Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 227 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir.

20.

Adfer a Chenedlaethau'r Dyfodol.

Cofnodion:

Darparodd yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth ddiweddariad am ymateb y ddinas i bandemig COVID-19 a'i hadferiad.

 

Nododd yr Arweinydd fod gostyngiad cyson yn nifer yr heintiau yn ogystal â dilyniant cyflym i'r rhaglen frechu, gyda'r holl feddygfeydd a Chanolfannau Brechu Torfol ar waith. Roedd unedau symudol i fod i ddechrau cyn bo hir.

 

O ran Adferiad, tynnodd yr Arweinydd sylw at 3 phennawd allweddol i'w hystyried: 

 

1.         Gwasanaethau sydd wedi cael eu hail-lunio yn ystod y pandemig - pa newidiadau a allai fod yn addas ac yn llwyddiannus yn y tymor hir

2.         Newidiadau i'r ffyrdd o weithio, yn benodol gydag Awdurdodau Lleol eraill a Phartneriaid Trydydd Parti – e.e. defnyddio cyfarfodydd o bell

3.         Yr hyn y gall y cyngor ei wneud i gefnogi busnesau a chymunedau yn dilyn COVID-19 – gwneud preswylwyr Abertawe ac economi Abertawe yn flaenllaw o ran yr hyn a wnawn

 

Byddai'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd ar y gweill yn darparu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol, gan roi rhagor o gyfleoedd i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau gwahanol. Dylid ystyried effaith y Bil hwnnw ac a oedd unrhyw wasanaethau y gallai'r cyngor fod mewn sefyllfa dda i'w cynnal neu i gymryd mwy o ran ynddynt – e.e. trafnidiaeth

 

Dangosodd adroddiad annibynnol fod Abertawe wedi'i dynodi i arwain adferiad swyddi Cymru eleni gyda thwf rhagamcanol o 8.1%. Roedd yn hanfodol parhau i symud ymlaen gyda datblygu a chreu swyddi i sicrhau bod y cyfleoedd a'r swyddi ar gael i Abertawe. Disgwylid y byddai nifer o swyddi newydd yn cael eu creu dros y flwyddyn neu ddwy nesaf yn Abertawe.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                Yr effaith ar niferoedd myfyrwyr prifysgol – disgwylir twf o hyd ond ar gyfradd is o bosib

·                Digideiddio – effeithiau posib ar swyddi a gwahanol ffyrdd o weithio

·                Datblygu diwydiant twristiaeth – pwysigrwydd gwella a gwneud y gorau o'r diwydiant twristiaeth fel rhan o'r adferiad o COVID-19

·                Effaith cau Debenhams ar Abertawe a ledled y wlad – negeseuon clir ar benderfyniad cenedlaethol, nid Abertawe yn unig

·                Ffyrdd o ddenu siopau enwau mawr i Abertawe – hyder yn y ddinas a mwy o ymwelwyr 

·                Gwaith Staff yn ystod y Pandemig – ymrwymiad a hyblygrwydd staff i gynnal gwasanaethau ac arallgyfeirio i ddarparu gwasanaethau newydd

·                Mae angen cynnig gwell o ran cludiant – ystyried yr holl gynlluniau trafnidiaeth posib e.e. rhannu ceir, beic trydan

·                Effeithiau Brexit ar dwristiaeth – colli arian ar gyfer Acwariwm Digidol ac opsiynau ariannu eraill sydd ar gael e.e. Cronfa Ffyniant Gyffredin

·                Effaith Brexit ar ddenu myfyrwyr rhyngwladol heb fod yn rhan o Gynllun ERASMUS mwyach

·                Adfywio'r Stryd Fawr

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

21.

Cynllun Gwaith 2020/21. pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith 2020/21 a nododd y byddai gweithdy'n cael ei drefnu cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror.

 

Trefnwyd i Adam Hill ddod i'r Pwyllgor ym mis Mawrth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Adfer. 

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2020-21 yn unol â hyn.