Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldebau a
Chenedlaethau'r Dyfodol a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf am y Strategaeth Ynni. PDF 390 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Gartrefi, Trawsnewid Ynni a Gwasanaethau (y Dirprwy Arweinydd), y
Cyfarwyddwr Lleoedd, y Rheolwr Ynni a Rheolwr y Prosiect yn bresennol wrth i’r
Pwyllgor ystyried Strategaeth Ynni 2020-2030. Tynnodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd sylw at: ·
Adrodd
am allyriadau - Allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 ·
Prosiectau
Ffermydd Solar Newydd ·
Rhaglen
carbon isel Refit ·
Datblygu’r
gwaith i greu Morlyn Llanw Bae Abertawe ·
Cydweithio
ag Egni Co-Op ar ysgolion ·
Tynnu
goleuadau stryd a phriffyrdd o'r Strategaeth Ynni i’w rhoi ar wahân gyda
Phriffyrdd ·
Cynllun
Gweithredu Cysylltiedig Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Disgwylir
cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ·
Plannu
Coed ·
Y
gallu i ddod yn Awdurdod allyriadau di-garbon net erbyn 2030 ·
Diddordeb
gan gwmnïau preifat mewn datblygiad diweddar a Safon Abertawe ·
Coedwigoedd
bychain/bach Diolchodd Aelod y Cabinet a'r Cadeirydd,
ar ran y Pwyllgor, i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a Swyddogion am eu gwaith caled. Penderfynwyd nodi'r adroddiad a'r Diweddariad. |
|
Polisi Datblygu Cynaliadwy. PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Polisi Cynaliadwy adroddiad am y ‘Polisi Datblygu Cynaliadwy’. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Gweledigaeth
- Mae datblygu cynaliadwy’n ymwneud â chael y gorau o'n holl adnoddau heddiw
gan sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau ar gyfer yfory ·
Meysydd
i'w newid – Cynllunio corfforaethol ·
Llywodraethu ·
Nodau
llesiant ac amcanion llesiant ·
Amserlen
ar gyfer cynllun gweithredu ·
Pum
ffordd o weithio – Cyfranogaeth – newid i gyfeirio at gynnwys pawb yn hytrach
na dim ond y rhai sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddog Polisi Cynaliadwy ar ran y Pwyllgor. Penderfynwyd00103: 1)
Cymeradwyo’r
Polisi datblygu cynaliadwy drafft i'w ystyried ymhellach gan y Cyngor; a 2) Chysylltu’r polisi â chynllun gweithredu datblygu cynaliadwy sy'n adrodd i'r TRhC. |
|
Rhaglen Waith 2019/20. PDF 131 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-20. Nododd y
Cadeirydd fod gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r Cynnig Mae Bywydau Du o
Bwys a disgwylid y byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Pwyllgor yn y cyfarfod
nesaf. Roedd y Swyddog
Strategaeth a Pholisi wedi llunio crynodeb drafft o'r gwaith a gwblhawyd gan y
Pwyllgor yn ystod y flwyddyn a fyddai'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelodau a'r swyddogion cefnogi am eu cyfraniad a'u gwaith yn
ystod y flwyddyn ddinesig. Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith. |