Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

23.

Cofnodion. pdf eicon PDF 228 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgor Datblygu Polisi Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

24.

Adborth o'r Gweithdy ar y Cynllun Gwaith. (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd drosolwg o'r gweithdy a'r materion a drafodwyd. Roedd yr eitemau canlynol yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

1)    Cydgynhyrchu

 

·                Awgrymwyd y dylid gwahodd cynrychiolydd o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i ddangos sut maent wedi rheoli cyd-gynhyrchu ac wedi cynhyrchu eu fframwaith polisi.

·                Awgrymwyd hefyd y dylid gwahodd Lee Wenham i drafod ymagwedd gorfforaethol

 

2)            Gwella golwg a naws cymdogaethau

 

·                Edrych ar agenda'r strydlun a gwahodd cynrychiolydd

·                Trafod sut y gall y Pwyllgor weithio gyda thrigolion a swyddogion i wella a chyfoethogi eu hardaloedd

·                Ariannu a gweithio gyda chymunedau/ystyried cydgynhyrchu i gefnogi gwaith

 

3)            Adeiladu ar Weithredu Cymunedol/Gwirfoddolwyr

 

·                Gwahodd cynrychiolydd i drafod cyllid i gefnogi cynlluniau cymunedol

·                Adeiladu ar weithredu cymunedol a ddangoswyd drwy bandemig COVID-19 a bwrw ymlaen â hynny

·                Strategaeth gwirfoddoli ar gyfer staff

 

4)    Nodi Gwasanaethau y gallai'r cyngor eu darparu o dan y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

 

·                   O edrych ar wasanaethau y byddai'r cyngor yn gallu eu darparu nad yw'n gallu eu darparu ar hyn o bryd

·                   Adolygu'r hyn y mae awdurdodau eraill wedi'i wneud o dan y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

·                   Prentisiaethau /hyfforddiant a dilyniant gyrfa i staff

 

5)    Trafnidiaeth

 

·                Gwahodd cynrychiolydd i roi trosolwg o anghenion trafnidiaeth

·                Gwahodd cynrychiolydd o ddarparwyr trafnidiaeth a/neu Gynlluniau Cludiant Cymunedol

·                Awgrymwyd, gan ei fod yn bwnc mawr a bod nifer o Bwyllgorau Datblygu Polisi yn edrych ar agweddau ar drafnidiaeth, y byddai'n werth cynnal gweithdy/cyfarfod ar y cyd ar drafnidiaeth i ddeall y materion allweddol a thrafod pa faterion y mae pob Pwyllgor yn edrych arnynt.

 

Yn ogystal â'r eitemau hynny a drafodwyd yn y gweithdy, trafododd y Pwyllgor hefyd strategaeth y gweithlu a sut i gefnogi, ailhyfforddi a gwella sgiliau'r gweithlu presennol i addasu i'r ffyrdd newydd o weithio – sut i gael gwared ar rywfaint o fiwrocratiaeth a chyfyngiadau i staff wrth gadw mewn cysylltiad a monitro perfformiad ar yr un pryd. Trafododd y Pwyllgor arolygon staff a siarad â staff ac aelodau i gydgynhyrchu unrhyw bolisi a wnaed. Awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor gynllunio holiadur ar gyfer staff sy'n ymwneud â gweithlu'r dyfodol y gellid wedyn ei ddosbarthu a'i fwydo i mewn i strategaeth y Gweithlu. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith y byddai'n werth siarad â phreswylwyr er mwyn cwblhau'r wybodaeth yn ogystal â chael eu barn ar gael mynediad at wasanaethau ac a yw'r ffyrdd newydd o weithio yn diwallu eu hanghenion.

 

Trafododd y Pwyllgor y Cyngor Ieuenctid hefyd. Roedd gan Gyngor Abertawe Fforwm Ieuenctid, ond nid Cyngor Ieuenctid. Awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor geisio sefydlu Cyngor Ieuenctid i sicrhau bod barn pobl iau yn cael ei chlywed.

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad.

25.

Cynllun Gwaith 2021/21. pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith 2020/21.

 

Trefnwyd i'r Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Adfer. 

 

Awgrymwyd y dylid ychwanegu'r Cyngor Ieuenctid at yr Agenda ar gyfer mis Mawrth.

 

Dylid sefydlu cyfarfod/gweithdy ar y cyd ar drafnidiaeth.

 

Ychwanegir cymorth i staff y cyngor at y Cynllun Gwaith.

 

Penderfynwyd diweddaru Cynllun Gwaith 2020/21 yn unol â hynny.