Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

8.

Cofnodion. pdf eicon PDF 219 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'n cyfarfod ymhellach â'r Cynghorydd David Hopkins ynghylch y Strategaeth Cydgynhyrchu a'r Polisi Datblygu Cynaliadwy.

 

Bu’r Cynghorydd Louise Gibbard yn arwain ar y Cynnig Mae Bywydau Du o Bwys a byddai'r Cadeirydd yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2020 fel cofnod cywir.

9.

Y Diweddaraf am Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydiadol. pdf eicon PDF 235 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn amlinellu'r camau/mesurau a gymerwyd yn ystod COVID-19 i gefnogi'r gweithlu. Amlygodd y canlynol: -

 

·            Egwyddorion Ategol

·            Datblygu tudalen Cwestiynau Cyffredin

·            Cyfathrebu a chynnwys gweithwyr ac Undebau Llafur

·            Ymgynghoriad a chefnogaeth ar gyfer gweithwyr BAME - Lluniwyd asesiad risg penodol ar gyfer gweithwyr BAME ac mae’r gydnabyddiaeth hynny wedi derbyn cydnabyddiaeth ac wedi’i mabwysiadu ar draws Cymru

·            Egwyddor Dim Anfantais

·            Gweithio ystwyth/Gweithio o bell - arweiniad ac asesiadau risg i sicrhau y gellir gweithio'n ddiogel mewn cartrefi

·            Datblygiad Polisi yn y Dyfodol

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Ystyried costau uwch o weithio gartref o ran trydan a gwresogi

·            Cefnogaeth ychwanegol ar gyfer offer TG

·            Cefnogi gweithwyr sy'n profi cam-drin domestig

·            Ystyried/cynnwys cam-drin economaidd yn y polisi cam-drin domestig

·            Arolwg ar gyfer staff am weithio gartref - posibilrwydd ail-wneud yr arolwg oherwydd gallai barn pobl fod wedi newid ar ôl ei brofi am gyfnod hirach

·            Gostyngiad treth ar gyfer staff

·            Asesiadau risg ar gyfer gweithwyr

·            Gwaith gwych wedi'i wneud o ran cefnogi gweithwyr BAME

·            Cynnydd a datblygiad Polisi Gweithio Ystwyth - i gynnwys gweithio gartref

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

10.

Help Llaw.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Ymgynghorydd a Chwnselydd Rheoli Straen ddiweddariad i'r Pwyllgor ynghylch y gwaith a wnaed gan wasanaeth Help Llaw yn ystod COVID-19. Amlygodd y canlynol:

 

·            Pryder am staff, yn enwedig y rheini ar y rheng flaen

·            Rhoddwyd hyfforddiant i wirfoddolwyr er mwyn iddynt ddarparu cymorth cyntaf seicolegol mewn argyfwng

·            Ymagwedd ragweithiol - cynigiwyd cyfaill gwirfoddol i staff y rheng flaen ynghyd â galwad 15 munud bob wythnos heb iddynt orfod cysylltu â'r gwasanaeth dros eu hunain

·            Dangosodd werthusiad o'r gwasanaeth fod lles a gwydnwch staff wedi gwella ar ôl defnyddio'r gwasanaeth am rai wythnosau

·            Cynigiwyd hyn hefyd i gartrefi gofal preifat lle nad oedd cefnogaeth o'r fath ar gael

·            Hyfforddiant ar-lein i staff, yn ogystal â hyfforddiant mewn fformatau eraill ar gyfer y rheini na allant gyrchu'r hyfforddiant ar-lein

·            Byddai atgyfeiriadau newydd i'r gwasanaeth yn derbyn galwad o fewn 24 awr

·            Gwasanaeth ar agor i bob aelod o staff, gan gynnwys Aelodau

 

Trafododd y Pwyllgor feysydd ariannu a chefnogaeth ar gyfer y gwasanaeth

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r Prif Ymgynghorydd a Chwnselydd Rheoli Straen a'i thîm am y gwaith y maent wedi'i wneud o ran cefnogi staff.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

11.

Cydgynhyrchu.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Strategaeth a Pholisi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor fod Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata, Lee Wenham, wedi ymgymryd â’r gwaith ar Gydgynhyrchu. Gall y Bwrdd Cydraddoldebau Strategol newydd gwmpasu'r gwaith hwn hefyd.

 

Nodwyd bod enghreifftiau o roi cynnig ar gydgynhyrchu cyn hyn ond nid oeddent wedi bod mor llwyddiannus ag y gobeithiwyd. Byddai'n ddefnyddiol edrych ar yr hyn nad oedd yn llwyddiannus a pha welliannau y gellid eu gwneud i helpu i symud ymlaen yn fwy cynhyrchiol.

 

Byddai'r Cadeirydd yn cyfarfod ag Aelod y Cabinet ac yn rhoi diweddariad.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

12.

Cynllun Gwaith 2020/21. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020/21 a chadarnhaodd y byddai'n cyfarfod ag Aelodau perthnasol y Cabinet i symud ymlaen â'r Cynllun Gwaith a'r blaenoriaethau.

 

Ychwanegir Cydgynhyrchu at gyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr ynghyd â’r Strategaeth Ynni a'r Amgylchedd Naturiol.

 

Penderfynwyd diweddaru'r cynllun gwaith yn unol â hyn.