Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a
Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2021. (Drafodaeth) PDF 126 KB Cofnodion: Gwahoddodd y
Cadeirydd y pwyllgor i drafod y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020/2021. Rhoddodd y
Cynghorydd Louise Gibbard, y cyn-Gadeirydd, yr wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun
Gwaith 2019/2020 a nododd y canlynol: ·
Roedd
y strategaeth gydgynhyrchu wedi'i chwblhau ar ffurf
ddrafft, y cam nesaf fyddai ei rhoi ar waith. ·
Byddai
Bwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei sefydlu ·
Roedd
gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r Cynnig Mae Bywydau Du o Bwys Trafododd y
pwyllgor bynciau posib ar gyfer Cynllun Gwaith 2020/2021 a oedd yn cynnwys: ·
Cydgynhyrchu ·
Strategaeth
Ynni ·
Ymgysylltu
â Staff – gweithio o bell ac effaith COVID-19 ·
Democratiaeth
y cyngor – effaith COVID-19 ·
Yr
Amgylchedd Naturiol ·
Polisi
Datblygu Cynaliadwy ·
Lles ·
Cynllun
Adfer ·
Materion
yn codi o'r Bwrdd Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol a COVID-19 Trafododd y
pwyllgor hefyd y defnydd o weithgorau a chael adroddiadau ysgrifenedig lle bo
hynny'n bosib. Penderfynwyd ar y canlynol; - 1)
Y
byddai'r Cadeirydd yn cysylltu â'r Aelod y Cabinet dros Gyflawni a
Gweithrediadau/Y Ddirprwy Arweinydd mewn perthynas â datblygu'r Polisi Datblygu
Cynaliadwy drafft; a 2) Dylid diweddaru'r Cynllun Gwaith i gynnwys Cydgynhyrchu, Ymgysylltu â Staff, y Strategaeth Ynni a'r Amgylchedd Naturiol. |