn cael eu prosesu ar hyn o bryd drwy ·
Gyllideb
– ailffocysu'r cynllun ariannol tymor canolig Roedd y cwestiynau
a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Iechyd
Meddwl Staff – argaeledd seicolegwyr i gefnogi staff ·
Sut
olwg fydd ar amgylchedd y swyddfa yn y dyfodol – trafodaeth ar ardaloedd rhannu
desgiau a swyddfeydd cynllun agored ·
Agor
Swyddfeydd Tai Rhanbarthol ·
Gwahanol
anghenion staff – Nid yw un ffordd o weithio yn addas i bawb ·
Dysgu
o gamgymeriadau a wnaed ·
Cwmpas
y Pwyllgor – meysydd lle gall y Pwyllgor ychwanegu gwerth Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cronfa Gadernid. Cofnodion: Nid oedd yr
Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod, a byddai'n bresennol yn y cyfarfod nesaf i drafod y
Gronfa Cadernid. |
|
Cynllun Gwaith 2020/21. PDF 127 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2020/21. Byddai'r
Cadeirydd yn trefnu i gyfarfod â'r Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata ynghylch Cydgynhyrchu a byddai'n cyfarfod â'r Cynghorydd Alyson
Pugh, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, ynghylch Cyflogadwyedd Aildrefnu'r
Gronfa Cadernid ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor. Byddai gweithdy ar
y Cynllun Adfer yn cael ei sefydlu unwaith y byddai adroddiad diweddaru
ysgrifenedig pellach ar gael. Penderfynwyd diweddaru'r Cynllun Gwaith yn unol â hynny. |