Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

14.

Cofnodion. pdf eicon PDF 231 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

 

15.

Y Diweddaraf am Gydgynhyrchu. (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata gefndir i gyd-gynhyrchu a nododd ei fod wedi symud i'w faes ef yn ddiweddar. Roedd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi'i gymeradwyo gan y cyngor ac roedd Bwrdd Cydraddoldeb Strategol yn cael ei sefydlu.

 

Roedd fframwaith Cyd-gynhyrchu wedi'i sefydlu i'w gymeradwyo, ond nodwyd na fu cynnydd sylweddol yn ystod pandemig COVID-19. Nodwyd hefyd fod adnoddau'n broblem yn ogystal â COVID-19. Byddai angen hyfforddiant i wella sgiliau adrannau wrth ddefnyddio cyd-gynhyrchu.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Defnyddio cyd-gynhyrchu yn y Gwasanaethau Cymdeithasol

·            Cynllun gweithredu drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer cyd-gynhyrchu

·            Amserlenni newydd ar gyfer fframwaith

·            Sut beth yw cyd-gynhyrchu llawn o'i gymharu ag ymgynghori

·            Dewis pryd i ddefnyddio cyd-gynhyrchu dros ddulliau ymgysylltu eraill

·            Adnoddau a gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cyd-gynhyrchu

·            Manteision posib o ran adnoddau sy'n deillio o gyd-gynhyrchu – cael pethau'n iawn y tro cyntaf

·            Iaith cyd-gynhyrchu – gall bod yn nerfus o dermau leddfu rhai ofnau i ddefnyddio sgyrsiau

·            Cyfyngiadau cyd-gynhyrchu – deddfwriaeth, amodau grant, cyfyngiadau amser ac ati.

·            Gosod disgwyliadau – cyfleu'n glir yr elfennau y gellir eu newid a'r rhai na allant gael eu newid

·            Rôl Aelodau'r Ward yn y broses cyd-gynhyrchu

·            Gwersi a ddysgwyd o'r gwaith a wnaed yn ystod COVID-19 – enghreifftiau gwych o gydweithio

 

Penderfynwyd:

1)    Dosbarthu'r Fframwaith Cyd-gynhyrchu i'r Pwyllgor

2)    Trefnu i drafod fframwaith ac amserlenni cyd-gynhyrchu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

16.

Yr Amgylchedd Naturiol.

Cofnodion:

Tynnodd y Cynghorydd Peter Jones sylw at rai meysydd sy'n edrych ar yr Amgylchedd Naturiol, megis Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol, Grŵp Gweithredu ar Fioamrywiaeth Gorfforaethol a Newid yn yr Hinsawdd yn ogystal â llofnodi Siarter Newid yn yr Hinsawdd y cyngor yn fuan. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd unrhyw Bwyllgor Datblygu Polisi yn edrych ar yr Amgylchedd Naturiol.

 

Trafododd y Pwyllgor feysydd posib o'r Amgylchedd Naturiol y gellid edrych arnynt a oedd yn cynnwys; -

 

·            Parhau i ddefnyddio glyffosad

·            Y ddau argymhelliad a ddeilliodd o'r Ymchwiliad Craffu na chawsant eu derbyn – Roedd hyn yn cynnwys yr argymhellion ar gyfer dwy swydd newydd (Swyddog Adran 6 a swydd rhan-amser ar gyfer Ecolegydd Cynllunio)

·            Edrych ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd – dysgu a chyfleu sut mae wedi ymgorffori gwell amddiffyniad i'r Amgylchedd Naturiol

 

Nododd y Cynghorydd Anderson fod Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd wedi'i ailenwi'n Bwyllgor Datblygu Polisi'r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd yng nghyfarfod y cyngor ar 3 Rhagfyr 2020.

 

Penderfynwyd mai Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd fydd yn ymdrin â phwnc yr Amgylchedd Naturiol.

17.

Cynllun Gwaith 2020/21. pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2020/21.

 

Roedd cyd-gynhyrchu i'w ychwanegu at y Cynllun Gwaith ar gyfer mis Ionawr i drafod y fframwaith Cyd-gynhyrchu ar ôl iddo gael ei ddosbarthu.

 

Awgrymwyd hefyd y dylid trefnu i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Adfer ym mis Ionawr.

 

Penderfynwyd diweddaru'r cynllun gwaith ar gyfer 2020-21 yn unol â hyn.